Yr Ustus Llwyd
Yr Ustus Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 14 g Mawddwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 14 g |
Cysylltir gyda | Gruffudd de la Pole |
Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Yr Ustus Llwyd, a flodeuai yn y 14g. Roedd yn bengampwr ar y canu dychanol. Ni wyddys ddim amdano ar wahân i'r hyn y gellir ei gasglu oddi wrth dystiolaeth ei gerddi. Mae'n bosibl ei fod yn frodor o ardal Mawddwy.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Nid oes modd inni wybod erbyn heddiw a oedd yr Ustus yn ustus (barnwr) go iawn. Mae'n ddigon posibl mai llysenw cellweirus neu enw barddol ydyw, am ei fod mor hoff o ddarlunio a dychanu beiau pobl. Mae un o'i gerddi yn dangos ei fod yn gyfarwydd iawn â daearyddiaeth cwmwd Mawddwy (de-ddwyrain Gwynedd heddiw) ac felly nid yw'n amhosibl ei fod yn frodor o'r ardal honno ac efallai'n ustus ar y cwmwd a ddaeth yn ddrwgenwog yn ddiweddarach fel cartref Gwylliaid Cochion Mawddwy. Ymddengys fod yr Ustus wedi derbyn ei addysg farddol ym Morgannwg, ond ceir enghreifftiau eraill o feirdd o'r Canolbarth yn cael eu hyfforddi yno a does dim arlliw o iaith y De ar ei waith. Brodor o Feirionnydd oedd y bardd felly, yn ôl pob tebyg.[1]
Ceisiodd rhai hynafiaethwyr ddyddio'r bardd i gyfnod y Gogynfeirdd, ond medrwn dderbyn ei fod yn ei flodau yn y cyfnod tua 1345-1370, fwy neu lai.[1]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Dim ond tair cerdd o'i waith sydd ar glawr heddiw. Ceir marwnad safonol i Roser ap Llywelyn, dychan i Ruffudd de la Pole, Iarll Mawddwy, a dychan arall, deifiol, digrif, anllad ac amharchus iawn, i un Madog Offeiriad.[1]
Nid yw'n amhosibl mai mab Llywelyn Bren yw'r Roser ap Llywelyn y canodd yr Ustus farwnad iddo, ond dyfalu yw hynny. Roedd Gruffudd de la Pole yn un o ddisgynyddion Gwenwynwyn, tywysog Powys Wenwynwyn; gwyddom ei fod yn fyw yn 1343. Ni wyddys ddim o gwbl am Fadog Offeiriad.[1]
Cedwir y testunau cynharaf yn Llawysgrif Hendregadredd.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Golygir gwaith y bardd gan Twm Morys yn y gyfrol,
- Barry J. Lewis (gol.), Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007). Cyfres Beirdd yr Uchelwyr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd