Neidio i'r cynnwys

Owain Gwynedd (bardd)

Oddi ar Wicipedia
Owain Gwynedd
Ganwyd1540s Edit this on Wikidata
Bu farw1601 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1550 Edit this on Wikidata
Am y tywysog o'r 12fed ganrif, gweler Owain Gwynedd.

Bardd Cymraeg oedd Owain Gwynedd (tua 1545 - 1601). Roedd yn un o benceirddiaid olaf cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.

Yn ôl pob tebyg, roedd Owain yn fab i Syr Ifan o Garno, bardd-glerigwr o ardal Maldwyn, Powys. Fe'i ganed tua'r flwyddyn 1545. Bu'n un o ddisgyblion barddol Gruffudd Hiraethog a daeth yntau'n athro barddol yn ei dro. Enillodd drwydded pencerdd yn Eisteddfod Caerwys 1567. Bu farw yn 1601.

Cerddi mawl i uchelwyr ei fro enedigol yw trwch y cerddi ganddo sy'n goroesi ar glawr. Ceir pum awdl, 96 cywydd a 12 englyn ganddo yn y llawysgrifau. Yn ogystal â cherddi mawl traddodiadol ceir cywyddau gofyn, ymddiddan ac ymryson hefyd.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • D. Roy Saer, 'Owain Gwynedd', Llên Cymru (cyfrol vi, 1961).


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.