Dafydd Ddu o Hiraddug
Dafydd Ddu o Hiraddug | |
---|---|
Ganwyd | 14 g Cwm |
Bu farw | 1371 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, canon |
Blodeuodd | 1400 |
Bardd ac ysgolhaig oedd Dafydd Ddu o Hiraddug (bl. tua 1330 – 1370). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur golygiad newydd o ramadeg barddol Einion Offeiriad ond roedd yn fardd medrus hefyd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn llawysgrifau'r 16g gelwir Dafydd yn 'Ddafydd Ddu Athro o Degeingl a Hiraddug'. Trefgordd ym mhlwyf y Cwm yng nghwmwd Rhuddlan, rhwng Afon Clwyd a Bryniau Clwyd, oedd Hiraddug, a gyda cymydau Prestatyn a Cwnsyllt roedd cwmwd Rhuddlan yn un o dri chwmwd cantref Tegeingl. Mae'r gair 'Athro' yn awgrymu iddo dreulio cyfnod mewn prifysgol; Prifysgol Rhydychen efallai.[1]
Dilynodd yrfa eglwysig ac mae lle i gredu iddo ddod yn un o ganoniaid Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Dywedir hefyd ei fod yn gofalu am lyfrgell Esgobaeth Llanelwy yn amser yr Esgob Siôn Trefor (bu farw 1357) ac ar ôl hynny. Yn ôl y Dr John Davies o Fallwyd, penodwyd Dafydd yn archddiacon pan urddwyd y cyn-archddiacon Llywelyn ap Madog ab Elis yn esgob deg mis ar ôl marwolaeth Siôn Trefor. Gwyddom mai Ithel ap Robert, un o noddwyr pwysicaf Iolo Goch oedd yn archddiacon yn 1371 ac felly mae'n deg casglu fod Dafydd Ddu yn farw erbyn hynny.[1]
Yn ôl traddodiad a nodir gan Edward Lhuyd, claddwyd Dafydd Ddu yn eglwys Diserth. Ymddengys mai disail yw'r honiad iddo gael ei gladdu yn eglwys Tremeirchion.[1]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Gwaith enwocaf Dafydd Ddu yw ei olygiad o'r newydd o ramadeg Einion Offeiriad. Mae'n debyg fod sawl un o'r cerddi enghreifftiol yn y gramadeg hwnnw yn waith Dafydd Ddu ei hun er nad oes modd profi hynny. Cedwir ar glawr pedair cerdd wrth enw Dafydd Ddu o Hiraddug. Ceir dau gywydd crefyddol ac addysgol. Mae'r drydedd yn awdl sy'n synfyfyrdod ar dynged dyn a byrhoedledd bywyd. Gwahanol iawn yw'r bedwaredd, englyn serch i ferch a geir yn y Gramadeg.[1]
Chwedlau
[golygu | golygu cod]Tyfodd cylch o chwedlau am alluoedd Dafydd Ddu fel dewin ar lafar gwlad. Credid fod ei grym yn tarddu o'i gyfathrach ag ysbrydion drwg.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- R. Geraint Gruffudd a Rhiannon Evans (gol.), Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug (Aberystwyth, 1997).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd