Maleisia
| |||||
Arwyddair: Bersekutu Bertambah Mutu ("Cryfder yw Undod") | |||||
Anthem: Negaraku | |||||
Prifddinas | Kuala Lumpur1 | ||||
Dinas fwyaf | Kuala Lumpur | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Maleieg | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol ffederal | ||||
Prif Arweinydd Prif Weinidog |
Swltan Mizan Zainal Abidin Najib Tun Razak | ||||
Annibyniaeth - Malaya yn unig - Ffederasiwn (gyda Sabah, Sarawak a Singapôr) |
o'r Deyrnas Unedig 31 Awst 1957 16 Medi 1963 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
329 847 km² (67ain) 0.3 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
26 888 000 (44ain) 23 953 136 82/km² (115fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2006 $290.7 biliwn (33ain) $12 100 (54ain) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2006) | 0.805 (61ain) – uchel | ||||
Arian cyfred | Ringgit (RM) (MYR )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
MST (UTC+8) dim amser haf (UTC+8) | ||||
Côd ISO y wlad | .my | ||||
Côd ffôn | +60
| ||||
1 Lleolir gweinyddiaeth ffederal yn ninas Putrajaya. |
Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Malaysia (hefyd Maleisia). Cafodd Malaysia ei chreu ym 1957 ar ôl i'r hen wladfa Malaya ennill annibyniaeth o Brydain ar ôl cyfnod o wrthryfel.
Mae'r gwlad yn ffederasiwn o 13 talaith ac wedi'i rhannu'n ddwy gan Môr Tseina'r De. Roedd Singapôr yn rhan o Malaysia tan 1965.
Mae'r wlad yn gymysgedd o wahanol hiliau adiwyllianau. Mae namyn dros hanner y wlad yn Maleiaid ac yn swyddogol maent i gyd yn Fwslemiaid. Mae tua 30% o'r wlad o hil Tseineaidd. Mae bron 10% o'r wlad o hil Indiaidd, y rhan fwyaf yn Tamil. Y crefydd swyddogol yw Islam ond oherwydd y cymysgedd o ddiwylliannau a hiliau mae'r wlad yn un aml-grefyddol ac aml-ddiwylliannol.
Yr iaith swyddogol a brodorol yw Maleieg (Bahasa Melayu) ond mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn medru siarad Saesneg hefyd. Y brifddinas yw Kuala Lumpur lle gellir gweld un o adeiladau tala'r byd, Tyrau Petronas.
Prif ddiwydiannau Malaysia yw olew a ffermio.