Neidio i'r cynnwys

Tyrcmenistan

Oddi ar Wicipedia
Tyrcmenistan
Tyrcmenistan
Türkmenistan (Turkmeneg)
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasAshgabat Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,117,933 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd13 Mai 1925 (Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Turkmen)
22 Awst 1990 (Annibyniaeth)
AnthemGaraşsyz, Bitarap, Türkmenistanyň Döwlet Gimni Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00, Asia/Ashgabat Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Twrcmeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanolbarth Asia Edit this on Wikidata
Arwynebedd491,210 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCasachstan, Wsbecistan, Affganistan, Iran Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39°N 60°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Cenedlaethol Tyrcmenestan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Tyrcmenestan Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSerdar Berdimuhamedow Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Tyrcmenestan Edit this on Wikidata
Map
ArianManat newydd Tyrcmenestan Edit this on Wikidata
Canran y diwaith10 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.301 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.745 Edit this on Wikidata

Mae Tyrcmenistan yn wlad ddirgaeedig yng Nghanolbarth Asia. Ashgabat yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Mae'n un o'r chwe gwladwriaeth Tyrcig annibynnol. Gyda phoblogaeth o dros 7 miliwn (yn ôl y Llywodraeth,[1] Tyrcmenistan yw'r 35ain wlad fwyaf poblog yn Asia[2] ac mae ganddi'r boblogaeth isaf o weriniaethau Canolbarth Asia tra'n un o'r cenhedloedd mwyaf gwasgaredig ei phoblogaeth ar gyfandir Asia.[3]

Mae amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth yn debygol o fod yn rhy uchel, o ystyried y dueddiad i ymfudo i ganfod gwaith.[4] [5] Yng Ngorffennaf 2021 adroddodd yr wrthblaid, yn seiliedig ar dair ffynhonnell ddienw annibynnol, fod poblogaeth Tyrcmenistan rhwng 2.7 a 2.8 miliwn, hynny yw, yn llai na Chymru.[6]

Mae'n ffinio â Casachstan i'r gogledd-orllewin, Wsbecistan i'r gogledd, dwyrain a gogledd-ddwyrain, Afghanistan i'r de-ddwyrain, Iran i'r de a'r de-orllewin a Môr Caspia i'r gorllewin.[7]

Cafwyd sawl ymerodraeth a diwylliant yma dros y canrifoedd.[8] Merv yw un o'r dinasoedd-gwerddon hynaf yng Nghanolbarth Asia,[9] ac roedd unwaith ymhlith dinasoedd mwya'r byd.[10] Roedd hefyd yn un o ddinasoedd mawr y byd Islamaidd ac yn arhosfan bwysig ar Ffordd y Sidan. Fe'i hunwyd gan Ymerodraeth Rwsia ym 1881 a chwaraeodd ran amlwg yn y mudiad gwrth-Bolsiefaidd yng Nghanolbarth Asia. Ym 1925, daeth Tyrcmenistan yn weriniaeth gyfansoddol o fewn yr Undeb Sofietaidd, gyda'r enw 'Gweriniaeth Sofietaidd Sofietaidd Tyrcmenaidd (Turkmen SSR)'; daeth yn annibynnol ar ôl diddymu'r Undeb Sofietaidd yn 1991.[8]

Mae'r wlad yn cael ei beirniadu'n hallt am ei diffyg hawliau dynol,[11][12] gan gynnwys ei chamdriniaeth o leiafrifoedd, a'i diffyg rhyddid y wasg a rhyddid crefyddol. Ers ei hannibyniaeth o'r Undeb Sofietaidd yn 1991, mae Tyrcmenistan wedi'i rheoli gan gyfundrefnau totalitaraidd gormesol: sef yr Arlywydd am Oes Saparmurat Niyazov (a elwir hefyd yn Türkmenbaşy/Türkmenbaşı sef "Bennaeth y Tyrcmeniaid") hyd ei farwolaeth yn 2006; Gurbanguly Berdimuhamedow, a ddaeth yn Arlywydd yn 2007 ar ôl ennill etholiad annemocrataidd; a'i fab Serdar, a enillodd yr etholiad arlywyddol dilynol yn 2022 mewn etholiad a ddisgrifiwyd gan arsylwyr rhyngwladol fel un "nad oedd yn rhydd nac yn deg"; mae bellach yn rhannu'r grym gwleidyddol gyda'i dad.[13][14][15]

Mae gan Tyrcmenistan y pumed cronfa fwyaf o nwy naturiol yn y byd.[16] Mae'r rhan fwyaf o'r wlad wedi'i gorchuddio gan Anialwch Karakum. Rhwng 1993 a 2019, derbyniodd ei dinasyddion drydan, dŵr a nwy naturiol a ddarparwyd gan y llywodraeth yn rhad ac am ddim.[17] Mae Tyrcmenistan yn wladwriaeth o fewn Sefydliad y Taleithiau Tyrcaidd, cymuned Türksoy ac yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig.[18]

Deddfwrfa

[golygu | golygu cod]

Deddfwrfa unsiambrog Tyrcmenistan, ers Ionawr 2023, yw'r Cynulliad.[19][20] Rhwng Mawrth 2021 a 21 Ionawr 2023 hwn oedd tŷ isaf Cyngor Cenedlaethol dwysiambrog Tyrcmenistan, sydd bellach wedi dod i ben. Mae gan y Cynulliad 125 o aelodau wedi'u hethol am dymor o bum mlynedd mewn etholaethau un sedd.[21][22]

Cyngor Pobl Tyrcmenistan (Tyrcmeneg: xɑlq mɑθlɑxɑt̪ɯ; "Cyngor y Bobl") yw "corff cynrychioliadol" annibynnol Tyrcmenistan ac mae ganddo'r awdurdod cyfansoddiadol goruchaf. Drwy inter alia mae ganddo'r grym i ddiwygio'r Cyfansoddiad. Penodir ei gadeirydd gan yr Arlywydd a ddynodir yn "Arweinydd Cenedlaethol".[23][24][25] Cyfeiriodd cyfryngau'r wladwriaeth at Gyngor y Bobl fel "corff goruchaf awdurdod y llywodraeth".[19] Rhwng 2018 a 2023 gweithredodd fel siambr uchaf Cyngor Cenedlaethol Tyrcmenistan.

Mae arsylwyr allanol yn ystyried y ddeddfwrfa Tyrcmenaidd yn senedd stamp rwber.[26][27][28]

Cysylltiadau tramor

[golygu | golygu cod]
Arlywydd Turkmenistan Serdar Berdimuhamedow gydag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin ym Moscow ar 10 Mehefin 2022

Cafodd datganiad Tyrcmenistan o "niwtraliaeth barhaol" ei gydnabod yn ffurfiol gan y Cenhedloedd Unedig ym 1995.[29] Dywedodd y cyn-Arlywydd Saparmurat Niyazov y byddai'r niwtraliaeth yn atal Tyrcmenistan rhag cymryd rhan mewn ymarferion amddiffyn amlwladol, ond mae'n caniatáu cymorth milwrol. Mae gan ei pholisi tramor niwtral le pwysig yng nghyfansoddiad y wlad.

Mae gan Turkmenistan gysylltiadau diplomyddol â 139 o wledydd, a rhai o'r partneriaid pwysicaf yw Afghanistan, Armenia, Iran, Pacistan a Rwsia.[30] MaeTyrcmenistan yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Banc y Byd, y Sefydliad Cydweithrediad Economaidd, y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd, y Banc Datblygu Islamaidd, Banc Datblygu Asia, y Banc Ewropeaidd ar gyfer Ailadeiladu a Datblygu, y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth, Sefydliad Rhyngwladol Diwylliant Tyrcig ac aelod-sylwedydd o Sefydliad Gwladwriaethau Tyrcig.

Gorfodi'r gyfraith

[golygu | golygu cod]

Mae heddlu cenedlaethol Tyrcmenistan yn cael ei lywodraethu'n bennaf gan y Weinyddiaeth Mewnol. Y Weinyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol (KNB) yw'r ased casglu gwybodaeth. Mae'r Weinyddiaeth Mewnol yn rheoli 25,000 o staff yr heddlu cenedlaethol yn uniongyrchol, tra bod y KNB yn delio â gwaith cudd-wybodaeth a gwrth-ddeallusrwydd (counterintelligence).

Hawliau dynol

[golygu | golygu cod]

Mae Tyrcmenistan wedi cael ei beirniadu’n eang am gam-drin hawliau dynol ac mae'n gosod cyfyngiadau difrifol ar ddinasyddion y wlad rhag teithio tramor.[31][32] Ceir gwahaniaethu yn erbyn hil e.e. caiff prifysgolion eu hannog i wrthod ymgeiswyr â chyfenwau nad ydynt yn Dyrcmeneg, yn enwedig Rwsiaid ethnig.[33] Yn ogystal, gwaherddir dysgu arferion ac iaith y Baloch, lleiafrif ethnig. Mae'r un peth yn digwydd i Wsbeciaid, er bod yr iaith Wsbeceg wedi cael ei haddysgu yn y gorffennol mewn rhai ysgolion cenedlaethol.

Yn ôl Human Rights Watch, "Mae Tyrcmenistan yn parhau i fod yn un o wledydd mwyaf gormesol y byd. Mae'r wlad bron ar gau i graffu annibynnol ac mae rhyddid y cyfryngau a chrefydd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau llym, ac mae amddiffynwyr hawliau dynol ac actifyddion eraill yn wynebu bygythiad cyson a dial gan y Llywodraeth."[34]

Yn ôl Mynegai Rhyddid Gwasg y Byd 2014 'Gohebwyr Heb Ffiniau' (Reporters Without Borders) roedd gan Tyrcmenistan y 3ydd amodau rhyddid y wasg gwaethaf yn y byd (178/180 o wledydd), ychydig gwell na Gogledd Corea ac Eritrea.[35] Mae'n cael ei hystyried yn un o'r "10 gwlad sydd â'r sensro mwyaf". Dechreuodd pob darllediad o dan Niyazov gydag addewid y bydd tafod y darlledwr yn crebachu os bydd yn adweud pethau drwg am y wlad, y faner, neu'r arlywydd.[36]

Gwahaniaethir yn erbyn lleiafrifoedd crefyddol am wrthwynebiad cydwybodol ac am iddyn nhw ymarfer eu crefydd trwy eu carcharu neu atafaelu copïau o lenyddiaeth Gristnogol neu ddifenwi.[37][38][39][40] Cafodd llawer o garcharorion sydd wedi’u harestio am ymarfer eu crefydd neu gred eu harteithio a’u dedfrydu wedyn i garchar, llawer ohonynt heb benderfyniad llys.[41][42] Mae gweithredoedd cyfunrywiol, hoyw yn anghyfreithlon yn Tyrcmenistan.[43]

Ataliwyd y defnydd o'r gosb eithaf yn y wlad yn 1999,[44] cyn cael ei diddymu'n ffurfiol yn 2008.

Demograffeg

[golygu | golygu cod]
Tyrcmeniaid mewn gwisg werin yn yr 20fed orymdaith Diwrnod Annibyniaeth, 2011.

Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf i’w gyhoeddi’n llawn ym 1995. Mae canlyniadau manwl pob cyfrifiad ers hynny wedi’u cadw’n gyfrinachol, er bod cyfanswm cyfrifiad 2022 wedi’i ryddhau. Mae'r ffigurau sydd ar gael yn dangos bod y rhan fwyaf o ddinasyddionTyrcmenistan yn Dyrcmeniaid ethnig gyda lleiafrifoedd prin yn Wsbeciaid a Rwsiaid. Mae lleiafrifoedd llai byth yn cynnwys Kazakhiaid, Tatariaid, Wcraniaid, Cyrdiaid (brodorol o fynyddoedd Kopet Dagh), Armeniaid, Azeriaid, Balochiaid a Pashtwniaid. Gostyngodd canran y Rwsiaid ethnig yn Tyrcmenistan o 18.6% yn 1939 i 9.5% yn 1989.

Yn ôl data swyddogol a gyhoeddwyd yn Ashgabat yn Chwefror 2001 roedd 91% o'r boblogaeth yn Dyrcmeniaid, 3% yn Wsbeciaid a 2% yn Rwsiaid. Rhwng 1989 a 2001 dyblodd nifer y Tyrcmeniaid yn Tyrcmenistan (o 2.5 i 4.9 miliwn), tra bod nifer y Rwsiaid wedi gostwng dwy ran o dair (o 334,000 i ychydig dros 100,000).[45][46] O 2021 ymlaen, amcangyfrifwyd bod nifer y Rwsiaid yn Tyrcmenistan yn 100,000. [47] Adroddodd cyfryngau’r gwrthbleidiau fod rhai o ganlyniadau cyfrifiad 2012 wedi’u rhyddhau’n llechwraidd, gan gynnwys cyfanswm poblogaeth o 4,751,120.

Mae amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth yn debygol o fod yn llawer rhy uchel, o ystyried y dueddiad i ymfudo i ganfod gwaith.[4] [5] Yng Ngorffennaf 2021 adroddodd yr wrthblaid, yn seiliedig ar dair ffynhonnell ddienw annibynnol, fod poblogaeth Trcmenistany rhwng 2.7 a 2.8 miliwn, hynny yw, yn llai na Chymru.[6]

Diwylliant

[golygu | golygu cod]

Bu'r Tyrcmeniaid yn draddodiadol yn nomadiaid symudol ac yn farchogion crefftus; hyd yn oed heddiw ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, nid yw ymdrechion i drefoli'r Tyrcmeniaid wedi bod yn llwyddiannus iawn.[48] Ni wnaethant ffurfio cenedl neu grŵp ethnig cydlynol mewn gwirionedd nes iddynt gael eu hasio'n un gan Joseph Stalin yn y 1930au. Rhennir y Tyrcmeniaid yn llwythi, ac mae gan bob llwyth ei dafodiaith a'i wisg ei hun.[49] Mae'r Tyrcmeniaid yn enwog drwy'r byd am wneud carpedi Tyrcmenaidd clymog, a elwir yn aml ar gam yn rygiau Bukhara yn y Gorllewin. Mae'r rhain yn garpedi cywrain a lliwgar wedi'u clymu â llaw, sy'n helpu i nodi'r gwahaniaethau rhwng y llwythi Tyrcmenaidd amrywiol.

Mae grwpiau ethnig ledled y wlad yn adeiladu yurts, tai crwn gyda thoeau cromen, wedi'u gwneud o ffrâm bren wedi'i gorchuddio â ffelt o grwyn defaid neu dda byw eraill. Mae ceffylau'n chwarae rhan hanfodol mewn gweithgareddau hamdden amrywiol ar draws y rhanbarth, o faes cyffrous rasio ceffylau i gampau ymladd ceffylau, lle mae marchogion medrus yn cymryd rhan mewn brwydrau bywiog i ddadseilio eu gwrthwynebwyr.[50]

Mae dynion Tyrcmen yn gwisgo hetiau tlpek traddodiadol neu "tlpek mecaidd", sef hetiau croen dafad du neu wyn mawr. Mae'r wisg draddodiadol y dynion yn cynnwys yr hetiau croen dafad uchel, blewog hyn a gwisgoedd coch dros grysau gwyn. Mae merched yn gwisgo ffrogiau sach hir dros drowsus cul gyda band o frodwaith yn dal y trowsus wrth y ffêr. Ceir gemwaith arian ar benwisgoedd y menywod a breichledau a thlysau wedi'u gosod gyda cherrig lled werthfawr.

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Y gamp fwyaf poblogaidd yn Tyrcmenistan yw pêl-droed. Yn wahanol i Gymru, nid yw'r tîm cenedlaethol erioed wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA. Fodd bynnag, mae'r tîm wedi ymddangos ddwywaith yng Nghwpan Asiaidd AFC, yn 2004 a 2019; methwyd â symud ymlaen heibio'r lefel grŵp fodd bynnag. Camp poblogaidd arall yw saethyddiaeth; a chynhelir cystadlaethau cynghrair a lleol ar gyfer saethyddiaeth.

Ymhlith y chwaraeon rhyngwladol a gynhaliwyd yn Tyrcmenistan mae: Gemau Dan Do ac Ymladd Asiaidd 2017 a Phencampwriaethau Codi Pwysau'r Byd 2018.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "2022 Complete Population and Housing Census of Turkmenistan" (PDF). unece.org.
  2. "Asian Countries by Population (2024) - Worldometer". www.worldometers.info.
  3. "Turkmenian". Ethnologue (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Ionawr 2021. Cyrchwyd 13 December 2020.
  4. 4.0 4.1 Moya Flynn (2004). Migrant Resettlement in the Russian Federation: Reconstructing 'homes' and 'homelands'. Anthem Press. t. 15. ISBN 978-1-84331-117-1. Cyrchwyd 20 Mehefin 2015.
  5. 5.0 5.1 "В 2019 году из Туркменистана эмигрировало порядка 110 тысяч человек или 2,2% населения страны" (yn Rwseg). МетеоЖурнал. 1 May 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 May 2021. Cyrchwyd 4 May 2021.
  6. 6.0 6.1 "Источники: Туркменистан в состоянии депопуляции. В стране осталось 2,7 миллиона населения" (yn Rwseg). RFE/RL. 2 July 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 July 2021. Cyrchwyd 7 July 2021.
  7. Afanasiev (58b00667a5209), Vladimir (2021-01-21). "Deep-water friendship: Turkmenistan and Azerbaijan bury Caspian Sea hatchet". Upstream Online | Latest oil and gas news (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-07.
  8. 8.0 8.1 "Turkmenistan" (yn en), The World Factbook (Central Intelligence Agency), 19 Hydref 2021, https://www.cia.gov/the-world-factbook/countries/turkmenistan/, adalwyd 25 Hydref 2021
  9. "State Historical and Cultural Park "Ancient Merv"". UNESCO-WHC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 November 2020. Cyrchwyd 26 July 2020.
  10. Tharoor, Kanishk (2016). "Lost cities #5: how the magnificent city of Merv was razed – and never recovered". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2021. Cyrchwyd 26 July 2020. Once the world's biggest city, the Silk Road metropolis of Merv in modern Turkmenistan destroyed by Genghis Khan's son and the Mongols in AD1221 with an estimated 700,000 deaths.
  11. "Russians 'flee' Turkmenistan". BBC News. 20 Mehefin 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ebrill 2019. Cyrchwyd 25 November 2013.
  12. Spetalnick, Matt (3 November 2015). "Kerry reassures Afghanistan's neighbors over U.S. troop drawdown". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2020. Cyrchwyd 23 August 2020.
  13. "As Expected, Son Of Turkmen Leader Easily Wins Election In Familial Transfer Of Power". RadioFreeEurope/RadioLiberty (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mawrth 2022. Cyrchwyd 28 Mawrth 2022.
  14. "Turkmenistan: Autocrat president's son claims landslide win". Deutsche Welle. 15 Mawrth 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2022. Cyrchwyd 28 Mawrth 2022.
  15. "Turkmenistan's president expands his father's power". Associated Press. Ashgabat. 22 Ionawr 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ionawr 2023. Cyrchwyd 29 Ionawr 2023.
  16. "BP Statistical Review of World Energy 2019" (PDF). t. 30. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 December 2019. Cyrchwyd 13 December 2019.
  17. "Turkmen ruler ends free power, gas, water – World News". Hürriyet Daily News. 10 Hydref 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 July 2018. Cyrchwyd 15 July 2018.
  18. AA, DAILY SABAH WITH (2021-11-17). "'Turkmenistan's new status in Turkic States significant development'". Daily Sabah (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2022. Cyrchwyd 2022-02-23.
  19. 19.0 19.1 (yn ru) Cоздан высший представительный орган народной власти – Халк Маслахаты Туркменистана, Neytralny Turkmenistan, 22 Ionawr 2023, https://metbugat.gov.tm/newspaper/download?id=9681, adalwyd 4 Ebrill 2023
  20. (yn ru) Халк Маслахаты стал самостоятельным законодательным органом, а парламент однопалатным, RFE/RL, 23 Ionawr 2023, https://rus.azathabar.com/a/32234359.html
  21. "MEJLIS HAKYNDA". Cyrchwyd 31 Mawrth 2021.
  22. "World Bulletin [ Turkmenistan adopts investor-friendly constitution ]". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Hydref 2008. Cyrchwyd 26 September 2008.
  23. (yn ru) Cоздан высший представительный орган народной власти – Халк Маслахаты Туркменистана, Neytralny Turkmenistan, 22 Ionawr 2023, https://metbugat.gov.tm/newspaper/download?id=9681, adalwyd 4 Ebrill 2023
  24. (yn ru) Халк Маслахаты стал самостоятельным законодательным органом, а парламент однопалатным, RFE/RL, 23 Ionawr 2023, https://rus.azathabar.com/a/32234359.html
  25. (yn ru) Указ Президента Туркменистана О Председателе Халк Маслахаты Туркменистана, Туркменистан сегодня, 21 Ionawr 2023, https://tdh.gov.tm/ru/post/34440/ukaz-prezidenta-turkmenistana-19
  26. "Turkmenistan votes for a new 'rubber-stamp' parliament". bne IntelliNews. 26 Mawrth 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ebrill 2021. Cyrchwyd 31 Mawrth 2021.
  27. Pannier, Bruce (22 Mawrth 2018). "Turkmen Elections Look Like Next Step Toward Dynasty". RFE/RL. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ebrill 2021. Cyrchwyd 31 Mawrth 2021.
  28. Clement, Victoria (21 Hydref 2019). "Passing the baton in Turkmenistan". Atlantic Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ebrill 2021. Cyrchwyd 31 Mawrth 2021.
  29. "A/RES/50/80. Maintenance of international security". un.org.
  30. "Diplomatic relations". Mfa.gov.tm. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 14 Chwefror 2016.
  31. "Russians 'flee' Turkmenistan". BBC News. 20 Mehefin 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ebrill 2019. Cyrchwyd 25 November 2013.
  32. Spetalnick, Matt (3 November 2015). "Kerry reassures Afghanistan's neighbors over U.S. troop drawdown". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2020. Cyrchwyd 23 August 2020.
  33. "Turkmenistan: Russian Students Targeted". Institute for War and Peace Reporting. 21 Chwefror 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Ebrill 2022. Cyrchwyd 25 November 2013.
  34. World Report 2014: Turkmenistan. Hrw.org. 2 Ionawr 2014. Cyrchwyd 28 Ionawr 2015.
  35. "Reporters Without Borders". rsf.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2014. Cyrchwyd 14 Chwefror 2016.
  36. "10 Most Censored Countries". Cpj.org. Cyrchwyd 30 Ionawr 2012.
  37. "TURKMENISTAN 2020 HUMAN RIGHTS REPORT" (PDF). U.S. Department of State. 28 Mawrth 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Ebrill 2021. Cyrchwyd 5 Ebrill 2021.
  38. "Turkmenistan: International Religious Freedom Report 2004". www.state.gov/. United States Department of State, Bureau of Democracy, Human Rights, and Labor. 21 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Chwefror 2020. Cyrchwyd 15 Mawrth 2016.
  39. "Turkmenistan 2015/2016: Freedom of religion". www.amnesty.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2015. Cyrchwyd 15 Mawrth 2016.
  40. "One Year of Unjust Imprisonment in Turkmenistan". jw.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 July 2016. Cyrchwyd 15 Mawrth 2016.
  41. Corley, Felix (21 May 2015). "Turkmenistan: Torture and jail for one 4 year and 14 short-term prisoners of conscience". Forum 18 News Service (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2018. Cyrchwyd 16 Ebrill 2024.
  42. "Turkmenistan". Human Rights Watch (yn Saesneg). 12 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2017. Cyrchwyd 20 Ionawr 2017.
  43. "LGBT relationships are illegal in 74 countries, research finds". The Independent. 17 May 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 August 2017. Cyrchwyd 12 December 2017.
  44. "Asia-Pacific – Turkmenistan suspends death penalty". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2022. Cyrchwyd 20 Ionawr 2017.
  45. "Ethnic composition of Turkmenistan in 2001". Demoscope Weekly (37–38). 14 Ebrill 2001. http://demoscope.ru/weekly/037/evro010.php. Adalwyd 25 November 2013.
  46. "Всесоюзная перепись населения 1989 г. Численность городского населения союзных республик, их территориальных единиц, городских поселений и городских районов по полу". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Chwefror 2009. Cyrchwyd 10 Ebrill 2021.
  47. "Численность русских в Туркменистане снизилась до уровня 1930–х годов" (yn Rwseg). Turkmen.News. 23 Ebrill 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ebrill 2021. Cyrchwyd 23 Ebrill 2021.
  48. Blackwell, Carole (2001). Tradition and Society in Turkmenistan: Gender, Oral Culture and Song. Curzon. ISBN 0-7007-1354-9. Cyrchwyd 14 Chwefror 2021.
  49. Clement, Victoria (2018). Learning to Become Turkmen. University of Pittsburgh Press. ISBN 978-0822964636. Cyrchwyd 14 Chwefror 2021.
  50. Ali Abbas Çınar (2001). Turkmen Horses and Equine Culture. Rota Matbaacilik. t. 48. ISBN 9789759581114. OCLC 237881620.
Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato