Gwefr drydanol
Math | meintiau sgalar, maint corfforol, additive quantity, Gwefr |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o briodweddau ffisegol mater ydy gwefr drydanol (symbol arferol: Q) sy'n peri iddo brofi grym pan fo wrth ymyl mater sydd hefyd wedi'i wefru. Mae dau fath o wefr drydanol: posydd (neu "bositif") a negydd (neu "negatif"). Mae dau ddeunydd sydd wedi'u gwefru'n bositif ill dau yn profi egni egni gwrthyru, ac felly dau ddefnydd sydd wedi'u gwefru'n negatif. Mae dau beth â gwefrau trydan annhebyg (h.y. y nail yn bositif a'r llall yn negatif) yn atynnu ei gilydd.
Pan fo gwefr drydanol (Q) yn goddef newid yn y foltedd (V), yna caiff egni (E) ei drosglwyddo. Bydd y wefr yma'n rhoi'r gorau i'r egni hwn pan yw'n goddef lleihad foltedd mewn cydrannau eraill yn y gylched. Y fformiwla ydy: E = QV.
Mae'r coulomb (symbol: C) yn uned SI rhyngwladol sy'n hafal i un uned o wefr trydanol, sef oddeutu 6.24151 × 1018 proton neu −6.24151 × 1018 electron.[1] Yr enw ar y maes hwn, y maes o sut mae pethau neu deunydd sydd wedi'u gwefru yn rhyngweithio â'i gilydd yn cael ei alw'n electrodeinameg clasurol.