Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
650 sedd 326 sedd sydd angen i gael mwyafrif | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 65.1% | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Map o ganlyniad yr etholiad.
^ Nid yw'r niferoedd yn cynnwys y Llefarydd. | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cafodd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 ei gynnal ar 6 Mai, 2010 er mwyn ethol Aelodau Seneddol. Cystadlodd pleidiau gwleidyddol am 650 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig sef îs-dŷ Senedd y Deyrnas Unedig, oherwydd ni chaiff aelodau Tŷ'r Arglwyddi eu hethol. O'i gymharu â'r etholiad cyffredinol blaenorol cafwyd pedair sedd ychwanegol. Cyhoeddwyd yr etholiad gan Gordon Brown, Prif Weinidog y DU, ar 6 Ebrill 2010 a datgorffwyd y senedd ar 12 Ebrill er mwyn dechrau ar yr ymgyrchoedd etholiadol. Digwyddodd y pleidleisio rhwng 7.00 yb a 10.00 yh. Cynhaliwyd rhai etholiadau lleol mewn rhai ardaloedd ar yr un diwrnod.
Etholiad 2001 |
Etholiad 2005 |
Etholiad 2015 |
Nod y Blaid Lafur oedd dychwelyd i'w pedwerydd tymor mewn pŵer ac adfer y cefnogaeth a gollwyd ers 1997.[2] Anelodd y Blaid Geidwadol at adfer eu safle dominyddol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddynt golli nifer o seddau yn ystod y 1990au, ac i gipio safle'r Blaid Lafur fel y blaid lywodraethol. Gobeithiodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill mwy o seddau wrth y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr; yn ddelfrydol, buasent hwythau eisiau ffurfio llywodraeth eu hunain, er nod mwy realistig fyddai i fedru ffurfio llywodraeth clymbleidiol.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Plaid | Seddi | Enillion | Colliadau | Ennill/Colli Net | Seddi % | Pleidleisiau % | Pleidleisiau | ±% | |
Ceidwadwyr | 305 | 100 | 3 | +96 | 47.0 | 36.1 | 10,683,787 | +3.8% | |
Llafur | 258 | 3 | 94 | −91 | 39.7 | 29.0 | 8,604,358 | −6.2% | |
Democratiaid Rhyddfrydol | 57 | 8 | 13 | −5 | 8.8 | 23.0 | 6,827,938 | +1.0% | |
Plaid Annibyniaeth y DU | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.0 | 3.1 | 917,832 | +0.9% | |
BNP | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.0 | 1.9 | 563,743 | +1.2% | |
Plaid Genedlaethol yr Alban | 6 | 0 | 0 | 0 | 0.9 | 1.7 | 491,386 | +0.1% | |
Gwyrdd | 1 | 1 | 0 | +1 | 0.2 | 1.0 | 285,616 | −0.1% | |
Sinn Féin | 5 | 0 | 0 | 0 | 0.8 | 0.6 | 171,942 | −0.1% | |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd | 8 | 0 | 1 | −1 | 1.2 | 0.6 | 168,216 | −0.3% | |
Plaid Cymru | 3 | 1 | 0 | +1 | 0.5 | 0.6 | 165,394 | −0.1% | |
Sosialiaid Democrataidd a Llafur | 3 | 0 | 0 | 0 | 0.5 | 0.4 | 110,970 | −0.1% | |
Plaid Unoliaethol Ulster | 0 | 0 | 1 | −1 | 0.0 | 0.3 | 102,361 | −0.1% | |
Democratiaid Lloegr | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.0 | 0.2 | 64,826 | +0.2% | |
Plaid Cynghrair Gog. Iwerddon | 1 | 1 | 0 | +1 | 0.2 | 0.1 | 42,762 | 0.0% | |
Respect | 0 | 0 | 1 | −1 | 0.0 | 0.1 | 33,251 | −0.1% |
Canlyniadau yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Pleidleisiodd 1,466,685 o'r 2,265,125 o bobl ar y cofrestr etholiadol yng Nghymru - cynulliad o 64.75%. Roedd y cynulliad gorau o 72.66% yng Ngogledd Caerdydd, ble roedd brwydr agos iawn rhwng Jonathan Evans (Ceidwadwyr) a Julie Morgan (Llafur), a'r cynulliad isaf (54.62%) yn Nwyrain Abertawe. Etholwyd aelod o'r Blaid Lafur i gynrychioli 26 etholaeth, 8 aelod o'r Blaid Geidwadol, 3 Aelod Seneddol o Blaid Cymru a 2 AS Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae'r tabl isod yn rhestru'r canlyniadau ym mhob un ohonynt. Roedd nifer eraill o ymgeiswyr mewn gwahanol etholaethau - rhai yn sefyll yn annibynnol ac eraill fel aelod o blaid arall. Dim ond canlyniadau'r prif bleidiau a rhestrir yma.[3]
Etholaeth | Etholwyr | Cynulliad | Canran | Llafur | Ceidwadwyr | Dem. Rhydd. | Plaid Cymru | Etholwyd | Plaid |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aberafan | 50838 | 30958 | 60.9 | 16073 | 4411 | 5034 | 2198 | Hywel Francis | Llafur |
Aberconwy | 44593 | 29966 | 67.2 | 7336 | 10734 | 5786 | 5341 | Guto Bebb | Ceidwadwyr |
Alun a Glannau Dyfrdwy | 60931 | 39923 | 65.52 | 15804 | 12885 | 7308 | 1549 | Mark Tami | Llafur |
Arfon | 41198 | 26078 | 63.3 | 7928 | 4416 | 3666 | 9383 | Hywel Williams | Plaid Cymru |
Blaenau Gwent | 52442 | 32395 | 61.77 | 16974 | 2265 | 3285 | 1333 | Nick Smith | Llafur |
Bro Morgannwg | 70211 | 48667 | 69.32 | 16034 | 20341 | 7403 | 2667 | Alun Cairns | Ceidwadwyr |
Brycheiniog a Sir Faesyfed | 53589 | 38845 | 72.49 | 4096 | 14182 | 17929 | 989 | Roger Wiliams | Dem. Rhydd. |
Caerffili | 62122 | 38692 | 62.28 | 17377 | 6622 | 5688 | 6460 | Wayne David | Llafur |
Canol Caerdydd | 61165 | 36151 | 59.1 | 10400 | 7799 | 14976 | 1246 | Jenny Willott | Dem. Rhydd. |
Castell-nedd | 57295 | 37122 | 64.79 | 17172 | 4847 | 5535 | 7397 | Peter Hain | Llafur |
Ceredigion | 59882 | 38258 | 63.89 | 2210 | 4421 | 19139 | 10815 | Mark Williams | Dem. Rhydd. |
Cwm Cynon | 50650 | 29876 | 58.99 | 15681 | 3010 | 4120 | 6064 | Ann Clwyd | Llafur |
De Caerdydd a Phenarth | 73707 | 44369 | 60.2 | 17262 | 12553 | 9875 | 1851 | Stephen Doughty | Llafur |
De Clwyd | 53748 | 34681 | 64.53 | 13311 | 10477 | 5965 | 3009 | Susan Elan Jones | Llafur |
Delyn | 53470 | 36984 | 69.17 | 15083 | 12811 | 5747 | 1844 | David Hanson | Llafur |
Dwyfor Meirionnydd | 45354 | 28906 | 63.73 | 4021 | 6447 | 3538 | 12814 | Elfyn Llwyd | Plaid Cymru |
Dwyrain Abertawe | 59823 | 32676 | 54.62 | 16819 | 4823 | 5981 | 2181 | Siân James | Llafur |
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | 52385 | 38011 | 72.56 | 10065 | 8506 | 4609 | 13546 | Jonathan Edwards | Plaid Cymru |
Dwyrain Casnewydd | 54437 | 34448 | 63.28 | 12744 | 7918 | 11094 | 724 | Jessica Morden | Llafur |
Dyffryn Clwyd | 55781 | 35534 | 63.7 | 15017 | 12508 | 4472 | 2068 | Chris Ruane | Llafur |
Gogledd Caerdydd | 65553 | 47630 | 72.66 | 17666 | 17860 | 8724 | 1588 | Jonathan Evans | Ceidwadwyr |
Gorllewin Abertawe | 61334 | 35593 | 58.03 | 12335 | 7407 | 11831 | 1437 | Geraint Davies | Llafur |
Gorllewin Caerdydd | 62787 | 40958 | 65.23 | 16894 | 12143 | 7186 | 2868 | Kevin Brennan | Llafur |
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | 58108 | 40507 | 69.71 | 13226 | 16649 | 4890 | 4232 | Simon Hart | Ceidwadwyr |
Gorllewin Casnewydd | 62111 | 39720 | 63.95 | 16389 | 12845 | 6587 | 1122 | Paul Flynn | Llafur |
Gorllewin Clwyd | 57913 | 38111 | 65.81 | 9414 | 15833 | 5801 | 5864 | David Jones | Ceidwadwyr |
Gŵyr | 61696 | 41671 | 67.54 | 16016 | 13333 | 7947 | 2760 | Martin Caton | Llafur |
Islwyn | 54866 | 34684 | 63.22 | 17069 | 4854 | 3597 | 4518 | Chris Evans | Llafur |
Llanelli | 55637 | 37461 | 67.33 | 15916 | 5381 | 3902 | 11215 | Nia Griffith | Llafur |
Maldwyn | 48730 | 33813 | 69.39 | 2407 | 13976 | 12792 | 2802 | Glyn Davies | Ceidwadwyr |
Merthyr Tudful a Rhymni | 54715 | 32076 | 58.62 | 14007 | 2412 | 9951 | 1621 | Dai Havard | Llafur |
Mynwy | 64538 | 46519 | 72.08 | 12041 | 22466 | 9026 | 1273 | David Davies | Ceidwadwyr |
Ogwr | 55527 | 34650 | 62.4 | 18644 | 5398 | 5260 | 3326 | Huw Irranca-Davies | Llafur |
Pen-y-bont ar Ogwr | 58700 | 38347 | 65.33 | 13931 | 11668 | 8658 | 2269 | Madeline Moon | Llafur |
Pontypridd | 58205 | 36671 | 63 | 14220 | 5932 | 11435 | 2673 | Owen Smith | Llafur |
Preseli Penfro | 57400 | 39602 | 68.99 | 12339 | 16944 | 5759 | 3654 | Stephen Crabb | Ceidwadwyr |
Rhondda | 51554 | 31072 | 60.27 | 17183 | 1993 | 3309 | 5630 | Chris Bryant | Llafur |
Torfaen | 61183 | 37640 | 61.52 | 16847 | 7541 | 6264 | 2005 | Paul Murphy | Llafur |
Wrecsam | 50872 | 32976 | 64.82 | 12161 | 8375 | 8503 | 2029 | Ian Lucas | Llafur |
Ynys Môn | 50075 | 34444 | 68.78 | 11490 | 7744 | 2592 | 9029 | Albert Owen | Llafur |
Cymru gyfan | 2265125 | 1466685 | 64.75 | 531602 | 382730 | 295164 | 165394 | ||
Canran y pleidiau | 36.25 | 26.09 | 20.12 | 11.28 | |||||
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "General elections". Electoral Commission. 18 Mai 2012. Cyrchwyd 24 Awst 2013.
- ↑ Brown would 'renew' Labour Party (5 Ionawr 2007).
- ↑ "Data Etholiadol". Y Comisiwn Etholiadol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-21. Cyrchwyd 25 Awst 2014.