Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar 10 Hydref1974, yr ail o ddau Etholiad cyffredinol i'w cynnal y flwyddyn honno. Yn yr Etholiad cyffredinol cyntaf, ar 28 Chwefror, ni chafodd unrhyw blaid fwyafrif, gan adael senedd grog am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd. Ffurfiodd y Blaid Lafur, dan Harold Wilson, lywodraeth, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach. galwodd etholiad. Y tro hwn, enillodd Llafur fwyafrif bychan o dair sedd.
Cafodd Plaid Genedlaethol yr Alban etholiad llwyddiannus iawn, gan ennill 11 sedd, eu cyfanswm mwyaf erioed. Enillodd Plaid Cymru un sedd ychwanegol, Caerfyrddin, a dal eu gafael ar Gaernarfon a Meirionnydd.
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Chwefror 1974