Sylvester Stallone
Sylvester Stallone | |
---|---|
Ganwyd | Sylvester Gardenzio Stallone 6 Gorffennaf 1946 Hell's Kitchen |
Man preswyl | Beverly Hills |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, llenor, actor cymeriad, actor teledu |
Taldra | 1.77 metr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Frank Stallone |
Mam | Jackie Stallone |
Priod | Jennifer Flavin, Brigitte Nielsen, Sasha Czack |
Partner | Angie Everhart |
Plant | Sage Stallone, Seargeoh Stallone, Sistine Stallone, Sophia Rose Stallone, Scarlet Rose Stallone |
Gwobr/au | Officier des Arts et des Lettres, Golden Globes, Gwobr Saturn, Gwobrau César du Cinéma, Golden Raspberry Award for Worst Actor, Golden Raspberry Award for Worst Actor, Gwobr Golden Raspberry i'r Cyfarwyddwr Gwaethaf, Golden Raspberry Award for Worst Screenplay, Golden Raspberry Award for Worst Actor, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | https://sylvesterstallone.com |
llofnod | |
Mae Sylvester Gardenzio Stallone (ganed 6 Gorffennaf 1946) yn actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Americanaidd a gafodd ei enwebu am Wobr yr Academi. Ef oedd un o actorion mwyaf poblogaidd y byd rhwng y 1970au a'r 1990au a symboleiddiodd gwryweidd-dra a arwriaeth actorion ffilmiau antur Hollywood. Chwaraeodd rannau dau gymeriad sydd bellach yn rhan o ddiwylliant Americanaidd; Rocky Balboa, y bocsiwr a oresgynodd amgylchiadau anodd er mwyn cariad ac anrhydedd, a John Rambo, milwr dewr a arbenigai mewn cynllwyniau o ddial ac achub bywydau pobl eraill.
Yn ystod y 1980au, bu Stallone yn hynod boblogaidd ac ef oedd un o ser actio mwyaf y byd yn sgîl ei gytundebau gyda'r rhyddfreintiau Rocky a Rambo. Newidiodd ffilmiau diwylliannol ddylanwadol Stallone hanes diwylliant pop ac yn gyffredinol mae ef wedi cael gyrfa lwyddiannus am y 30 mlynedd ddiwethaf.
Yn y ffilm Rocky, defnyddiodd Stallone risiau Amgueddfa Gelf Philadelphia ac arweiniodd hyn at yr ardal yn cael ei enwi'n The Rocky Steps. Yn sgîl ei boblogrwydd yn Philadelphia, rhoddwyd cerflun parhaol o gymeriad Rocky ger yr amgueddfa fel rhyw fath o gofeb ddiwylliannol.