Pwdin Efrog
Gwedd
Delwedd:Johns Yorkshire Puddings.jpg, Yorkshire Pudding.jpg | |
Math | pwdin sawrus |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Yn cynnwys | llaeth, wy, blawd |
Enw brodorol | Yorkshire pudding |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pwdin traddodiadol sy'n tarddu o Swydd Efrog yn Lloegr yw pwdin Efrog. Fe'i wneir o gytew a bwyteir yn aml â chig eidion rhost a grefi. Nid hon yw'r ffordd gywir o weini pwdin Efrog yn Swydd Efrog, fodd bynnag. Yn draddodiadol fe'i weinid yn gyntaf, gyda grefi a wnaed o suddion y cig a rostiwyd, a gofelid fod digonedd i bawb. Byddai hyn, meddid, yn llenwi boliau gyda bwyd rhad, ac wedyn caed y prif gwrs, o gig a llysiau. Gan fod pawb wedi torri min eu hawch am fwyd, byddai modd rhoi llai o gig drud ar y platiau (gan gadw digon ar gyfer prydiau yn ystod yr wythnos). Mae'r gair "pwdin" yn hollol addas gan mai'r arfer oedd peidio â gweini pwdin melys i ddilyn y cig![1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwybodaeth gan, a phrofiad o fwyta cinio dydd Sul, nain y cyfrannwr o Leeds