Neidio i'r cynnwys

Llys Aberffraw

Oddi ar Wicipedia
Llys Aberffraw
Arfau llinach Aberffraw
Enghraifft o'r canlynolteulu o uchelwyr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Rhan oteulu brenhinol Gwynedd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSyr John Wynn Edit this on Wikidata
SylfaenyddAnarawd ap Rhodri Edit this on Wikidata
Enw brodorolLlinach Aberffraw Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llys brenhinol a llinach frenhinol, ganoloesol oedd Llys Aberffraw gyda'u pencadlys ym mhentref Aberffraw, Ynys Môn, o fewn ffiniau Teyrnas Gwynedd ar y pryd. Sefydlwyd y llinach yn y 9g gan Rhodri Mawr, Brenin Cymru gyfan, a sefydlodd gyda'i ddisgynyddion 'Lysoedd Brenhinol Cymru'. Ceir dwy linach Gymreig ganoloesol arall: Llys Brenhinol Dinefwr, a Llys Brenhinol Mathrafal. Yn nhestunau cyfreithiol yr oes, fe'i disgrifir fel 'eisteddle arbennig' llinach Gwynedd. Mabwysiadodd Llywelyn ap Iorwerth y teitl 'Tywysog Aberffraw' er mwyn pwysleisio ei statws unigryw.[1] Hyd yn oed erbyn 1377 roedd cefnogwyr Owain Lawgoch yn pwysleisio 'ei fonedd o Aberffraw'.

Ystyrir bod y Llys Brenhinol yn derm hanesyddol ac achyddol y mae haneswyr yn ei ddefnyddio i ddarlunio llinell yr olyniaeth oddi wrth Rhodri Mawr Cymru trwy ei fab hynaf Anarawd o'r 870au OC.[2][3] Ffynnodd y llinach am ganrifoedd nes tranc y teulu brenhinol yn ystod y 13g oherwydd ymosodiadau parhaus byddin Lloegr yn enwedig ymosodiad Edward I ar Gymru, marw'r Tywysog Llywelyn II ar 11 Rhagfyr 1282, a Dafydd III ei frawd yn 1283. Disgynnydd uniongyrchol llinellol olaf Llys Aberffraw oedd Owain Lawgoch, a fu farw yn y 14g. Ers hynny mae sawl teulu bonheddig Cymreig wedi honni eu bod yn ddisgynyddion gwrywaidd i'r teulu.[4]

Yn draddodiadol rhanwyd Gwynedd yn ddwy ardal: "Gwynedd Uwch Conwy a "Gwynedd Is Conwy, gydag Afon Conwy yn ffin rhwng y ddwy ran.

Yn ôl Historia Brittonium (‘Hanes y Brythoniaid’, 9g) roedd Cunedda Wledig[5] a'i feibion wedi dod i lawr i ogledd-orllewin Cymru o'r Hen Ogledd, sef rhan ddeheuol yr Alban yn awr, er mwyn erlid y Gwyddelod o Wynedd, gan sefydlu teyrnas Gwynedd yn sgil hynny.[6] Yr hen enw mewn Lladin oedd Venedotia.[7] Mae dadlau ynghylch pryd digwyddodd hyn, gyda’r dyddiadau'n amrywio o ddiwedd y 4g i ddechrau’r 5g OC.

Aberffraw (cantref)

[golygu | golygu cod]

Mae enw'r Llys Brenhinol yn tarddu o Aberffraw, Ynys Môn, ac o Afon Ffraw. Yn y llys brenhinol y sefydlodd brenhinoedd cynnar Gwynedd eu prif sedd deuluol: roedd Gwynedd yr adeg honno hefyd yn cynnwys Ynys Môn. Roedd yma anheddiad cynhanesyddol ar y safle, a feddiannwyd yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod Rhufeinig (tua 0-400 ÔC). Daeth y dref yn llys tywysog Cymreig a lleoliad y palas brenhinol fel rhan o'r ganolfan weinyddol Môn.[8] Claddwyd Cadfan ap Iago, brenin cynnar o Wynedd, yn Eglwys Sant Cadwaladr yng nghantref Aberffraw. Mae carreg fedd Cadfan (634 OC) yn cael ei harddangos yn yr eglwys heddiw ac mae'n nodi:[9]}}[10][11][12]

Maen Catamanus o'r 7fed ganrif
CATAMANUS REX SAPIENTIS MUS OPINATISM US OMNIUM REG UM

(Y Brenin Cadfan, y Galluocaf a'r Enwocaf o'r Holl Frenhinoedd)[13]

Map o ranbarthau a chymydau Cymru, gyda Llys Aberffraw mewn brown

Olyniaeth

[golygu | golygu cod]

Yr oedd yr olyniaeth frenhinol yn Nhŷ Aberffraw yn fater cymhleth oherwydd natur unigryw Cyfraith Cymru.[14] Yn ôl Hubert Lewis, yr edling (neu'r etifedd amlwg), trwy gonfensiwn, defod, ac arfer, oedd mab hynaf yr arglwydd neu'r tywysog ac roedd ganddo hawl i etifeddu'r safle a'r teitl fel "pennaeth y teulu". Darparwyd hefyd ar gyfer yr holl feibion eraill gyda thiroedd y tad, ac mewn rhai amgylchiadau darparwyd ar gyfer y merched hefyd a hynny gyda phlant a anwyd o fewn ac allan o briodas yn cael eu hystyried yn gyfreithlon.[14] Roedd y parch yma at y ferch yn gwbwl wahanol i weddill gwledydd Ewrop.

Gallai dynion hefyd hawlio teitl brenhinol trwy linach tadol eu mam o dan rai amgylchiadau. Digwyddodd hyn sawl tro pan oedd Cymru'n wlad annibynnol.[15] Ystyriwyd hefyd fod y llinach fenywaidd yn aros yn frenhinol, gan fod priodas yn fodd pwysig o gryfhau hawliadau unigol i wahanol deyrnasoedd Cymru. Unwyd sawl teulu brenhinol gyda Llys Aberffraw, neu aduno carfannau yn dilyn rhyfeloedd cartref (er enghraifft gyda phriodas Hywel Dda, aelod o gangen Dinefwr o linach Aberffraw, ac Elen o Ddyfed, merch Llywarch ap Hyfaidd, brenin Dyfed)[16]. Roedd hyn yn golygu bod y llinach fenywaidd yn cael ei hystyried yn llwybr cyfreithlon o dras frenhinol yn Llys Aberffraw, gyda hawl merched brenhinol i deitlau fel arfer yn trosglwyddo i'w meibion.[17]

Uwch-linach Llys Aberffraw

[golygu | golygu cod]

Isod ceir coeden deulu rhannol llinach Gwynedd.[18]

Y Llysoedd

[golygu | golygu cod]

Roedd 22 o ganolfannau gweinyddol (llysoedd) yn Nheyrnas Gwynedd i weithredu fel llysoedd brenhinol i Dywysogion prif Lys Aberffraw.[19] Isod mae enghraifft o un neu ddau o'r 'Llysoedd' hyn:  

Rhosyr

[golygu | golygu cod]
Llys Rhosyr

Saif Llys Rhosyr gerllaw Aberffraw yn Niwbwrch, Ynys Môn. Datgelodd gwaith cloddio yma yn 1992 wal amddiffynol ac adeiladau mewnol, gan gynnwys neuadd a'r hyn y credir ei fod yn siambr frenhinol y Tywysog Llywelyn. Cloddiwyd hefyd crochenwaith a darnau arian a ddyddiwyd i tua 1247 – 1314. Adeiladwyd y llys brenhinol yn ystod teyrnasiad y Tywysog Llywelyn Fawr ac fe'i cofnodwyd gyntaf ar 10 Ebrill 1237. Heddiw mae adluniad, neu gopi, i'w weld yn Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd, DU.[20]

Llys Aberffraw

[golygu | golygu cod]
Pentref Aberffraw

Yn ystod t. 1200, parhaodd y Tywysog Llywelyn Fawr i gynnull y llys brenhinol yn Aberffraw i safon cystal a'r Deyrnas Seisnig gyfagos, neu Ffrainc yn yr un cyfnod. Cymar Llywelyn oedd Siwan, merch Brenin John o Loegr, ei hun yn Dywysoges. Ail-olygodd Llywelyn, fel Tywysog, reolau'r 'stafell frenhinol', a ailddeddfwyd o'r deddfau a'r arferion gwreiddiol o'r flwyddyn 914 ar gyfer Palas Brenhinol Aberffraw. Gelwid y palas yn "brif dŷ (neu lys) Tywysog Gwynedd" o'i seiliau yn ystod teyrnasiad Rhodri Mawr. "Yr oedd swyddogion y llys a deuddeg o foneddwr, sef y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod ar feirch, gydag ystafelloedd y llys wedi eu dodrefnu gan y brenin."

Mae cloddiadau yn yr ardal wedi dangos olion caer ganoloesol sy’n dangos nodweddion Rhufeinig neu ôl-Rufeinig, a allai fod yn safle posibl i’r llys.[21] Tybir mai lleoliad Eglwys Sant Beuno heddiw oedd safle’r llys brenhinol.[22] Defnyddiwyd rhannau o'r hen waith carreg yn yr eglwys wreiddiol yn iard eiddo'r 'Eryrod' ger sgwâr Aberffraw, lle defnyddiwyd rhai o'r cerrig hyn i adeiladu ysgol Soar.

Roedd 35 o swyddi yn y llys gan gynnwys Meistr y Palas, Y Caplan Domestig, Caplan y Frenhines, Stiward yr Aelwyd, Stiward y Frenhines, Meistr yr Hebogiaid, Barnwr y Palas, Meistr y Ceffylau, Meistr Ceffyl y Frenhines, Y Siambrlen, Siambrlen y Frenhines, Prifardd, Meistr y Cŵn, Ceidwad y Medd, Meddyg y Palas, Cludwr y Cwpan, Ceidwad y Drws, y Cogydd, Cogydd y Frenhines, Arglwyddes Siambr y Frenhines, Ceidwad Drws y Frenhines, Gwylwyr y Palas, y Pobydd, Y gof, Ceidwad y dillad, Ceidwad y Gân ayb.

Roedd trefniadaeth y llys brenhinol yn enfawr gydag o leiaf 47 o swyddi'n angenrheidiol bob dydd, ac mewn rhai swyddi, byddai angen mwy nag un person. Roedd ystafell Llywelyn ap Gruffudd yng Nghastell Harlech tua'r un maint a Llys Aberffraw, 15 troedfedd o led a 40 troedfedd o hyd. Yn ystod 1317, datgymalwyd y neuadd, a defnyddiwyd y pren i adeiladu Castell Caernarfon. Roedd hyn yn symbolaidd: ymgorffori'r llys Cymreig o fewn castell Seisnig: ymgorffori Cymru o fewn Lloegr. Methiant fu hyn, fodd bynnag a chadwodd y Cymry eu hunaniaeth; yng ngeiriau Dafydd Iwan: 'Dan ni yma o hyd'.

Cemaes (Cemais)

[golygu | golygu cod]
Llys Talybolion

Maerdref Talybolion: o bosib wedi'i leoli ger eglwys Llanbadrig, Cemaes; SH375946.

Talebolion (Tal-y-Bolion)

[golygu | golygu cod]

Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd a leolir yn Llanfaethlu; SH313869.

Caer Gybi

[golygu | golygu cod]

Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd, a leolwyd ar safle Rhufeinig yng Nghaergybi; SH247827.

Llys Llanfaes

[golygu | golygu cod]

Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd a leolwyd ym Maerdref Dindaethwy, Biwmares; SH607775.

Penrhos (Penrhosllugwy)

[golygu | golygu cod]

Llys a leolwyd ym Maerdref Twrcelyn (safle anhysbys, a leolwyd o bosib ym Mhlas Lligwy, Moelfre; SH497859.

Llys Caer Seiont

[golygu | golygu cod]

Prif Lys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd – Maerdref Cantref Arfon. Yn ddiweddarach symudwyd y llys i'r fan lle codwyd Castell Caernarfon yn ddiweddarach; SH485623.

Cantref Arfon

[golygu | golygu cod]

Llys Brenhinol arall yn Nheyrnas Gwynedd a hynny ym Maerdref Cantref Arfon. Mae'n bosib fod yna Lys wedi ei sefydlu ar safle Castell Caernarfon; gw. uchod hefyd. Ad-enillodd y Cymry y castell mwnt a beili oedd yma cyn y castell yn 1115; SH476626.

Castell Dolbenmaen

[golygu | golygu cod]
Llys Dolbenmaen

Mwnt Canoloesol a llys tywysogion (o bosib) oedd Castell Dolbenmaen, ym Maerdref Cantref Eifionydd, Dolbenmaen; SH506430.

Castell, neu Lys Dolbadarn

[golygu | golygu cod]
Castell Dolbadarn

Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd oedd Castell Dolbadarn, a godwyd gan Merfyn Frych yn Llanberis SH586598

Castell Rhiwlas

[golygu | golygu cod]

Mwnt a Beili Normaniaid ar safle hen Lys canoloesol yn Rhiwlas; SH569655.

Llys Aber

[golygu | golygu cod]
Llys Aber

Llys Brenhinol diweddarach Teyrnas Gwynedd a leolwyd fwy na thebyg ar dwmpath Pen y Mwd yn Abergwyngregyn; neu efallai yng Ngarth Celyn (Pen y Bryn); SH658732.

Din-Ganwy

[golygu | golygu cod]
Llys Din-Ganwy

Prif Lys Brenhinol cynnar ym Maerdref Conwy, Deganwy; SH782794.

Caer-Rhun (Caer Ganwy)

[golygu | golygu cod]
Llys Rhun

Plas Brenhinol y Brenin Rhun a leolwyd yng Nghaer Rhufeinig Kanovium, Caerhun; SH776703.

Llys Dinorwig

[golygu | golygu cod]

Llys Brenhinol cylchdaith Llywelyn ap Gruffydd, Brynrefail; SH632562. Rhagor: yma.

Llys Bodysgallen

[golygu | golygu cod]
Bodysgallen

Cysylltir y llys hwn gyda'r Brenin Cadwallon, ger Llandudno

Llys Euryn, Rhos

[golygu | golygu cod]
Porth y llys

Lleoliad: ar safle Bryn Euryn, Llandrillo yn Rhos; SH832798.

Trefriw

[golygu | golygu cod]

Y man tebygol yw lleoliad presennol Eglwys Ebeneser, Trefriw; SH780631

Twthill

[golygu | golygu cod]
Twthill, Rhuddlan

Cantref Gruffydd ap Llywelyn. Lleolwyd ar fryncyn Castell Twthill ger Castell Rhuddlan heddiw; mwnt a beili, Rhuddlan; SJ026776

Tywysogion Cymru (de facto)

[golygu | golygu cod]

Amddiffynnodd Teyrnasoedd Cymru eu tiriogaeth rhag Eingl-Normaniaid a theithiau milwrol dilynol Brenhinoedd Lloegr 21 o weithiau rhwng 1081 – 1267. Roedd Tywysogion y 13g, llywodraethwyr Cymru, yn rheoli eu Teyrnasoedd cyfagos trwy fframwaith gwleidyddol tra'n eithrio a darostwng disgynyddion arglwyddi'r gororau Normanaidd trwy ryfel.[23][14]

1200au- 1400au

[golygu | golygu cod]
Tywysog Llywelyn II (Llywelyn ap Gruffudd; dde) gyda brenhinoedd yr Alban a Lloegr.

Yn ystod y 13g, roedd Cymru'n cael ei rheoli gan Dafydd ap Llywelyn (Dafydd II), mab Llywelyn Fawr. Wedi marwolaeth Dafydd II, rhoddwyd y grym i'w nai, Llywelyn ap Gruffudd (y Tywysog Llywelyn II) a chadarnhawyd y teitl Tywysog Cymru gan Harri III o Loegr yng Nghytundeb Trefaldwyn yn 1267. Lladdwyd y Tywysog Llywelyn II mewn brwydr tra'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru yng Nghilmeri ar 11 Rhagfyr 1282. O linach Aberffraw Tywysog olaf Cymru oedd Dafydd ap Gruffydd (y Tywysog Dafydd III). Wedi marwolaeth Llywelyn, aeth Dafydd III ati i frwydro'n erbyn yr ymosodwyr Seisnig am rhyw 6 mis ond fe'i daliwyd a chafodd ei ddienyddio am deyrnfradwriaeth yn Amwythig, Lloegr mewn modd creulon iawn, gan Edward I o Loegr ar 3 Hydref 1283.

Yn sgil yr hyn a elwir yn Goncwest Cymru 1282-83 gan y Saeson, lleihawyd dylanwad a grym llinach Aberffraw. Gorfododd y Brenin Edward I weddill aelodau'r teulu i ildio eu hawliad i'r teitl 'Tywysog Cymru' o dan Statud Rhuddlan yn 1284, a diddymodd yr arglwyddiaeth Gymreig annibynnol.[24][25] Carcharwyd aelodau agosaf teulu Llywelyn II am oes gan Edward, tra ffodd aelodau eraill o deulu Aberffraw am eu bywydau. Ond roedd rhai'n mynnu hawlio eu hetifeddiaeth ac yn eu plith yr oedd Madog ap Llywelyn (1294-95) ac Owain Lawgoch (1330 – 22 Gorffennaf 1378) fel olynwyr llinell Llywelyn II. Ychydig iawn o arglwyddi Cymreig a oroesodd ymdrech Lloegr i oresgyn Cymru ym 1282/3.

Disgynnydd arall oedd Owain Glyn Dŵr, cyhoeddwyd ef yn Dywysog Cymru ym Medi 1400 a gwrthryfelodd yn llwyddiannus yn erbyn Coron Lloegr am fwy na degawd.[23]

Olyniaeth

[golygu | golygu cod]

Canrif ar ôl diwedd y llinach, y teulu Meurig, teulu o Fodorgan ger Aberffraw a gafodd brydles Goron Lloegr am diroedd maenor cantref Aberffraw. Ymladdodd Llywelyn ap Heilyn ym Mrwydr Bosworth ochr yn ochr â Harri Tudur a oedd ei hun yn ddisgynnydd o linach Aberffraw trwy Duduriaid Penmynydd ac yn ddisgynyddion i Ednyfed Fychan, Distainl (Prif Weinidog mewn llywodraeth[26]) i Lywelyn Fawr a'i fab Dafydd II. Daeth mab Llewelyn ap Heilyn, sef Meurig ap Llewelyn yn gapten gwarchodlu Harri VIII o Loegr, a gwobrwywyd yr un teulu unwaith eto ag estyniad o brydles eu tiroedd. Heddiw, mae'r teulu Meurig o gantref Aberffraw yn parhau fel barwniaid Seisnig Tapps-Gervis-Meyrick.[27] Y tu hwnt i Fôn, roedd nifer o deuluoedd Cymraeg ôl-ganoloesol gan gynnwys y teulu Wynn o Wydir (hyd y 17g ) a daeth teulu Anwyl Tywyn yn etifeddion y llinach fel disgynyddion gwrywaidd etifeddol Owain Gwynedd.[28]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008.
  2. Davies 1994, tt. 116,128,135,136.
  3. Lewis 1889, tt. 192–200.
  4. 4.0 4.1  Stephen, Leslie; Lee, Sidney, gol. (1890). "Gruffydd ab Cynan" . Dictionary of National Biography. 23. Llundain: Smith, Elder & Co. tt. 301–304.
  5. "CUNEDDA WLEDIG (fl. 450?), tywysog Prydeinig | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  6. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 202–3. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  7. Lewis, Timothy (1913). A glossary of mediaeval Welsh law, based upon the Black book of Chirk. National Library of Scotland. Gwasg Prifysgol Manceinion.
  8. The Welsh Academy Encyclopedia of Wales, Cardiff: University of Wales Press , 2008, p. 113, ISBN 978-0-7083-1953-6
  9. "Aberffraw Palace, Aberffraw (15012)". Coflein. RCAHMW. Cyrchwyd 15 Medi 2023.
  10. "Aberffraw (32986)". Coflein. RCAHMW. Cyrchwyd 15 Medi 2023.
  11. "Aberffraw, Excavated Features, Rejected Roman Fort and Suggested Llys Site (401126)". Coflein. RCAHMW.
  12. The Welsh Academy Encyclopedia of Wales, Cardiff: University of Wales Press , 2008, p. 113, ISBN 978-0-7083-1953-6
  13. [https://www.nationalchurchestrust.org/church/st-cadwaladr-llangadwaladr%7Cwebsite=nationalchurchestrust.org[dolen farw] St Cadwaladr; adalwyd 7 Tachwedd 2024.
  14. 14.0 14.1 14.2 Davies 1994.
  15. Lloyd 2004.
  16. Koch 2006.
  17. Woman as Vassal: Gender Symmetry in Medieval Wales gan Nerys Patterson; adalwyd 8 Tachwedd 2024.
  18. Turvey 2010, t. 13.
  19. "Llys Llywelyn – Medieval Court". museum.wales. Cyrchwyd 7 Hydref 2024.
  20. "Llys Llywelyn – Medieval Court". museum.wales. Cyrchwyd 7 Hydref 2024.
  21. "ABERFFRAW, EXCAVATED FEATURES, REJECTED ROMAN FORT AND SUGGESTED LLYS SITE | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-09-25.
  22. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 7. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  23. 23.0 23.1 Turvey 2010.
  24. Llwyd 1832.
  25. "Assessing the Significance of the Statute of Rhuddlan from a Welsh Perspective". historiesandcastles.com. Cyrchwyd 8 Hydref 2024.
  26. "Ministraes del Cußeglh / The cabinet ministries". talossa.com.
  27. "Ednyfed Fychan". mostynestates.co.uk. Cyrchwyd 23 Awst 2023.
  28. Syr John Wynn (1878). "The history of the Gwydir family". archive.org.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>