Merfyn Frych
Merfyn Frych | |
---|---|
Ganwyd | 8 g Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 844 Teyrnas Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Gwynedd |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Teyrnas Gwynedd, Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd |
Rhagflaenydd | Hywel ap Rhodri Molwynog |
Tad | Gwriad ap Elidyr |
Mam | Ethyllt ferch Cynan |
Priod | Nest ferch Cadell |
Plant | Rhodri Mawr, Gwriad ap Merfyn |
Roedd Merfyn Frych, neu Merfyn Frych ap Gwriad (bu farw 844), yn frenin Gwynedd ar ddechrau'r 9g.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif Crux Guriat. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r 9g, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma. Efallai fod ei hawl ar orsedd Gwynedd trwy ei fam Esyllt, merch Cynan ap Rhodri Molwynog.
Gwnaeth Merfyn gynghrair â theulu brenhinol Powys trwy briodi'r Dywysoges Nest, merch Cadell ap Brochfael a chwaer Cyngen, brenin Powys. Er gwaethaf ymosodiadau gan y Daniaid, llwyddodd Merfyn i ddal ei afael ar ei deyrnas ac ar ei farwolaeth yn 844 daeth ei fab Rhodri Mawr yn frenin yn ei le.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]O'i flaen : Hywel ap Rhodri Molwynog |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Rhodri Mawr ap Merfyn |