Idwal Foel
Gwedd
Idwal Foel | |
---|---|
Ganwyd | 885 Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 942 Teyrnas Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Anarawd ap Rhodri |
Mam | Nn |
Priod | Anhysbys |
Plant | Iago ab Idwal, Ieuaf ab Idwal, Rhodri ab Idwal Foel, Meurig ab Idwal Foel |
Llinach | Llys Aberffraw |
Idwal Foel ab Anarawd (bu farw 942), Brenin Gwynedd o 916 hyd ei farwolaeth.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Etifeddodd Idwal orsedd Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Anarawd ap Rhodri, yn 916. Bu'n rhaid iddo dalu teyrnged i Aethelstan Brenin Lloegr. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn 942.[1]
Gellid disgwyl y byddai teyrnas Gwynedd yn awr yn cael ei rhannu rhwng meibion Idwal, Iago ab Idwal ac Idwal, a elwir yn y croniclau yn Ieuaf ab Idwal. Fodd bynnag ymosododd Hywel Dda, Brenin Deheubarth ar Wynedd a gyrru meibion Idwal ar ffo. Ar ôl marw Hywel yn 950, llwyddodd meibion Idwal i gael y deyrnas yn ôl.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Idwal Foel Ganwyd: ? Bu farw: 942
| ||
Rhagflaenydd: Anarawd ap Rhodri |
Brenin Gwynedd 916–942 |
Olynydd: Hywel Dda |