Neidio i'r cynnwys

Gwawdodyn hir

Oddi ar Wicipedia
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae'r gwawdodyn hir yn un o'r pedwar mesur ar hugain ac, felly, yn fesur caeth. Mae'n perthyn yn agos i'r gwawdodyn byr, ond bod dwy linell ychwanegol o gyhydedd nawban o flaen y toddaid. Mae diwedd pob llinell yn odli, a cheir odl gyrch rhwng y gair cyrch a gorffwysfa'r llinell glo. Ni chaniateir defnyddio'r gynghanedd lusg yn y llinell glo.

Dyma enghraifft allan o "Cwm Carnedd" gan Gwilym R Tilsley:

Do, bu yno brysurdeb unwaith,
A sŵn o gaban a sain gobaith;
Fel clychau'n tincian clyweyd ganwaith
Gleb pedolau'r hogiau foregwaith,
A'u gweld yn eu dillad gwaith - trwy'r oriau
Yn rhwygo o greigiau eu goreugwaith.

Dyma'r enghraifft a ganodd Dafydd Nanmor yn ei awdl enghreifftiol i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd:

Anos yw d'aros, a'th wayw diriog
Wrth gastell no'r wiber asgellog;
A'th ofn ar feilch, a'th faner fylchiog
Yn dilyn gwaedwyr hyd Lan Gadog,
O'r bron, uwch afon, a chyfog - bob dri
Y gwŷr, a'u torri yn gwarterog.

Mae'n berthynas agos i'r hir-a-thoddaid, a thueddwyd yn ddiweddar i ganu mwy ar fesur yr hir-a-thoddaid na'r gwawdodyn hir.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]