Englyn cyrch
Gwedd
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Pedair llinell o gynghanedd sydd i'r englyn cyrch, cwpled cywydd yw'r ddwy linell gyntaf; mae'r ddwy linell olaf hefyd yn seithsill yr un ond yn dra gwahanol gan fod diwedd y drydedd yn odli gyda gorffwysfa'r llinell olaf. Mae diwedd y llinell gyntaf a'r ail hefyd yn odli gyda'r llinell olaf.
Dyma enghraifft gan John Morris-Jones:
Ond Iesu, ceisio lluoedd
I wych stad mawrhad yr oedd;
Dyfod a wnaeth i'w codi
O dlodi i oludoedd.
O'r hen englyn cyrch y tyfodd y mesur rhydd cynnar a elwir y triban (neu 'Triban Morgannwg').