Gwareiddiad Dyffryn Indus
Enghraifft o'r canlynol | diwylliant archeolegol, hen wareiddiad, ardal hanesyddol |
---|---|
Lliw/iau | du-a-gwyn |
Rhan o | Oes yr Efydd |
Dechreuwyd | 3000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Daeth i ben | 1800 CC |
Lleoliad | Isgyfandir India |
Gwladwriaeth | Pacistan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Gwareiddiad Dyffryn Indus (c. 3300–1700 CC, ar ei anterth 2600–1900 CC), yn wareiddiad hynafol a flodeuodd yn nyffrynnoedd afonydd Indus a Ghaggar-Hakra yng ngogledd-orllewin is-gyfandir India (Pacistan a gorllewin India heddiw), a cheir tystiolaeth fod ei ddylanwad yn ymestyn mor bell â rhannau o Affganistan a Tyrcmenistan. Enw arall a ddefnyddir am y gwareiddiad hwn weithiau yw Gwareiddiad Harappa, ar ôl y gyntaf o'u dinasoedd i gael ei chloddio, Harappa. Er bod tystiolaeth sy'n awgrymu fod y gwareiddiad yn adnabyddus i bobl Sumer (ym Mesopotamia) fel Meluhha, ni ddaeth i'r golwg tan y 1920s fel canlyniad i gloddio gan archeolegwyr.
Hanes ei ddarganfod
[golygu | golygu cod]Cafodd adfeilion dinas Harappa eu disgrifio am y tro cyntaf yn 1842 gan Charles Masson yn ei gyfrol Narrative of Various Journeys in Balochistan, Affganistan and the Panjab. Yn 1912, darganfuwyd seliau o Harappa gan J. Fleet, a arweiniodd i gloddio gan Syr John Hubert Marshall yn 1921/22, a ddatguddiodd fodolaeth gwareiddiad newydd. Dilynwyd hyn gan gloddio ym Mohenjo-daro. Erbyn 1931, roedd llawer o safle Mohenjo-Daro wedi'i gloddio. Yna yn 1944, daeth Syr Mortimer Wheeler, fel cyfarwyddwr Arolwg Archaeolegol India, i gloddio. Mae archaeologwyr eraill a fu'n weithgar yno cyn 1947 yn cynnwys Syr Aurel Stein. Dychwelodd Syr Mortimer Wheeler yn 1949, fel ymgynghorydd archaeolegol i lywodraeth y Pacistan newyddanedig. Ers hynny darganfuwyd olion o'r gwareiddiad mor bell i'r gorllewin a Sutkagan Dor yn Balochistan, ac mor bell i'r dwyrain a Lothal yn Gujarat.
Cyfnodau
[golygu | golygu cod]Roedd y gwareiddiad ar ei anterth rhwng tua 2600 a 1900 CC ; gellir dweud fod Gwareiddiad Dyffryn Indus wedi parhau yn ei grynswth o tua 3300 i 1400 CC.
Dyddiadau | Cyfnod | Amser |
5500-3300 | Mehrgarh II-VI (Crochenwaith Neolithig) | Cyfnod ymlediad lleol |
---|---|---|
3300-2600 | Harappa Gynnar (Oes Gynnar yr Efydd) | |
3300-2800 | Harappa 1 (Cyfndod Ravi) | |
2800-2600 | Harappa 2 (Cyfnodau Kot Diji, Nausharo I, Mehrgarh VII) | |
2600-1900 | Harappa ar ei anterth (Oes Ganol yr Efydd) | Cyfnod Ymdoddi |
2600-2450 | Harappa 3A (Nausharo II) | |
2450-2200 | Harappa 3B | |
2200-1900 | Harappa 3C | |
1900-1300 | Harappa Ddiweddar (Oes Ddiweddar yr Efydd) | Cyfnod ymlediad lleol |
1900-1700 | Harappa 4 | |
1700-1300 | Harappa 5 |
Dylanwad
[golygu | golygu cod]O 4300 i 3200 CC, yn y cyfnod Chalcolithig, mae Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de Tyrcmenistan a gogledd Iran, sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Allchin, Bridget (1997). Origins of a Civilization: The Prehistory and Early Archaeology of South Asia. New York: Viking.
- Allchin, Raymond (gol.) (1995). The Archaeology of Early Historic South Asia: The Emergence of Cities and States. New York: Cambridge University Press.
- Aronovsky, Ilona; Gopinath, Sujata (2005). The Indus Valley. Chicago: Heinemann.
- Basham, A. L. (1967). The Wonder That Was India. London: Sidgwick & Jackson, 11-14.
- Chakrabarti, D. K. (2004). Indus Civilization Sites in India: New Discoveries. Mumbai: Marg Publications. ISBN 81-85026-63-7.
- Dani, Ahmad Hassan (1984). Short History of Pakistan (Book 1). University of Karachi.
- Gupta, S. P. (1996). The Indus-Saraswati Civilization: Origins, Problems and Issues. ISBN 81-85268-46-0.
- Kenoyer, Jonathan Mark (1998). Ancient cities of the Indus Valley Civilisation. Oxford University Press. ISBN 0-19-577940-1.
- Kenoyer, Jonathan Mark; Heuston, Kimberly (2005). The Ancient South Asian World. Oxford/New York: Oxford University Press. ISBN 0-19-517422-4.
- Kirkpatrick, Naida (2002). The Indus Valley. Chicago: Heinemann.
- Lahiri, Nayanjot (gol.) (2000). The Decline and Fall of the Indus Civilisation. ISBN 81-7530-034-5.
- McIntosh, Jane (2001). A Peaceful Realm: The Rise And Fall of the Indus Civilization. Boulder: Westview Press. ISBN 0-8133-3532-9.
- Possehl, Gregory (2002). The Indus Civilisation. Walnut Creek: Alta Mira Press.
- Rao, Shikaripura Ranganatha (1991). Dawn and Devolution of the Indus Civilisation. ISBN 81-85179-74-3.
- Syr Mortimer Wheeler, The Indus Civilization (Caegrawnt, 1953; sawl argraffiad ers hynny)