Cyhydedd fer
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Cyhydedd Fer)
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mesur caeth yw'r gyhydedd fer, sy'n perthyn yn agos i'r gyhydedd naw ban.
Mae pob llinell yn gynghanedd gyflawn gydag wyth sill. Fe'i cenir mewn pennillion o bedair llinell ar yr un odl. Dyma enghraifft o waith Lewys Glyn Cothi:
- Dynion ydynt yn anedig
- Wedy'u gadu'n fendigedig,
- Ac o Dewdwr, lys gadwedig,
- Ac o Idwal oedd wisgedig.
- Pob rhyw adar pupuredig
- Ynn a nodan' yn anedig;
- Sy o fwydau yn safedig
- A gâi wawdydd fai ddysgeidig.