Banc Lloegr
Math | banc canolog, busnes |
---|---|
Enwyd ar ôl | Lloegr |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.51°N 0.09°W |
Perchnogaeth | y Deyrnas Unedig, Cyfreithiwr y Trysorlys |
Sefydlwydwyd gan | Charles Montagu, 1st Earl of Halifax |
Banc Lloegr yw banc canolog y Deyrnas Unedig. Cafodd ei wladoli yn 1946.
Sefydlwyd Banc Lloegr fel banc preifat yn 1694 gan grŵp o farsiandïwyr Seisnig yn Llundain i fenthyg arian i'r brenin Wiliam III. Gyda sefydlu'r Deyrnas Unedig yn 1801, fel Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, daeth y banc i chwarae rôl fwyfwy allweddol yn economi'r deyrnas ac fel arf ariannol y llywodraeth.
Mae'n cyhoeddi nodau banc y DU (er bod banciau yn yr Alban yn cyhoeddi eu nodau banc eu hunain). Mae'n gweithredu polisi ariannol llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y farchnad agored ac yn gweithredu fel benthycydd pan fo rhaid i'r tai disgownt. Yn ogystal mae'n ceisio rheoli credyd trwy amrywio'r cyfradd llog y mae'n codi ar gyfrifau arbennig y banciau manachol. Yn ychwanegol, mae'n rheoli dyled genedlaethol y DU a'u cronfeydd aur.