Neidio i'r cynnwys

Nihiliaeth

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Nihiliaeth a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 21:59, 20 Rhagfyr 2022. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Athrawiaeth neu ffordd o feddwl sy'n gwrthod pob egwyddor moesegol a chrefyddol yw Nihiliaeth. Ystyr lythrennol y term yw "credu mewn dim". Gwrthodir pob awdurdod, sefydliad a syniad sefydledig, ond oherwydd ei natur mae'n anodd ei diffinio. Mewn athroniaeth gellid dweud ei bod yn seiliedig ar sgeptigiaeth eithafol sy'n ymwrthod ag unrhyw werthoedd, cred mewn bodolaeth, gwerth cymdeithas, ac yn y blaen.

Defnyddir y term yn ogystal i gyfeirio at rai agweddau ar athroniaeth crefyddau'r Dwyrain, yn enwedig Bwdhiaeth a Hindŵaeth ascetig, fel dysgeidiaeth sy'n gwrthod realiti y byd sydd ohoni a phob byd arall fel rhith, ond nid yw'n perthyn i nihiliaeth yn yr ystyr fodern Orllewinol.

Datblygodd nihiliaeth law yn llaw ag anarchiaeth yn Rwsia a rhai o wledydd Dwyrain Ewrop yn y 19g a dechrau'r 20g. Credai llawer o nihilwyr ac anarchiaid y cyfnod hwnnw mewn defnyddio terfysgaeth i ddymchwel pob awdurdod.