O Ffrainc i fflamau Merthyr Tudful: taithysgrifau Ffrangeg o’r bedwaredd ganrif ar
bymtheg
Rwyf am gyflwyno i chi heddiw ffrwyth fy ymchwil ar argraff y Ffrancwyr o Ferthyr Tudful
yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddaf yn edrych ar ddisgrifiadau amrywiol gan lygaddystion, ac yn codi rhai cwestiynau, e.e. pam dod i Ferthyr? Pam y ffocws ar fflamau? Beth
yw’r cyd-destun ehangach? Faint o ddealltwriaeth oedd o’r drychineb amgylcheddol? Ceisiaf
eu hateb drwy edrych mewn modd drawsffiniol a thrawsieithol. Hoffwn gyflwyno tri
safbwynt cyn cychwyn.
1. Teithwyr Ewropeaidd i Gymru
Y cefndir i’r gwaith yw prosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010’. Diolch i’r
AHRC am ariannu’r ymchwil a’r cydweithio a fu rhwng Prifysgolion Bangor, Abertawe a’r
Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Heb hyn, ni fyddai’r ddarlith hon yn bosib.
Oherwydd dadansoddodd y prosiect gannoedd o daithysgrifau am Gymru mewn ieithoedd
Ewropeaidd, gyda’r mwyafraif o’r rhain yn Ffrangeg neu Almaeneg, ond gan roi sylw hefyd
i’r nifer bychan a geir mewn Llydaweg er enghraifft. Ond cyn dadansoddi’r disgrifiadau
amrywiol hyn o Gymru bu’n rhaid dod o hyd iddynt! Roedd llawer o’r taithysgrifau hyn yn
llechu mewn llyfrau yn dwyn teitlau anaddawol fel ‘Taith o amgylch Prydain Fawr’, neu
‘Ymweliad â Lloegr’. Hefyd, daeth y prosiect o hyd i naratifau taith am Gymru mewn
hunangofiannu neu lythyron a dyddiaduron. Felly yn aml dyw’r gair ‘Cymru’ ddim i’w weld
yn y teitl, a weithiau ddim hyd yn oed y gair ‘taith’.
Dulliau chwilio electronig, a dyfalbarhad ein hymchwilydd diflino Rita Singer, sydd wedi
caniatáu inni gasglu ynghyd cymaint o ffynonellau newydd, yn ogystal â gwybodaeth y tîm
o’r traddodiadau llenyddol yn Ewrop. Felly ceir dros 400 o gofnodion taith yn ein cronfa
ddata. Pob un yn cynnwys nodiadau a map sy’n dangos taith yr unigolyn. Mae’r gronfa ddata
ar gael i chi i chwilio yn ôl enw lle (e.e. ‘Merthyr’), yn ôl enw’r teithiwr, ac yn y blaen.
Hefyd ar gael i chi mae ail wefan, a luniwyd mewn partneriaeth gyda’r Comisiwn Brenhinol
a ‘Croeso Cymru’, eto o dan nawdd yr AHRC. Yma ceir cyfieithiadau i’r Gymraeg a’r
Saesneg o ddetholiad o ddisgrifiadau o wahanol rannau o Gymru. Ceir hefyd luniau
hanesyddol (llawer ohonynt o gasgliadau’r Comisiwn), yn ogystal â’r dechnoleg
ddiweddaraf: megis sganiau 360°-Gigapixel, adluniadau digidol o drefi ac adeiladau, a
phrofiad rhithwir (virtual reality) o Abaty Tyndyrn. Cafodd Merthyr sylw arbennig –
comisiynwyd ffilm.
Ffordd newydd o astudio Cymru/ casgliadau’r prosiect:
Mae’r prosiect wedi dangos pa mor ffrwythlon yw cyfuno disgyblaeth Ieithoedd Modern
gydag astudiaethau Cymreig. Mae’r ffocws ar y teithwyr wedi caniatáu imi ddatblygu
persbectif ar gyfer astudio Cymru sy’n ystyried ieithoedd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg, ac
sy’n mynd y tu hwnt i Brydain. Gwaith trawsgenedlaethol (transnational) ac amlieithog
(multilingual), i ddefnyddio’r derminoleg ffasiynnol.
1
2. Yr aruchel diwydiannol
Mae poblogrwydd estheteg yr aruchel, neu’r ‘sublime’, yn gyfrifol am fodolaeth llawer iawn
o’r disgrifiadau sydd gennym o Gymru, oherwydd dyma, yn fras, pam newidiodd yr agwedd
tuag at fynyddoedd a moroedd.
Edmund Burke, Philosophical Enquiry into the Origin of our Ideas of the Sublime and
the Beautiful (1757)
William Gilpin, Observations on the River Wye (1783)
Denis Diderot, Salons (1759-1771)
Cysylltir y chwyldro hwn mewn materion esthetaidd, chwyldro a agorodd y ffordd i
Ramantiaeth, yn gyntaf ag enw Edmund Burke a’i lyfr enwog o 1757. Doedd dim angen i’r
aruchel fod yn ‘hardd’, braf. I’r gwrthwyneb, gallwn feddwl amdano fel rhywbeth ‘mwy na
hardd’, yn wir roedd yn cynnwys pethau allai godi ofn, neu sy’n ymddangos yn ormod, yn
rhy fawr, y tu hwnt i reolaeth dyn, neu y tu hwnt i’n dirnad. Rhai o’r nodweddion a brisiwyd
oedd: anferthedd, y diddiwedd, unigedd, tywyllwch, pwer. Hawdd gweld sut allai hyn
gynnwys diwydiant a hyd yn oed effeithiau llygredd. Roedd gan Burke ddiddordeb mewn
ymateb seicolegol, emosiynol i’r pethau hyn.
Yn fuan datblygodd syniad arall – y pictiwrésg, sydd fel cyfaddawd rhwng harddwch a’r
aruchel. Mae rhan Cymru yn hyn yn allweddol oherwydd llyfr William Gilpin Observations
on the River Wye (1783). Estheteg ymarferol ydoedd, a daeth y pictiwrésg yn set o
egwyddorion gwaith ar gyfer garddwyr, penseiri, artistiaid a theithwyr. Roedd hawl ‘gwella’
natur, er mwyn gwneud golygfa yn fwy pert, neu yn debycach i ‘bictiwr’.
Yn Ffrainc roedd y philosophe Diderot hefyd yn gweithio ar y cysyniadau hyn, yn enwedig
yn ei ddisgrifiadau bywiog a chraff o’r lluniau a arddangoswyd yn y Salon Celfyddyd Gain
dwyflwyddol. Rwy’n meddwl yn arbennig am y sylw caiff llongddrylliadau (e.e. ClaudeJoseph Vernet, 1714-89) a thrychinebau eraill ganddo. Yn ôl yr hanesydd celf Christopher
Hussey, yr enghraifft orau o beintiwr pictiwrésg oedd Philippe-Jacques de Loutherbourg.
Ffrancwr a ddaeth â’i ddoniau i Brydain, ac a ddaeth â’r estheteg yn ôl i Brydain.
I grynhoi ar faterion esthetaidd, gallwn feddwl am yr aruchel fel rhywbeth sy’n pwysleio
graddfa yr hyn a welir. Mae dyn megis morgrugyn. Hefyd mae’r ymateb yn effeithio ar y
corff cyfan – mae’r galon yn curo’n gynt, mae’r teithiwr yn teimlo’n chwil wrth edrych ar y
fawredd y mynydd, nid yn unig wrth ei ddringo. Mewn cyferbyniad mae’r pictwrésg yn
pwysleisio’r gweledol, mae’r cliw yn y gair ‘pictiwr’, ac mae ar raddfa mwy dynol. Mae’n
hoff o fframio golygfa – a dyna esbonio datblygiad teclynnau fel y gwydr Claude.
Gyda’r ymchwydd diwydiannol daeth yn amlwg bod amgylchedd neu dirlun a adeiladwyd
neu a grewyd gan ddyn yr un mor debygol o ennyn ymateb ag oedd tirlun sy’n ganlyniad i
rymoedd daearegol (mynyddoedd, llosgfynyddoedd). Daeth diwydiant, a hyd yn oed
llygredd, e.e. mwg, mewn i’r aruchel ac i’r pictiwrésg.
2
3. Y dyniaethau amgylcheddol
Mae nifer cynyddol o ymchwilwyr yn y pynciau celfyddydol a dyniaethol yn troi eu sylw at
yr amgylchfyd. O fewn astudiaethau llenyddol, ffordd o ddarllen yw hyn sy’n effro i’r
cysylltiad agos rhwng ein diwylliant ni – ffordd o fyw, ffordd o feddwl – a gwastraffu
adnoddau’r ddaear, yn arbennig felly tanwydd ffosil. Mae’n ein hatgoffa nad ydym yn bodoli
ar wahan i fyd natur, ond yn hytrach wedi ein dal mewn gwead sy’n ein rhwymo i elfennau
eraill, boed yn anifeiliaid, yn blanhigion neu’n fwynau (term y theorydd Timothy Morton am
y syniad yw ‘mesh’). Mae hefyd yn pwysleisio gall astudio llyfrau a ysgrifennwyd cyn ein
dealltwriaeth ni o’r argyfwng hinsawdd ein helpu ni i ddeall yr ‘anthroposen’, yn ogystal â
chodi ymwybyddiaeth. E.e. gallwn sylwi ar fanylion am yr amgylchfyd (oedd, efallai yn
eilradd i’r plot) er mwyn ail-fframio’r testun.
Mae i hyn berthnasedd arbennig i lenyddiaeth daith. Mae oes aur y taithlyfr fel ffurf lenyddol
yn ganlyniad i dwf aruthrol y rheilffyrdd, a’r badau ager, oedd yn ddibynnol ar lo. Ond mewn
gwirionedd mae’n amhosib gwahanu ein hanes oddi wrth danwyddau ffosil. Mae hyd yn oed
ein syniad o ddemocratiaeth wedi ei siapio gan radicaleiddio glowyr. Fel y dywedodd Dipesh
Chakrabarty mewn ysgrif allweddol: ‘Saif plasdy ein rhyddid heddiw ar sylfaen fythgynyddol o ddefnydd o danwydd ffosil’.
Yn achos Merthyr, gwleidyddol fu gogwydd y rhan fwyaf o’r gwaith a wnaethpwyd hyd yn
hyn gan haneswyr. Ond yn ddiweddar, gwelir yr agwedd amgylcheddol yn ymwthio i’r
drafodaeth:
Joe England, Merthyr, the Crucible of Modern Wales (2017)
Seth Armstrong-Twigg, ‘ “At night they glow red with fire”: tracing the
environmental impact of industrialisation in travel accounts of Merthyr Tydfil, 18481881’, Ninetenth-Century Contexts 2021
diolch i Daryl Leeworthy a Dan Finch-Race am dynnu fy sylw at y gweithiau hyn.
Sonia Joe Englad am ‘drychineb amgylcheddol’, disgrifia ddatblygiad y dref fel ‘the
desecration of a landscape’, ac ‘It was there, in Merthyr and on a scale previously unknown
in Wales, that the earth was ravaged’ (p. 15). Honiad Armstrong-Twigg yw bod y
diwydiannu digyffelyb wedi dod â newidiadau i sawl agwedd ar gynnyrch creadigol, o
gelfyddyd gain i lenyddiaeth.
Mae modd olrhain hanes agweddau Ffrengig tuag at yr amgylchfyd ac hefyd tuag at y
problemau cymdeithasol a ddaeth yn sgil diwydiannu dygn trwy’r disgrifiadau o Ferthyr. Ac
o ddarllen yn agos gallwn weld pa faterion eraill sydd efallai’n cymhlethu’r darlun. Fel y
gwelwn, fe all materion esthetaidd, ac efallai cenedlaetholdeb, neu ragfarnau eraill
ddylanwadu ar y cofnod o niwed amgylcheddol a geir mewn testunau hanesyddol.
Philippe-Jacques de Loutherbourg (1740-1812)
3
Dof yn awr at Loutherbourg: artist o Alsás a ddaeth i Gymru yn haf 1786 ac eto yn 1800, gan
gyhoeddi casgliad o luniau ‘rhamantaidd’ a ‘phictiwrésg’, gyda naratif yn Ffrangeg ac yn
Saesneg yn 1805.
Wrth droedio tir yr hanesydd celf, rwy’n ymwybodol iawn nad wyf yn arbenigwr, ond hefyd
yn falch iawn i gofio mor ffodus fues i i astudio beirniadaeth gelf y ddeunawfed ganrif o dan
oruchwyliaeth Angelica Goodden, awdurdod ar Diderot. Mae enw Diderot wrth gwrs yn
gyfarwydd fel un o olygyddion yr Encyclopédie, ond bu ei ddylanwad ar hanes celf ac
estheteg yn sylweddol.
Pan ddaeth Philippe Jacques de Loutherbourg (1740-1812) i Lundain o Strasbourg yn 1771,
roedd eisoes yn aelod o’r Académie ym Mharis (wedi ei ethol yn ifanc iawn yn 1766), ac
wedi cael clod gan neb llai na Diderot yn ei Salons, sef ei feirniadaeth chwareus a bywiog ar
yr arddangosfeydd dwyflwyddol ym Mharis. Mae Diderot yn canmol yr artist gyntaf yn 1763,
ac yna (yn 1767), yn ei ddull ymgomiol ac unigryw o ysgrifennu am gelf, mae Diderot yn
cynghori Loutherbourg i fynd allan i deithio.
Fe baentiodd Loutherbourg lawer o luniau o Gymru. Atyniad Cymru iddo oedd yr adfeilion
a’r pictiwrésg; mae’n teimlo’n sicr iddo ddod i’r man cywir wrth ystyried Abaty Tyndyrn:
‘Peu d’objets dans la Grande Bretagne peuvent offrir plus d’attraits à l’admirateur des
beautés pittoresques que l’abbaye de Tintern’, Romantic and Picturesque Scenery of
England and Wales/ Scènes romantiques et pittoresques, de l'Angleterre et du pays de
Galles (1805)
dyma un o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain, meddai, o harddwch ‘pictiwrésg’. Meddylir
mai ef oedd yr artist cyntaf i baentio Abaty Tyndyrn mewn olew. Wrth ddisgrifio’r profiad o
weld Eryri, defnyddia’r gair ‘sublime’ (aruchel), oherwydd effeithiau’r tywydd newidiol ac
amwys (e.e. effaith y gwynt a’r cymylau glaw ar y copaon). Yn 1787 roedd wedi arddangos
dau lun o Eryri, ynghyd â llun o Gastell Conwy yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.
Ond yn sicr, os cofir amdano yng Nghymru o gwbl, mae’r diolch i’w lun o’r ‘bardd olaf’.
Mae llun Loutherbourg (1780au cynnar) yn cydfynd yn berffaith gyda syniad Diderot o wir
fardd, sef rhywun y mae natur yn siarad drwyddo. Wrth gwrs, ymddiddorai Diderot yn fawr
ym marddoniaeth Ossian, ac roedd yn un o’i gyfieithwyr Ffrangeg cynharaf. Ond mewn cyddestun Prydeinig, fel y mae Peter Lord (ac yn ddiweddar Andrew Green) wedi dangos, fe
helpodd llun (coll) Loutherbourg i ffigwr y ‘bardd olaf’, cyfeiriad wrth gwrs at gerdd Thomas
Gray, gydio yn y dychymyg. Atgynhyrchwyd, a chopïwyd y llun yn frwd gan arlunwyr eraill,
a defnyddiwyd fel wynebddalen i lyfr Edward Jones, Musical and Poetical Relicks of the
Welsh Bards (1784). Ymddangosodd hefyd ar grochenwaith Abertawe. Dyna sydd wedi ei
wneud yn gyfarwydd yng Nghymru.
Ond ar yr un trip braslunio, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr fe frasluniodd Loutherbourg
weithfeydd haearn Coalbrookdale, ac fe greodd baentiad ‘Coalbrookdale liw nos’ yn 1801.
Mae’n llun enwog heddiw, wrth gwrs, ac yn destun mwy nag un astudiaeth. Roedd
Loutherboug yn torri tir newydd, a hyd heddiw dyw’r gwaith ddim cweit yn ffitio mewn –
4
mae’n crogi yn y Science Museum yn Llundain, ac nid yn y National Gallery; yn wir
dadleuol oedd ei brynu ar gyfer yr amgueddfa wyddoniaeth yn 1952.
Er mor newydd y pwnc diwydiannol, nid o wagle y daeth y llun; roedd Diderot eisoes wedi
canmol dawn Loutherbourg i gyfleu drama storm ar y môr. Mae’r llun hwn yn edrych
ychydig yn debyg i’w Frwydr ar afon Nil (1800), neu hyd yn oed ei lun o dân mawr Llundain
ac awgrymodd haneswyr celf ei fod yn ardddangos trais y Chwyldro Ffrengig neu ryfelodd
Napoleon. Yn sicr, mae’n tyfu allan o brofiad Loutherbourg yn llunio setiau theatr arloesol ar
gyfer Garrick yn Llundain. Gwnaeth enw iddo’i hun gyda’r Eidophysikon. Prosiect a
ddefnyddiai effeithiau arbennig, golau a gwydr lliw i gyfleu cylchdro diwrnod cyfan, i
gynnwys Satan, a llyn o dân, a fflamau ac effeithiau sain i gydfynd. Felly defnyddio’i brofiad
a wna yn Coalbrookdale ar bwnc newydd sbon, mewn tirlun mwy dramatig efallai na’r hyn
oedd gan Diderot mewn golwg.
Ac eto mae’r mater yn fwy cymhleth, oherwydd cael ei gyflwyno i’r artist roedd y pwnc, gan
fod perchnogion Coalbrookdale wedi meddwl am eu harloesi diwydiannol fel ‘sioe’ o’r
cychwyn cyntaf. Gosodasent lwybrau cyfleus at fannau syllu (vantage points) pwrpasol, yn
union fel y gwnaeth rhywun fel Thomas Johnes yr Hafod yma yng Ngheredigion. Roedd hyd
yn oed modd i ymwelwyr fynd o dan y ddaear. Yn ôl un hanesydd celf: ‘prin yw’r lleoedd ym
Mhrydain sy’n meddu ar y fath ddyfnder diwylliannol, a phrin yw’r rhai sydd wedi cael eu
hadlewyrchu mewn cymaint o ffyrdd’.
Mae enw ‘Merthyr Tudful’ yn magu’r un fath o bwysau diwylliannol, rwy’n meddwl. Ac er
bod Coalbrookdale yn Lloegr, mae’n talu ffordd i osod y gweithiau celf sy’n cyflwyno
Merthyr yn y nos yn y traddodiad sy’n dechrau gyda’r llun hwn gan Loutherbourg. Mae Peter
Lord yn nodi pwysigrwydd y darn i’n dealltwriaeth ni o ‘olygfeydd gyda’r nos tebyg yng
Nghymru’. Felly er mwyn edrych yn fanwl ar fy nhaithysgrifau Ffrangeg ar Ferthyr, rhaid
bwrw golwg dros y ffin i Coalbrookdale, ond hefyd dros y môr i Ffrainc.
Ffrancwyr ym Merthyr – pam?
Hawdd gweld pam roedd diwydianwyr o Ffrainc eisiau dod i Ferthyr. Roedd Merthyr yn
arwain y byd, ac roedd Ffrancwyr yn awyddus i ddal lan gyda’r gystadleuaeth. Felly yn
enwedig ar ôl 1815, daeth llif cyson o ymwelwyr proffesiynnol neu fyfyrwyr arbenigol i
Gymru, nid i ddianc i fyd natur, fel y mae cynifer o’n hymwelwyr wedi gwneud, ac yn dal i
wneud, ond i ddysgu am y dechnoleg fwyaf modern, i ryfeddu at gampau pensaerniol, i rythu
ar y tirlun diwydiannol, ac efallai i ddwyn syniadau. Dod roedd rhain i gael cip ar ddyfodol
Ewrop.
Un o’r cynharaf ym Merthyr oedd Georges Dufaud (1777-1852). Roedd tad Georges yn
gweithio i Babaud de La Chaussade, yn ei waith haearn enwog yn Guérigny, ger Nevers.
Trwy gyd-ddigwyddiad anhygoel, roeddwn i yn yr arddangosfa dauganmlwyddiant a
hysbysebir gan y poster hwn, oherwydd mae fy nheulu Ffrangeg yn byw nid nepell o’r
gweithfeydd haearn, ac yn ddisgynyddion i Babaud de La Chaussade (1796-1792). Dyma
gyfle imi ddiolch iddyn nhw am berffeithio fy Ffrangeg, ond hefyd i Roselyne de Rozières
am ei help gyda’r ymchwil hwn.
5
Wedi i Georges raddio o’r École Polytechnique ym Mharis, dychwelodd i Guérigny a
gweithio i wella’r prosesau yno (1796). Erbyn 1815 roedd hefyd yn rhedeg gweithfeydd
Grossouvre, ac yn fuan wedyn yn 1817, aeth ar daith i Ferthyr. Ysgrifennodd adroddiad a
chadw dyddiadur taith. Adeiladodd ffatri newydd yn Fourchambault, prynodd offer o Gastell
Nedd, trefnodd i weithwyr o Gymru ddod i Ffrainc, ar gyflogau uwch na rhai’r Ffrancwyr
lleol, i foderneiddio’u diwydiant. Daeth tua hanner cant o deulueodd Cymraeg i
Fourchambault, ac roedd rhagor mewn gweithfeydd cyfagos. Aeth Geroge Crawshay, ail fab
William Crawshay I, i ymweld â Grossouvre, a phriodi un o ferched Georges Dufaud
(Louise) yn 1819.
Aeth ail genhedlaeth o’r teulu Dufaud, sef Achille Dufaud (1796-1856) i Ferthyr yn 1823. Ac
yn ôl ei lythyron adref at ei dad, dywed fod teulu’r Crawshay yn ei ddrwgdybio am ei fod yn
cymryd gormod o nodiadau manwl. Cwyna Achille nad oes croeso i dramorwyr, yn enwedig
Ffrancwyr, ym Merthyr [ppt]:
la plus grande prévention existe contre les étrangers, surtout contre les Français pour
lesquels toutes les usines sont fermées. Aucun Français ne peut maintenant aller
puiser à la source, et je t’engage à refuser la porte à tous [...]. Il faut aussi supprimer
toutes entrées pour les fils, cousins d’ouvriers. Tout cela est fermé ici.
‘Mae’n amhosib nawr i Ffrancwyr fynd at lygad y ffynnon. Mae pob ffatri ar gau i
Ffrancwyr.’ Mae’n erfyn ar ei dad i ddial trwy gau ei ddrysau yntau.
Serch hynny, mae’r rhai sydd am rythu o bell ar y fflamau a’r mwg yn cael mwy o lwc!
Pam ffocws ar fflamau?
A dyma ddod â ni at y cwestiwn nesaf. Beth yw apêl y fflamau yn y disgrifiadau o Ferthyr?
Wel, nid peth unigryw i Ferthyr mo hyn. Mae’r obsesiwn gyda fflamau yr un mor hen â’n
diwylliant; wedi’r cwbl, rhywbeth wedi ei ddwyn oddi wrth y duwiau yw tân, rhywbeth o’r tu
hwnt. Mewn cyfnod pan oedd artistiaid yn chwilio am yr aruchel, roedd bri ar geisio cyfleu
tân mewn paent. Gwelsom Loutherbourg yn paentio fflamau rhyfel a diwydiant, ond roedd
fflamau naturiol hefyd o ddiddordeb mawr, yn enwedig gan fod Llosgfynydd Vesuvius wedi
echdorri sawl gwaith yn ystod y ddeunawfed ganrif.
Llun Volaire https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Pierre-Jacques_Volaire__The_Eruption_of_Vesuvius_-_1978.426_-_Art_Institute_of_Chicago.jpg
Manteisiodd yr artist Ffrengig Pierre-Jacques Volaire ar hyn; arbenigodd mewn paentio’r
llosgfynydd, a gwerthodd ei luniau i deithwyr cefnog oedd ar y ‘Grand Tour’ yn mwynhau
golygfeydd mwyaf cyffrous Ewrop.
Peth diwylliannol felly yw tân, yn ogystal â pheth gwyddonol. Ac wrth inni ymdrechu i’w
ddadansoddi a’i ddiffinio, cawn ein tynnu yn ôl at yr haniaethol a’r seicolegol, ac yn wir at y
barddonol, fel y dadleuodd yr athronydd Gaston Bachelard yn ei gyfrol o 1938 La
Psychanalyse du feu.
6
‘Dydyn ni ddim yn ddi-duedd o flaen tân’, meddai Bachelard: oherwydd bod cymaint o
werthoedd gwahanol a gwrthdrawol yn gysylltiedig ag e. A honna, ymhellach, na all
gwyddoniaeth ateb y cwestiwn: pa beth yw tân? (pp. 2-3).
Ryw hanner canrif yn ddiweddarach, fe ddaeth gwyddonydd i’r un casgliad.
[Bachelard] writes, in 1938, ‘When one asks... even eminent scientists “What is fire?”
one receives vague or tautological answers which repeat the most ancient and fanciful
philosophical theories’. Over half a century later, the same seems to be true. (Fire
(1993), p. 259).
Cemegydd yw Hazel Rossotti, o Goleg St Anne’s Rhydychen, y ces i’r pleser o’i chyfri’n
gydweithwraig pan o’n i yno. Meddai hi yn Fire bod yr ateb yr un fath heddiw: mae atebion
gwyddonwyr yn ddiffygiol. Fe ofynais i i wyddynodd yn 2021 am ei farn, a dywedodd bod
gosodiad Hazel Rossotti dal yn un teg.
Ymddengys bod ymchwilwyr heddiw hefyd yn or-hoff o fflamau. Mae’r tair ffilm y gwn i
amdanynt, sy’n ceisio cyfleu Merthyr y teithwyr Ffrengig, yn rhoi lle canolog i fflamau, yn
enwedig efallai eiddo’r artist Laurent Gontier.
Mae’r gyntaf yn seiliedig ar ddyddiadur taith Georges Dufaud, yr ail ar ymweliad La
Villemarqué a’r trydydd yn ffrwyth ein prosiect ni. Rwy’n eich annog i fynd i’w gwylio!
Dufaud
Ffilm addysgiadol gan amgueddfa o daith Georges Dufaud i Ferthyr, hefyd ar Vimeo.
http://www.monochrome-prod.fr/projects/georges-dufaut/ Mae’r ffilm yn rhan o
arddangosfa ryngweithiol barhaol Amgueddfa Grossouvre yn Ffrainc
https://www.espacemetal.com/activite/visite-du-musee/
Mae’r amgueddfa hefyd wedi creu gêm ddigidol seiliedig ar ddiwydiannu yn ardal y
Berry https://www.espacemetal.com/activite/jeu-numerique-sur-tablette-explor-gamele-geant-des-forges/
La Villemarqué
Un gan yr artist Laurent Gontier, yn seiliedig ar daith La Villemarqué. Tudalen vimeo
Laurent Gontier https://vimeo.com/207375065
Ffilm y prosiect
Ar sianel Youtube y Comisiwn Brenhinol ac ar gael mewn pedair iaith.
https://www.youtube.com/watch?v=GinAhRz8yjU&t=1s
Rwyf am drin fflamau Merthyr yn y nos fel motif llenyddol: delwedd neu thema sy’n codi eto
ac eto. Mae’n digwydd ar draws ieithoedd Ewrop wrth gwrs. Dyma George Borrow a’i
ddisgrifiad yn Wild Wales o’r ffordd y daw’r ‘mynydd’ o wastraff yn fyw yn nhywyllwch y
nos:
7
The mountain of dross which had startled me on the preceding night with its terrific
glare.... looked now nothing more than an immense dark heap of cinders. It is only
when the shades of night have settled down that the fire within manifests itself,
making the hill appear an immense glowing mass. (1862) (pp. 689-90).
A dyma frenin Sacsoni, Friedrich August II (1797-1854), ar daith gyda’r Carl Gustav Carus
(1789-1869), sef awdur y taithlyfr. Wedi cyrraedd Merthyr, penderfyna’r brenin newid ei
gynlluniau teithio, er mwyn gallu aros yno dros nos. Mae hyn oherwydd iddo gael ar ddeall
mai’r peth sydd raid i ymwelwyr ei wneud er mwyn gweld effaith yr holl ffwrneisi fflamiog
yw dringo i uchder uwchben y dref am 10 o’r gloch y nos:
allein um die Wirkung all dieser Feuerstätten bei Nacht zu sehen, entschliesst sich der
König in Merthyr Tydvil zu übernachten. – Nach 10 Uhr Abends gingen wir daher
wieder aus, und wurden zuerst auf einen höhern Übersichtspunkt geführt… (pp. 9293). (1845).
Y testunau Ffrangeg
Petrache Peonaru 1831
Tous ces feux sont continuellement en activité, et, lorsque, de quelqu’endroit élevé,
on regarde, pendant la nuit, sur cette multitude de feux, on ne peut pas se faire une
idée plus effroyable du Tartare, car, d’un côté, les nombreux tas de charbon
embrasés donnent une flamme qui forme une surface continue, et qui a l’aspect d’un
vaste lac de feu; de l’autre côté, les innombrables fourneaux, comme des cratères,
vomissent par leur sommet des flammes et de la fumée et par leur base des torrents
de métal fondu. Ensuite à travers la ligne de ces feux on voit se mouvoir, comme des
spectres, les ouvriers tout noirs, et armés de longs barres de fer, avec lesquelles ils
remuent le fer, comme s’ils voulaient le préparer pour dévorer les condamnés au
dernier jugement. Les machines qu’on emploie pour travailler le fer, sont d’une
grandeur et d’une puissance si gigantesque, que, lorsque on le voit pour la première
fois en activité, on est saisi tout à la fois de frayeur et d’admiration.
Dyddia’r enghraifft gynharaf yn Ffrangeg – eiddo peirianydd o Rwmania – o 1831.
Defnyddia Poenaru (1799-1875) ieithwedd y tirlun naturiol i gyfleu’r olygfa ddiwydiannol
liw nos : disgrifia ‘lyn anferth’ o dân ac ‘afon’ o fetal tawdd. Symudwn o’r daearegol, gyda’r
ffwrneisi yn cael eu disgrifio fel ‘craterau llosgfynyddoedd’, i’r dynol, trwy ei ddefnydd o’r
ferf ‘cyfogi’. Ond does yna fawr o fywyd yn perthyn i’r dynion a welir : maent ‘fel
ysbrydion’, yn tendio tanau Uffern (ac er mwyn gwneud ei bwynt yn glir, cyfeiria at
Gristnogaeth gyda ‘dydd y Farn’ ac at ‘Tartarws’ y byd Groegaidd). O ran delweddiaeth, a
safbwynt – mae wedi mynd i fan uchel, ganol nos – does yma ddim llawer i’n synnu ni o
gymharu gyda disgrifiadau cynharach. Ond dengys ei ddisgrifiad effeithiau rhethregol (e.e.
cyfateb cytseiniad ‘effroyable’ yn ‘frayeur’), ac mae’n pwysleisio ymlediad enw Merthyr
tua’r dwyrain.
8
La Villemarqué 1838
d’épouvantables montagnes de charbon et de cendre [...] l’air est chargé de
brouillards et de nuages de fumées […] La nuit toutes ces fournaises allumées à la
ronde sont du plus magnifique effet; on dirait quatorze maisons en flammes. J’ai
passé, hier soir, une heure à ma fenêtre, jouissant de ce spectacle extraordinaire.
[…] Au bruit sourd et grinçant des machines, qui par moment semble s’éloigner et
s’éteindre, puis se rapproche, gronde et mugit dans le flanc des montagnes, vous
croiriez entendre les flots de la mer.
Mae’r Llydawr La Villemarqué, neu Kervarker, yn gyfarwydd inni am ei gasgliad o faledi :
Barzaz Breiz (1839). Pan ymwelodd e â Merthyr ym 1838 mae’n honni bod yr olygfa yn
‘ofnadwy’, ond mae hefyd yn amlwg ei fod wrth ei fodd. Tipyn o sioe iddo yw’r
mynyddoedd o lo a gwastraff, y mwg, ac yn arbennig y ffwrneisi sydd ‘fel pymtheg o dai ar
dân’. Does dim amheuaeth ei fod yn mwynhau’r profiad pan ddefnyddia’r ferf ‘jouir’ a’r
ansoddair ‘magnifique’, cyn disgrifio’r cyfan fel ‘spectacle’. Mae hyd yn oed yn rhywbeth
sy’n gallu ei suo i gysgu, oherwydd yn ôl La Villemarqué mae sŵn y peiriannau yn debyg i
donnau’r môr. Yn hytrach na dringo i gopa bryn, nodwch mai ffrâm ffenest yr ystafell wely
yw ei berspectif. Efallai gwaddol yr estheteg bictiwrésg?
Alphonse Esquiros 1865
Roedd Esquiros (1812-1876) yn byw’n alltud ym Mhrydain yn dilyn Chwyldro 1848.
Er mwyn ennill arian fe ysgrifennodd dywys lyfr ar Brydain i’r gyfres boblogaidd Guides
Joanne. Yn annisgwyl, efallai, mewn tywyslyfr, ceir beirniadaeth gymdeithasol:
En dépit de cette prospérité industrielle, la ville [Merthyr] est sale, triste, malsaine, à
cause de l’accumulation des habitants dans des rues étroites et fangeuses. [...] Il serait
temps que ceux qui profitent de ces travaux, sources de si grandes richesses,
songeassent à améliorer l’état du peuple (Esquiros, Itinéraire, p. 201).
Er gwaetha’r ffyniant diwydiannol, mae Merthyr yn frwnt, yn drist, ac yn afiach,
oherwydd y nifer o drigolion sy’n byw ar ben ei gilydd mewn strydoedd cul a
mwdlyd. […] Hen bryd i’r rheiny wy’n elwa o’r gweithfeydd hyn, ffynhonell cymaint
o gyfoeth, feddwl am wella sefyllfa’r bobl.
Ceir ganddo ddisgrifiad o Ferthyr mewn erthygl swmpus ar Dde Cymru. Fel pe bai am
ymateb i fotiff y gweithfeydd haearn trwy ffenest liw nos, esbonia Esquiros na all fynd am
dro i weld y ffwrneisi oherwydd ei bod hi’n bwrw glaw. Rhaid bodloni, felly, ar ffenest ei
ystafell yng Ngwesty’r Castle Hotel: ‘mynd am dro bach at fy ffenest’, meddai.
Yr hyn a wêl drwy ei ffenest yw arwyddion tlodi enbyd: pobl heb esgidiau, pawb yn gwisgo
rhacs wedi’u pwytho at ei gilydd, plant hanner noeth yn chwarae yn y mwd fel hwyaid bach.
Rwy’n meddwl bod y pwyslais ar y ffenest yn fwriadol. Mae’n tyfu allan o’r estheteg
bictiwrésg sydd yn hoffi gosod terfyn neu fframio golygfa ddethol, gan ei chynnwys yn grwn.
Mewn ffordd, gwrthwyneb yr aruchel, sydd yn tynnu’r corff cyfan i mewn i’r profiad.
9
Yn nisgrifiad Esquiros does yna ddim effeithiau golau, na sioe weledol. Disgrifiad golau
dydd yw hwn. I mi mae’n darllen fel ymdrech i danseilio’r motiff o Ferthyr gyda’r nos gan
ddangos, yn hytrach, dlodi a phroblemau cymdeithasol mewn modd ffeithiol.
Serch hynny, ceir newid llwyr wrth i Esquiros gael ei orfodi yn ôl at y ffenest ganol nos:
j’étais couché depuis quelques heures déjà lorsque je me sentis réveillé en sursaut
par un éclat d’incendie. Je courus à ma fenêtre, vis le ciel rouge comme s’il eût été
enflammé par une aurora boréale. J’étais sur le point de crier: au feu! Mais comme
personne ne bougeait dans l’hôtel et que tout était tranquille dans le voisinage, je me
rassurai, et bientôt je me souvins que je vivais cette nuit-là dans le pays des forges. La
lueur sanglante qui empourprait les ténèbres était en effet une réverbération des ironworks (Le Sud, p. 832).
Y tro hwn mae’n brofiad sy’n effeithio ar y corff cyfan, ac felly’n perthyn i estheteg yr
aruchel. Caiff sioc corfforol: mae’n ‘neidio’, ac yna’n ‘rhedeg’ at y ffenest. Ei reddf yw
gweiddi allan mewn panic llwyr, ond jest mewn pryd mae ei gof ymwybodol, effro yn ei
lonyddu ac mae’n derbyn yr olygfa. Ond mae ei ddewis o’r ansoddair ‘gwaedlyd’ i gyfleu
effaith y fflamau o’r gweithfeydd haearn ar yr wybren ddu yn arddangos ei agwedd tuag at y
dioddefaint dynol a welodd yn gynharach yn y dydd.
Nes ymlaen, mae’n chwarae ar ffenest arall, sef ffenest y trên, i ddangos pryder am y niwed a
wneir i’r tirwedd naturiol:
Les collines, coupées, dénudées, tourmentées dans leurs escarpements, accusent en
vigueur sur un fond brumeux les blessures qu’elles ont reçues de la main de
l’homme!
…éventrée… (p. 833)
Mae’r llun yn llawn trais : y bryniau ‘wedi’u torri, wedi’u dinoethi, a’u harteithio’. Disgrifir y
ddinistr mewn termau dynol : mae gan y bryniau ‘glwyfau’, ac maent wedi cael eu
‘diberfeddu’. Peth prin iawn yw hyn yn y testunau rydw i wedi eu darllen. Ymddengys fel
rhwybeth mwy na throsiad, neu fetaffor, ar gyfer dioddefaint y bobl, sydd i’w ganfod
weithiau. Rwy’n meddwl bod Esquiros yn llais unig sy’n condemnio dulliau echdynnu
mwynau, ac yn personoli’r amgylchedd naturiol fel ffordd o wneud hyn.
Louis Simonin 1865
Y dioddefaint dynol sy’n mynnu sylw’r peiriannydd diwydiannol proffesiynnol Louis
Simonin (1830-1886):
Quelle misère écœurante, grand Dieu ! et se peut-il que dans un pays en apparence si
riche, si industriel, il y ait des gens à ce point déshérités !
la misère s’étale à Merthyr au grand jour, à la vue de tous, de la façon la plus
lamentable (p. 339).
10
Am dlodi afiach – meddai - ac ydy hi’n bosib mewn gwlad sy’n ymddangos mor gyfoethog,
mor ddiwydiannol, bod yma bobl mor amddifad ! A hynny yng ngolau dydd i bawb cael
gweld, yn y modd mwyaf gresynus.
Cyhoeddodd erthyglau swmpus am dde Cymru, ac yn nes ymlaen lyfr am fywyd glowyr La
Vie souterraine (1867) [‘Bywyd Tanddaearol’], sydd hefyd yn tynnu ar ei brofiad o Ferthyr
ac yn cyfeirio at drychinebau yno yn yr 1860au. Disgrifir effaith y fflamau ganddo heb
unrhyw emosiwn:
Il était nuit. Déjà le long de la route les feux allumés des hauts fourneaux avaient
éveillé notre attention. Dans la vallée du Taff, le spectacle devint grandiose comme
celui d’un immense incendie. […] Tous ces feux envoient vers le ciel leurs flammes
étincelantes ; on dirait que la vallée tout entière est en ignition. Il n’en est rien : c’est
le pacifique travail de l’industrie produisant sans relâche le métal devenu désormais
indispensable (p. 337).
Wrth gyrraedd Merthyr yn y nos, er ei fod yn cymharu’r olygfa â ‘thân anferth’, does yma
ddim cyffro na drama. I’r gwrthwyneb ; a phan ddywed fod y fflamau a’u gwreichion yn
rhoi’r argraff bod y cwm cyfan ar dân, fe’n sicrha ni’n syth: na, mae pob dim yn iawn ac yn
llonydd, dim ond y gwaith o gynhyrchu metal yw hyn. Tybed a oes yma ymgais fwriadol i
osgoi’r hysteria esthetaidd oedd wedi dod mor gyfarwydd? Oherwydd roedd gan Simonin
fwy o ddiddordeb yn y bobl, a cheir ganddo bortread damniol o effeithiau llygredd a thlodi ar
iechyd y gweithwyr.
Felly, i grynhoi ychydig, Esquiros yw’r unig un i ddangos pryder am yr amgylchfyd ei hun;
gwelwyd fod La Villemarqué fel pe bai’n ddi-glem am y bobl sy’n gorfod byw a gweithio yn
y tirlun llawn cyffro. Mae Simonin yn gweld problemau, ond i iechyd pobl, nid i’r
amgylchedd. Efallai mai datblygiad ymwybyddiaeth o lygredd sy’n gyfrifol am hyn: erbyn yr
1860au roedd dealltwriaeth o broblemau llygredd a’u heffaith ar iechyd yn tyfu, ac ni fyddwn
yn disgwyl gweld hyn yn y 30au. Ond dydw i ddim yn meddwl ei bod hi mor syml â hyn.
Mae’r Celtogarwyr sy’n ymweld â Merthyr yn y 60au yn methu gweld problemau
diwydiannu. Rwy’n meddwl efallai mai gwrthod gweld y maent, er mwyn gallu pwysleisio
pa mor berffaith yw’r cyfuniad a geir yn ne Cymru o draddodiad, o farddoniaeth, o
Geltigrwydd, o Gymreictod a diwydiant modern.
Erny a Martin
Roedd Alfred Erny (1838-?) a Henri Martin (1810-1883) yn ddau ffrind a rannai’r un
rhagfarn. Maent yn rhan o’r symudiad i brofi mai Celtiaid oedd gwir gyndeidiau’r Ffrancwyr,
ac maent yng Nghymru er mwyn profi pa mor wych yw’r Celtiaid mewn cyd-destun modern,
hy. diwydiannol.
Mae Alfred Erny yn ymateb, rwy’n meddwl, i fotiff y golau yn y nos ym Merthyr pan
ddisgrifia Lady Charlotte Guest yn gweithio ar ei chyfieithiad o’r Mabinogi yn yr 1830au:
La nuit la vallée est illuminée par ces flammes; si bien qu’à l’époque où lord Guest
habitait Dowlais (vaste village industriel qui lui appartient presque en entier), il
n’avait pas besoin de bougies, car la lueur des forges éclairait ses appartements
11
comme en plein jour.// Lady Charlotte Guest a rendu un grand service à la littérature
galloise en publiant les Mabinogion, anciens contes celtiques (p. 270).
Ni fyddai angen canhwyllau arni, oherwydd goleuir yr ystafelloedd gan oleuni’r ffwrneisi.
Mae’r eirfa niwtral ‘goleuo’ a’r enw ‘golau’r ffwrneisi’ yn llawer llai dramatig na’r
disgrifiadau cynt.
Felly, mae’r aflonyddu ar rythmau natuiol dydd a nos, golau a thywyllwch, sy’n ganlyniad i
ddiwydiannu, ac mor andwyol i iechyd, yn caniatáu cynnydd ym myd astudiaethau Celtaidd!
I Erny peth ymarferol, gwych, yw hyn, nid testun pryder na gofid. Mewn arolwg o’r
ddelweddiaeth danllyd a geir mewn llenyddiaeth am Ferthyr awgrymodd Armstrong-Twigg
mai dryswch yw un o brif ymatebion yr arsyllwyr: ‘disorientation at the flaming chaos of the
iron industry’ (p. 14). Nid yw Erny, felly, yn ffitio’r patrwm hwn. Mae ei ddarlun ef yn troi
egni’r drofeg at ei ddiben ei hun.
Mae diffyg dryswch a diffyg drama hefyd yn nodweddi portread Henri Martin o’r ardal (sy’n
arwyddocaol, gan fod yna ddigonedd o ddrama mewn mannau eraill o’i daithysgrif, e.e. yn
Eryri ac yng Nghaergybi).
Mae Henri Martin, oedd yn hanesydd reit enwog yn ei ddydd, hefyd yn ddall i broblemau
cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal. Does yma ddim tristwch, meddai,
l’aspect de ce pays est extraordinaire; il n’est pas triste
ils se couvrent de verdure et cachent peu à peu la trace de leur origine en entrant dans
le domaine de la végétation et de la vie (Henri Martin, p. 35).
ac mae’r tomenni o wastraff diwydiannol bob ochr i’r ffordd yn raddol droi’n wyrdd wrth i
rymoedd natur a bywyd gymryd drosodd.
Dyma awgrymu felly, yn gyflym iawn, i ba raddu mae’r teithwyr yn gallu dangos fersiynnau
gwahanol o Gymru inni, ac hefyd bwysigrwydd y cyd-destun nôl yn Ffrainc i’r hyn maent yn
ei weld yng Nghymru. Ymddengys bod teimladau a theyrngarwch tuag at Ffrainc yn effeithio
ar eu disgrifiadau. Tra roedd y Celtogarwyr Martin ac Erny yn ceisio profi bod Celtiaid yn
dda a bod fersiwn Cymru o’r Celtiaid yn berffaith, roedd Simonin, y glöwr proffesiynnol a
berthynai i economi oedd yn cystadlu gyda Phrydain eisiau pwysleisio bod gan Brydain
fantais anheg dros Ffrainc mewn diwydiant. Lwc pur yw ffyniant a llwyddiant diwydiannol
Prydain Fawr, meddai:
‘une faveur singulière de la Providence’,
‘La nature a seule préparé la situation’ (p. 338).
Bu natur yn garedig iddynt, dyna i gyd, ac nid yw eu llwyddiant yn adlewyrchiad o gymeriad
y Saeson.
Cymharer ei deimladau gyda rhai Esquiros, a oedd yn alltud, ac a fyddai o bosib yn coleddu
teimladau gwrth-Ffrengig. Dywed ef y gwrthwyneb. Nid lwc yw llwyddiant Prydain, ond
canlyniad gwaith caled a chynllunio gofalus:
12
Les grandes industries ne naissent point avec les nations; elles deviennent, elles se
développent (p. 801).
Pa mor ddibynadwy, neu pa mor ffug, yw Merthyr y Ffrancwyr?
Yn gyntaf rhaid nodi roedd pryderon cymdeithasol Esquiros a Simonin yn gywir; roedd y
cyfradd marwolaethau yn uwch ym Merthyr nag yn unrhywle arall yng Nghymru ar y pryd.
Felly sut mae esbonio bod Martin ac Erny yn ddall i’r problemau hyn, neu bod La
Villemarqué yn gwrthod cydnabod sefyllfa’r bobl. Mae Mary-Ann Constantine wedi tynnu
sylw at ddifyg dealltwriaeth La Villemarqué o’r tensiynnau oedd yn datblygu rhwng y
gweithlu a’r perchnogion. Efallai mai ofn cydnabod y gwrthryfel oedd yn cyniwair ydoedd,
ac mai dyma pam fod yr unig arlliw o drais yn ei ddisgrifiad (yma ar ffurf cyffro’r sioe o
fflamau – ‘pymtheg tŷ ar dân’) yn dod ganol nos, efallai o’r tu hwnt i’r meddwl ymwybodol ?
Rwyf am droi am funud at ddiwylliant Cymraeg Merthyr:
William Edmunds, Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr or Cyfnod Boreuaf hyd yn
bresenol (Aberdar: Josiah T. Jones, 1864).
Honna William Edmunds yn ei lyfr Cymraeg am Ferthyr o 1864 fod tai a iechyd yn iawn yma
ym Merthyr, diolch i waith y Bwrdd Iechyd, sydd wedi gwella pethau’n sylweddol trwy
‘ysgubo, golchi, a glanhau pob budreddi ac ysgarthion oedd yn gwenwyno awyr y lle’ (t. 50).
Honna hefyd nad oes cysylltiad rhwng llygredd ac afiechyd, oherwydd roedd clefydau yn
diwydd gan mlynedd yn ôl ym Merthyr, meddai, a hynny ‘er fod ei hawyrgylch heb ei
anmhuro gan fwg a nwyon afiachus oddiwrth y Gweithiau’ (t. 52).
Mae’r llyfr yn llawn balchder ac optimistiaeth: e.e. mae’r eisteddfodau yn ffynnu, mae’r holl
fwg sy’n ‘esgyn i fyny yn unionsyth tua bro asur’ yn arwydd o lwyddiant, ac mae trenau yn
dduwiesau sy’n ‘marchogaeth ar adenydd ager’ (t. 68). Dyma fersiwn Edmunds o fflamau
Merthyr liw nos:
‘Gwelir goleuni y Gweithiau hyn yn taro ar yr wybren ddeg neu bumtheg milltir o’r
lle’ (t. 69).
‘gwelid mil a mwy o fân oleuadau yn gwingo yn mhob cyfeiriad – fflachiadau
rhuddgochion a brochus yn dyrchafu o eneuau yr amrywiol ffwrnesau’ (t. 69)
Iddo ef mae golau’r tân yn y nos yn fwy pert na dramatig. Yna mae’n crybwyll Vulcan ac yn
disgrifio’r ofn mae’r tân yn ei achosi i ‘teithwyr ac ymwelwyr’ (gan awgrymu, efallai, nad
yw’r trigolion yn cael eu poeni) (t. 69).
Ategir hyn gan ei ddyfyniad o waith y bardd Dewi Wyn o Esyllt, sy’n clodfori goleuni’r
‘ffwrnesau’, y ‘llif rhuddaur’ sydd wedi dod â goleuni ac iechyd!:
‘Goleuni’r ffwrnesau drwy’n hoff fro isel,
Hed yn llif rhuddaur dros gaerau’r gorwel;
13
Mynwes y nefoedd o’i mewn sy’n dân ufel;
Gloewodd y tywyll wagleoedd tawel;
Hwynt yn awr ynt un oriel – lewyrchus,
O’r bryniau iachus i’r wybren uchel’
Mae’r goleuni ‘ffug’, h.y. diwydiannol, yn beth mor bositif nes ei fod yn rhagori ar y wawr,
h.y. ar olau naturiol, fel y gwelwch yn yr englyn ar y dde :
‘Edrych ar y drych eirian – rhyw ddunos
Arddun yw’r olygfan;
Ail ydyw’r fflamwawr lydan
I urddas dinas ar dan’ (t. 69).
Dengys gwaith ymchwil Brynley Roberts fod optimistiaeth fel hyn, ac ‘ymfalchïo yn
arwyddion diwydiant’ (t. 70) yn gyffredin yng ngwaith y beirdd. Arwydd o ffyniant iddynt
hwy oedd y mwg, y fflamau a’r sŵn (t. 69). Dyw hyn ddim yn golygu nad oedd y beirdd yn
poeni o gwbl am gyflwr y gweithwyr, e.e. gwelir Thomas Stephens y fferyllydd a’r ysgolhaig
Celtiadd a’r eisteddfotwr yn weithgar gyda’r llyfrgell a’r bwrdd iechyd.
Roedd Martin ac Erny mewn cysylltiad â’r diwylliant Cymraeg, trwy Thomas Stephens,
oherwydd eu diddordeb yn Iolo Morganwg. Ac felly roeddent yn llai o ‘estroniaid’ na’r
syllwyr eraill o Ffrainc.
Ond yr hyn sy’n gyffredin i bob un syllwr, yw’r methiant i weld y drychineb amgylcheddol
(heblaw am Esquiros, i ryw raddau). Daw unrhyw drais neu ddrama yn eu disgrifiadau o
ddicter am y cyni a’r sefyllfa gymdeithasol, ac nid o ymwybyddiaeth bod yr amgylchedd
naturiol yn cael ei dinistrio. Efallai, beth bynnag, bod y disgrifiadau o dân a fflamau, yn
dweud mwy wrthom am yr ymennydd a’r dychymyg dynol nac am agweddau tuag at yr
amgylchedd.
Serch hynny, mae’r dyniaethau amgylcheddol dal yn berthnasol.
‘We are citizens and subjects of fossil fuels through and through whether we know it
or not’ Szeman a Boyer, ‘Introduction’, Energy Humanities, t.1.
Mae diwydiant ac yn arbennig glo Cymru yn sail i’n holl brosiect ar deithwyr o Ewrop, gan
fod llongau ager oes aur llenyddiaeth daith [1815 ymlaen] yn rhedeg ar lo Cymreig.
Ni ellir gwahanu’r teithiwr ‘diwydiannol’ i Gymru (fel arfer un sy’n mynd i’r de) oddi wrth y
teithiwr sydd am ddianc i natur gwyllt ac aruchel Eryri, oherwydd mai’r diwydiannau
echdynnu fu’n gyfrifol am fodolaeth y rhwydwaith rheilffyrdd. Lluniwyd y rheilffyrdd ar
gyfer symud glo (neu lechi), ac wedyn daeth y teithwyr.
Casgliadau cyffredinol
Mae fframwaith disgyblaethol sy’n ymchwilio o fewn cyfyngiadau un ‘wlad’ neu un
traddodiad cenedlaethol, yn esgeuluso rhai pethau a rhai pobl. Gall ymchwil trawsffiniol ac
amlieithog adfer ffigyrau coll i’w lle priodol, fel Louthrebourg. Er pwysiced ei rôl, a’i
14
hyfforddiant Ffrengig, yn y chwyldro pictiwrésg ym Mhrydain, aeth yn anghof. Dim ond
arbenigwyr sy’n gwybod am ei ran yn niwylliant gweledol Cymru, ac ni chafwyd astudiaeth
o’i gyfraniad. Ar ben hyn, ni chofir amdano yn Ffrainc hyd yn oed.
Gall golwg drawsffiniol agor ein llygaid i’n traddodiad mwy lleol ein hunan, ac hefyd
amlygu cysylltiadau amgen.
Wrth ymchwilio ar gyfer heddiw darganfyddais fod un o luniau Volaire a oedd yng
nghasgliad preifat hen deulu lleol wedi newid dwylo yn ddiweddar yn Nevers. Carwn feddwl
bod Georges Dufaud, neu Achille Dufaud wedi gweld y llun hwn yn Nevers cyn dod i
Ferthyr!
Cysylltiad arall sydd yn fy nghyffroi yw’r ffaith i Émile Zola ddefnyddio llyfr Simonin wrth
ysgrifennu ei gampwaith Germinal (1885), sy’n darlunio caledi bywyd y glowyr yng
ngogledd Ffrainc. Golyga hyn bod tipyn bach o Ferthyr yn un o nofelau mwyaf Ffrainc (sydd
newydd gael addasiad teledu newydd, yn dilyn ffilm hynod lwyddianus yn y nawdegau).
Wrth ddod yn ôl at ganon llenyddiaeth Ffrainc, rwyf am dalu teyrnged i fy nghyfarwyddwr
Malcolm Bowie am ei arweiniad deallusol ysbrydoledig a charedig, ac hefyd am fy annog i
fynd ar ôl cysylltiadau amgen. Nid profi’r cysylltiad neu’r union ffynhonnell yw’r pwynt
yma. Llawer mwy cyffrous yw gosod ochr-yn-ochr y disgrifiadau tanllyd hyn o Ferthyr gyda
delweddiaeth tân Zola yn ei nofel:
‘reflets sanglants’ (p. 51)
‘le pôle était rouge, la vaste pièce sans fenêtre semblait en flammes, tellement les
reflets du brasier saignaient sur les murs’ (p. 84)
‘Les têtes, vidées par la famine voyaient rouge, rêvaient d’incendie et de sang’ (p.
291)
Mae tân yn aml yn troi’n waed yn Germinal. Gall gweithio gyda rhwydwaith amgen o
gysylltiadau amcaniaethol [speculative] arwain at gwestiynau newydd. Cwestiynau am genre:
ydy’r nofel fel ffurf ar ei hôl hi? ydy ysgrifau taith yn arloesi a’r nofel yn dilyn o ran yr
amgylchfydd? Oes mwy o ddrama o flaen fflamau i’w chanfod yn y disgrifiadau Ffrangeg
na’r rhai Saesneg? neu’r rhai Cymraeg? Os felly pam? Ond rhaid dod â’r ddarlith hon i ben,
gan eich atgoffa unwaith yn rhagor: allwch chi ddim deall Cymru yn iawn heb gymryd golwg
drawsffiniol ac amlieithog.
15