Neidio i'r cynnwys

Wicipedia Eidaleg

Oddi ar Wicipedia
Wicipedia Eidaleg
Enghraifft o'r canlynolWicipedia mewn iaith benodol Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu11 Mai 2001 Edit this on Wikidata
PerchennogSefydliad Wicimedia Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
GweithredwrSefydliad Wicimedia Edit this on Wikidata
CynnyrchGwyddoniadur rhyngrwyd Edit this on Wikidata
System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://it.wikipedia.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo'r Wicipedia Eidaleg

Fersiwn Eidaleg o Wicipedia yw'r Wicipedia Eidaleg (Eidaleg: Wikipedia in italiano). Fe'i crewyd ar 11 Mai 2001 ac fe'i golygwyd yn gyntaf ar 11 Mehefin 2001. Hi oedd y bedwaredd Wicipedia fwyaf o ran erthyglau, ar ôl y fersiynau Saesneg, Almaeneg, a Ffrangeg yn y 2010au cynnar.

Erbyn heddiw (Rhagfyr 2024), mae ganddi oddeutu 1,894,000 o erthyglau.

Protest 2011

[golygu | golygu cod]
Rhwng 4 a 6 Hydref 2011, ailgyfeirwyd holl dudalennau'r Wicipedia Eidaleg i'r maniffesto hwn.

Ar 4 Hydref 2011, o ganlyniad i benderfyniad gan y gymuned, cuddiwyd holl erthyglau'r prosiect a chafodd y wici ei flocio gan weinyddwyr (er bod y fersiwn ffôn symudol dal yn hygyrch). Mabwysiadwyd hyn fel protest yn erbyn paragraff 29 o'r DDL intercettazioni (Mesur Rhyng-gipio)[1] oedd ar y pryd dan drafodaeth yn Siambr Dirprwyon Senedd yr Eidal. Archifwyd 2019-09-16 yn y Peiriant Wayback Byddai'r mesur arfaethedig wedi awdurdodi unrhyw un sy'n credu ei fod wedi ei dramgwyddo gan gynnwys gwefan i'w orfodi i ymateb ar yr un wefan o fewn 48 awr, a heb unrhyw werthusiad o'r cais gan farnwr. Pe bai'r mesur wedi cael ei basio yna credir y byddai yn rhoi cyfyngiadau llym ar ryddid "llorweddol" o gyrchu a golygu sy'n gyffredin ym mhrosiectau Wicifryngau. Hwn oedd y tro cyntaf i un o brosiectau Wicipedia i flancio'i holl gynnwys er mwyn protestio.[2][3][4]

Cefnogodd Sefydliad Wicifryngau penderfyniad y Wicipedia Eidaleg mewn datganiad swyddogol a ryddhawyd ar yr un diwrnod.[5] Erbyn 5 Hydref 2011, cafodd y maniffesto sy'n cymryd lle'r Wicipedia Eidaleg ei weld tua 8 miliwn o weithiau.[6] Ar 6 Hydref, ailagorodd y wefan.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Wikipedia
Wikipedia