Wicipedia:Ar y dydd hwn/15 Awst
Gwedd
15 Awst: Diwrnod annibyniaeth Corea (1945), India (1947) a Gweriniaeth y Congo (1960)
- 778 – ymladdwyd Brwydr Ronsyfal rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a llu y Basgiaid
- 1057 – bu farw Macbeth, brenin yr Alban; ei enw mewn Gaeleg yw MacBheatha mac Fhionnlaigh
- 1769 – yng Nghorscia, ganwyd Napoleone Buonaparte, a ddaeth i fod yn ymerawdwr Ffrainc
- 1827 – ordeiniwyd Samuel Roberts, Llanbryn-mair yn weinidog yng nghapel ei dad; gwrthwynebydd yn erbyn caethwasanaeth ac imperialaeth Lloegr.
- 1963 – ganwyd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru 2019-2022
|