Trwydded deledu
Gwedd
Trwydded swyddogol sy'n angenrheidiol mewn nifer o wledydd er mwyn derbyn darllediadau o raglenni teledu (ac weithiau radio) ydy trwydded deledu. Ffordd o godi treth ydyw er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus, a thrwy wneud hynny galluogi darlledwyr cyhoeddus i ddarlledu rhaglenni teledu heb hysbysebion.