Tregaron
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,154 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.2196°N 3.9352°W |
Cod SYG | W04000401 |
Cod OS | SN679597 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref fechan a chymuned yng Ngheredigion yw Tregaron.[1] Mae ganddi 1185 o drigolion, a 68% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Gerllaw y dref ceir Cors Caron.
Hanes
[golygu | golygu cod]Daeth Tregaron yn dref ym 1292. Mae twf y dref wedi dibynnu ar leoliad yr ardal yn Nyffryn Teifi. Daeth yn dref farchnad i’r cymunedau amaethyddol a oedd wedi eu gwasgaru ar hyd y wlad tua’r De, a’r tirfeddiannwyr cyfoethog oedd a ffermydd mawr yn yr ucheldir tua’r dwyrain, cartref i lawer o ddefaid a phrin bobl. Tua’r Gogledd roedd Cors Caron, tir ffrwythlon pan fyddai wedi ei ddraenio, tua’r Gorllewin mae ardal fryniog a ffermwyr yn piau ffermydd bach o ond rhai erwau. Daw’r bobl yma i Dregaron i’r farchnad wythnosol a’r ffair flynyddol, Ffair Garon, lle gwerthwyd ieir, moch, gwartheg a cheffylau. Cynhelir ffeiriau defaid ym Mai a Mehefin, a dwy ffair arall yn Nhachwedd. Roedd nifer fawr o dafarndai yn y dref a fyddai’n darparu ar gyfer yr holl bobl a ddaw o’r wlad yn ystod y digwyddiadau hyn.
Yng nghanol y 18g, cadwai Matthew Evans dafarn yn y dref. Roedd ganddo ddau fab ac un merch, lladron adnabyddus a adnabyddwyd fel Plant Mat. Buont yn byw mewn ogof yn ymyl Pontarfynach am sawl mlynedd. Roedd yn anodd dal y tri am i fynediad i’r ogof fod yn rhy gul. Wedi sawl mlynedd o lwyddiant, fe gyflawnodd y tri lofruddiad ac felly fe’u dedfrydwyd i farwolaeth ac fe’u lladdwyd.
Roedd Tregaron yn brif fan cwrdd i borthmyn a fyddai, cyn sefydliad cludiant trennau, yn cymryd niferoedd mawr o wartheg, defaid ac hyd yn oed gwyddau cannoedd o filltiroedd i farchnadoedd yn Ne-Ddwyrain Lloegr. Roedd llawer o ddynion Tregaron yn gwneud hyn ac yn gwneud llawer o arian wrth wneud. Roeddent yn actio fel dynion post answyddogol neu negeswyr, ac roedd llawer yn medru osgoi y tollbyrth.
Roedd sawl melin wlan a redwyd gan ddwr i'w cael yn Nhregaron, ac roedd yn ganolbwynt i wneuthuriad sannau. Roedd dynion, menywod a phlant yn gweu sannau yn eu cartrefi ac yn eu gwerthu yn y farchnad, i ddelwyr a fyddai'n eu gwerthu ymlaen yng Nghymoedd De Cymru.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022.[2]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Y Parch. Henry Richard AS (1812 – 1888), a adwaenid fel "Yr Apostl Heddwch"
- Bu farw'r awdur Dic Tryfan yn ysbyty Tregaron yn 1919
- Joseph Jenkins - "The Welsh Swagman"
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 17 Rhagfyr 2019
- ↑ "Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 - Cyngor Sir Ceredigion". www.ceredigion.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-17. Cyrchwyd 2022-08-17.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pont-rhyd-y-groes · Pontsiân · Post-mawr · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystradaeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen