Tomos yr Apostol
Gwedd
Tomos yr Apostol | |
---|---|
Ganwyd | 1 g Galilea |
Bu farw | 3 Gorffennaf 0072 Mylapore |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | cenhadwr |
Swydd | Apostol |
Dydd gŵyl | 3 Gorffennaf, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, 6 Hydref, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol |
- Gweler hefyd Thomas.
Un o Ddeuddeg Apostolion Iesu o Nasareth a ystyrir yn sant gan yr Eglwys Gristnogol oedd Tomos, neu Thomas, y cyfeirir ato gan amlaf fel Sant Thomas neu'r Apostol Tomos. Ar ambell achlysur yn Efengyl Ioan rhoddir yr enw Didymus ("yr efaill") iddo.
Tomos/Thomas yn y Testament Newydd
[golygu | golygu cod]Crybwyillir Tomos yn efengylau Mathew, Marc a Luc, ond mae'n siarad nifer o weithiau yn Efengyl Ioan:
- Ioan 11:16: A Lasarus wedi marw’n ddiweddar, nid yw’r apostolion yn dymuno mynd yn ôl i Jwdea. Dywed Thomas, "Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef."
- Ioan 14:5: A Iesu wedi egluro ei fod yn mynd i ffwrdd i baratoi cartref nefol i’w ddilynwyr, y rhai a fyddai un diwrnod yn ymuno ag ef yno. Dywed Thomas, "Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?"
- Ioan 20:24-29: Mae Thomas yn amheus pan glyw fod Iesu wedi atgyfodi oddi wrth y meirw ac wedi ymddangos i’r apostolion eraill. Dywed, "Os na welaf ôl yr hoelion ar ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth."
- Ioan 20:28: Pan fydd Iesu’n ymddangos wedyn ac yn gwahodd Thomas i gyffwrdd â’i glwyfau, mae Thomas yn dangos ei gred trwy ddweud, "Fy Arglwydd a'm Duw." Mae Iesu'n ateb, "Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld."
Sant Thomas yn India
[golygu | golygu cod]Yn ôl adroddiadau traddodiadol Cristnogion Sant Thomas o India, glaniodd Thomas ar arfordir Kerala yn 52 OC a chafodd ei ferthyru ym Mylapore, ger Chennai yn 72 OC. Credir yn ôl y traddodiad hwnnw iddo sefydlu saith eglwys yn Kerala.
Coffadwriaeth
[golygu | golygu cod]Dathlir Gŵyl Sant Thomas yn Eglwysi'r Gorllewin ar 3 Gorffennaf.