Neidio i'r cynnwys

Tabwla

Oddi ar Wicipedia
Tabwla
Mathsalad, vegetable dish Edit this on Wikidata
Deunyddpersli, bulgur Edit this on Wikidata
Rhan ocoginio Libanus Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspersli, bulgur Edit this on Wikidata
Enw brodorolتبولة Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Salad llysieuol o'r gwledydd Arabaidd yw tabwla (Arabeg: تبولة‎) hefyd mae tabouleh neu taboulah) sydd wedi'i wneud yn bennaf o bersli wedi'i dorri'n fân, gyda thomatos, mintys, nionyn, bulgur (wedi socian, ond heb ei goginio), a'i sesnio hydag olew yr olewydd, sudd lemwn, halen a phupur melys. Mewn rhai amrywiadau o'r pryd yma ceir letys wedi'i chwalu, ac weithiau defnyddir semolina yn lle bulgur.[1]

Yn draddodiadol, mae Tabbouleh yn cael ei wasanaethu ar y bwrdd fel rhan o fezze yn y byd Arabaidd. Yn ddiweddar, mae ei boblogrwydd wedi tyfu yn niwylliannau'r Gorllewin.[2]

Etymoleg

[golygu | golygu cod]

Mae'r tabbūle yn dod o'r gair Arabeg tābil sydd yn ei dro'n dod o'r gair Aramaeg tbl, sy'n golygu "sesnin" [3][4] neu'n fwy llythrennol "dip". Ymddangosodd y defnydd o'r gair yn y Gymraeg a'r Saesneg yn gyntaf yn y 1950au.[3]

Roedd perlysiau bwytadwy o'r enw qaḍb [5] yn rhan hanfodol o'r diet Arabaidd yn yr Oesoedd Canol. Mae prydau fel tabwla yn tystio i'w poblogrwydd parhaus yng nghoginio'r Dwyrain Canol heddiw.[6] Mae'r pryd yn dod yn wreiddiol o fynyddoedd Libanus a Syria, mae [7] tabbouleh wedi dod yn un o'r saladau mwyaf poblogaidd yn y Dwyrain Canol.[8] Yn y 19g ystyriwyd mai'r salamouni (gwenith a driniwyd yn rhanbarth Dyffryn Beqaa yn Libanus) oedd y gorau i wneud bulgur, sef cynhwysyn allweddol tabwla.[9]

Mae Diwrnod Cenedlaethol Tabwla Libanus yn ddiwrnod gŵyl unigryw sy'n rhoi llwtfan eang i Tabwla. Er 2001, mae'n cael ei ddathlu ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Gorffennaf.[10]

Amrywiadau rhanbarthol

[golygu | golygu cod]

Yn y Dwyrain Canol, yn enwedig Syria, Libanus, Palestina, Gwlad yr Iorddonen, yr Aifft ac Irac, fe'i gwasanaethir fel arfer fel rhan o mezze. Mae'r Syriaidd a thrigolion Libanus yn defnyddio mwy o bersli na gwenith bulgur yn eu dysgl nhw.[11] Mae na amrywiad Twrcaidd o'r ddysgl o'r enw kısır,[8] a dysgl Armenaidd debyg o'r enw eetch sy'n defnyddio llawer mwy o bulgur na phersli. Ceir amrywiad hynafol arall yn terchots.

Yng Nghyprus, lle cyflwynwyd y ddysgl gan bobl o Libanus, fe'i gelwir yn tambouli. Yn y Weriniaeth Ddominicaidd, ceir fersiwn leol a gyflwynwyd gan fewnfudwyr o Syria a Libanus o'r enw Tipile.[12] Mae hefyd yn boblogaidd yn Israel ar achlysuron rheolaidd a gwyliau.[13]

Fel Hwmws, Baba Ghanoush, bara pita, a bwyd Arabaidd eraill, mae tabwla wedi dod yn fwyd poblogaidd yn yr Unol Daleithiau.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Oxford Companion to Food, s.v. tabbouleh
  2. 2.0 2.1 Zelinsky, 2001 p. 118.
  3. 3.0 3.1 Mark Morton (2004). Cupboard Love: A Dictionary of Culinary Curiosities (arg. 2nd). Insomniac Press. t. 302. ISBN 978-1-894663-66-3. tabbouleh dictionary meaning.
  4. "Aramæische Pflanzennamen / Von Immanuel Löw mit Unterstützung der K. Akademie der Wissenschaften in Wien". menadoc.bibliothek.uni-halle.de (yn Saesneg). 1881. Cyrchwyd 2021-06-30.
  5. "Tabouli Parsley and Bulgur Salad". Arousing Appetites. Arousing Appetites. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-11. Cyrchwyd 2021-08-04.
  6. Wright, 2001, p. xxi.
  7. Madison Books, gol. (2007). 1,001 Foods to Die For. Andrews McMeel Publishing. t. 172. ISBN 978-0-7407-7043-2.
  8. 8.0 8.1 Basan, 2007, p. 180-181.
  9. Nabhan, 2008, pp. 77-78.
  10. A Complete Insiders Guide to Lebanon. Edition Souk el Tayeb Press. December 2008, pp 266-267.
  11. Wright, 2001, p. 251. "In the Arab world, tabbouleh (tabbūla) is a salad usually made as part of the mazza table (p xx) especially in Syria, Lebanon and Israel."
  12. Brown, Isabel Zakrzewski (1999). Culture and Customs of the Dominican Republic. Greenwood Publishing Group. t. 56. ISBN 9780313303142.
  13. Degutiene, Nida (2015-08-18). A Taste of Israel – From classic Litvak to modern Israeli (yn Saesneg). Penguin Random House South Africa. ISBN 978-1-4323-0654-0.

 

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]