Subway
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cadwyn o dai bwydydd parod, menter |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 28 Awst 1965 |
Sylfaenydd | Fred DeLuca, Peter Buck |
Ffurf gyfreithiol | cwmni preifat |
Cynnyrch | brechdan, salad |
Pencadlys | Milford |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://subway.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Subway yn gadwyn bwytai rhyngwladol sy'n gwerthu brechdanau yn bennaf. Fe'i hagorwyd fel "Pete's Super Submarines"[1] yn Bridgeport, Connecticut, UDA, ym 1965 ac agorodd ei ail leoliad ym 1974, hefyd yn Connecticut. Ers hynny mae wedi ehangu i ddod yn fasnachfraint fyd-eang.
Nid cwmni Subway sy'n berchen ar y bwytai, yn hytrach, mae'n defnyddio systemmasnachfraint, gyda chwmnïau llai yn berchen ar fwytai unigol.
Cynhwysion dadleuol
[golygu | golygu cod]Canfu llys yn Iwerddon mai nid "bara" yw'r hyn a geir mewn brechdanau Subway, oherwydd ei fod yn cynnwys hyd at 10% siwgr.[2] Yn 2021, aethpwyd â Subway i'r llys gan ymgyrchwyr oedd yn honni nad oedd tiwna i'w gael yn eu brechdanau "tiwna" - ymatebodd Subway gan greu gwefan arbennig o'r enw Subway Tuna Facts[3].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'It's just not what people want anymore': Subway to close hundreds of U.S. stores". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2018. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2020.
- ↑ "Sandwiches in Subway 'too sugary to meet legal definition of being bread'". independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-31.
- ↑ "Subway Tuna Is 100% REAL Wild-Caught Tuna". subwaytunafacts.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-31.