Stan Laurel
Stan Laurel | |
---|---|
Ganwyd | Arthur Stanley Jefferson 16 Mehefin 1890 Ulverston |
Bu farw | 23 Chwefror 1965 Santa Monica |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, sgriptiwr, digrifwr, actor ffilm, perfformiwr stỳnt, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd |
Tad | Arthur J. Jefferson |
Priod | Lois Neilson, Ruth Rogers, Vera Ivanova Shuvalova, Ruth Rogers, Ida K. Laurel |
Partner | Mae Dahlberg |
Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
llofnod | |
Actor digrif, dramodydd a chyfarwyddwr ffilm Seisnig oedd Stan Laurel (ganwyd Arthur Stanley Jefferson; 16 Mehefin 1890 – 23 Chwefror 1965) ac un hanner o Laurel a Hardy, y ddeuawd a gychwynnodd yn oes ffilmiau mud a barodd 25 mlynedd, o 1927 i 1951. Ymddangosodd gyda'i bartner comedi Oliver Hardy mewn 107 ffilm ffer, ffilm nodwedd a rhannau cameo.
Fe'i ganwyd yn nhref Ulverston, Swydd Gaerhirfryn (bellach yn Cumbria), Lloegr, i deulu theatraidd, a magwyd yn Bishop Auckland, Swydd Durham, wedyn Tynemouth, Northumberland, a Glasgow, yr Alban. Yn Glasgow y cychwynodd ar ei yrfa ar y llwyfan, gan ymddangos mewn pantomeimiau a sgetshis yn y theatr gerdd. Ym 1910 ymunodd â chwmni actorion Fred Karno, ac am gyfnod roedd yn dirprwyo dros Charlie Chaplin. Aeth y cwmni ar daith drwy'r Unol Daleithiau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac arhosodd Laurel a Chaplin yno. Parhaodd Laurel i ymddangos ar y llwyfan am ddegawd o leiaf, ond ym 1917 roedd ganddo rôl mewn ffilm fer, Nuts in May. Wedi hynny trodd fwyfwy at weithio mewn ffilmiau, a ffurfiodd ei bartneriaeth hirsefydlog gyda Hardy ym 1927. Ymddeolodd Laurel ar ôl marwolaeth ei bartner ym 1957. Bu farw yn Santa Monica, Califfornia, ym 1965.
Roedd ganddo bedair gwraig, a phriododd un ohonyn nhw ddwywaith.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Fred Lawrence Guiles, Stan: The Life of Stan Laurel (Efrog Newydd, 1980)