Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Boddi Tryweryn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Symbolaeth

[golygu cod]

Alan012: pa hwyl gyfaill? Rwyt wedi dileu brawddeg (sef: Gwnaed y boddi hwn yn symbol, gan lawer, o foddi cymunedau Cymreig led-led Cymru gan fewnlifiad Saesnig), gyda'r canlynol yn eglurhad dros ei dileu: (yn dileu brawddeg amhendant am "fewnlifiad Saesnig" - angen enghreifftiau penodol er mwyn ei chadw) Fe'i rhoddais i mewn yn yr erthygl gyda swn llinell anfarwol Gerallt Lloyd Owen yn fy nghylustiau: 'Nid un Tryweryn yw'n tranc' h.y. bod eraill, heddiw, yn dal i gael ei boddi. Ond does gen i ddim teimlad cryf o ran ei chynnwys neu beidio a'i chynnwys ar Wici, eithr fe bery hyd dragwyddoldeb yn fy mhen. Llywelyn2000 22:22, 1 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Meddyliais i bod y frawddeg yn rhy gyffredinol, â diffyg o eglurhad -- mae'n hawdd dweud bod "llawer" yn meddwl rhywbeth, ond mae'n anodd i'w wireddu heb ffynonellau. (Ac fel Sais fy hun, dwi tipyn bach yn sensitif am y pwnc hwn wrth gwrs!!) Yn ôl dy sylw uchod, mae'n ymddangos oedd ffynhonnell benodol mewn ffaith -- ond doedd hi ddim ond "yn dy glustiau"; rhaid ei rhoi ar y dudalen achos nad yw'r darllenwr yn delepathig. :-) Ond dwi'n gweld bod Anatiomaros wedi ei hychwanegu (ar ôl iddo fo ddarllen dy sylw, dwi'n dyfalu). Alan 09:52, 2 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
O.N. dyma lun cynharach o'r graffiti, cyn i'r mur adfeiliedig golli'r llythyren "H"! Alan 10:04, 2 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Rwyt ti'n dyfalu'n iawn, Alan. Dwi'n gobeithio fod y testun dwi wedi ychwanegu yn fwy derbyniol. Dwi'n deall dy sensitifrwydd, wrth gwrs, ond does dim dwywaith fod Tryweryn yn symbol grymus o'r "mewnlifiad" gan bobl di-Gymraeg o dros Glawdd Offa i gefn gwlad Cymru a'r effaith mae hynny wedi cael. Rwyt ti'n Sais, Alan, ond rwyt ti'n dysgu Cymraeg ac yn cyfrannu i'r diwylliant Cymraeg hefyd trwy dy waith yma. Ar sawl ystyr felly rwyt ti'n "well Gymro" na sawl un o Gymru sy'n dod allan â'r hen esgus cyfarwydd 'na "I'm as good a Welshman as any, BUT..."! Anatiomaros 15:30, 2 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch :-) Mae dy fersiwn yn hollol dderbyniol, wrth gwrs. Alan 20:14, 2 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am dy sensitifrwydd arferol. Ti oedd yn iawn. Gyda llaw, mae'n anod cael amser yn ddiweddar. F'ymddiheuriadau i bawb na fedraf roi yr amser yr hoffwn ei roi. Mae Wici yn bwysig i ni fel cenedl, yn fynhonnell werthfawr o wybodaeth a'i botesial yn dychryn rhywun ac yn her i'r hen fyd materol yma. Ond dwi'n crwydro Alan, un o arwyr y genedl i mi ydy Zonia Bowen - Saesnes a fagodd pedwar o Gymry Cymraeg, sgwennu llyfryn Cymraeg ar siarad Llydaweg... a sefydlu Merched y Wawr. Rwyt tithau'n arwr am dy waith cyson a diflino, diddiolch a phwysig. Petawn ni ond hanner y dyn... Llywelyn2000 23:40, 4 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Cymdeithas yr Iaith

[golygu cod]

I fi dyw'r cyfeiriad at Gymdeithas yr Iaith ddim yn dal dwr. Ymateb i foddi Tryweryn bu'r bomio. Roedd sefydlu Cymdeithas yr iaith yn fwy o ymateb i'r ddarlith radio gan Saunders. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Dyfrig (sgwrscyfraniadau) 21:44, 10 Chwefror 2013‎ Dyfrig (sgwrs) 01:33, 11 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

""Ddim yn dal dŵr" - da iawn Dyfrig! Addas iawn! Et, mae'r frawddeg yn cynnwys y geiriau "yn ddiweddarach". Neu a oes cynnwys yr ymateb i'r Ddarlith Radio hefyd? Oedd y Ddarlith hefyd yn cyfeio at foddi Cwm Tryweryn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:54, 11 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Mae'r erthygl hon yn dyfynnu'r pennill hwn o gân gan Dafydd Iwan:

Mae argae ar draws Cwm Tryweryn
Yn gofgolofn i'n llyfdra ni;
Dyw'r werin ddim digon o ddynion, bois,
I fynnu ei rhyddid hi.

Mae'r trydydd linell yn swnio'n eithaf rhywiaethol i mi, er gwaetha'r posibilrwydd bod y gair "bois" yn pwysleiso cymhariaeth rhwng dynion a bechgyn yn hytrach na rhwng dynion a merched.

Er dylai gwybodaeth berthnasol gael ei dangos heb sensoriaeth ar Wicipedia, dw i'n mynd i ddileu rhan o'r dyfyniad, achos dim ond y dau linell cyntaf sy angen er mwyn nodi'r ffaith bod cyfeiriad at Gwm Tryweryn yn y gân. Does dim angen digonol i gynnwys y cwpled a all gael ei gysidro'n rhywiaethol.

--Money money tickle parsnip (sgwrs) 06:11, 23 Medi 2019 (UTC)[ateb]