Rith
Ras gyfnewid baton dros y Wyddeleg yw'r Rith (neu 'an Rith'). Gair Gwyddeleg sy'n golygu 'rhedeg' yw rith (ynganiad wyddor IPA, rˠih)
Cynhaliwyd y Rith gyntaf yn 2010 yn ystod Seachtain na Gaeilge ('wythnos y Wyddeleg') sy'n arwain at Ddydd Sant Padrig a chynhelir pob Rith ers hynny yn ystod yr wythnos hon. Dechreuodd yn ninas Belffast a gorffen yn ninas Gaillimh (Gallway) gan redeg a phasio'r baton oddeutu 600 km ar hyd llwybr drwy ddinasoedd a threfi, gan gynnwys Dulyn a Chorc. Cafwyd neges o gefnogaeth i'r Rith gan Arlywydd Iwerddon Mary McAleese.
Rhedodd Rith 2012 700 km rhwng sir Dún na nGall (Donegal) a gorffen ar Ynysoedd Aran gan deithio drwy Belffast a Dulyn. Yn 2014 rhedodd y Rith 1,000 km gan ddechrau yn Sir Corc a gorffen yn ninas Belffast.
Mae'r Rith yn seiliedig ar rasys iaith anghystadleuol eraill yn Llydaw (ar Redadeg) a Gwlad y Basg (Korrika). Ers 2014, mae Ras yr Iaith yn bodoli yng Nghymru hefyd. Yn wahanol i rasys iaith Llydaw a Gwlad y Basg, nid yw'r ras yn rhedeg yn ddi-stop drwy'r dydd a'r nos ond yn hytrach yn sefyll dros nos mewn tref cyn ailgychwyn drannoeth. Mae hi wastad yn rhedeg drwy bedair talaith hanesyddol Iwerddon; cynhelir y Rith bob dwy flynedd.
Trefnir y Rith gan fudiadau iaith y Wyddeleg ac mae'n gweithio'n draws-ffiniol ar hyd y Weriniaeth a'r Chwe Sir. Mae'n cael cefnogaeth gref gan rwydwaith Gaelscoil, sef ysgolion cyfrwng Gwyddeleg yr ynys.
Cân y Rith
[golygu | golygu cod]Cyfansoddwyd cân i'r Rith yn arbennig yn 2010 a bellach defnyddir y gân hon ymhob ras gan ddefnyddio gwahanol glipiau o'r Rith i gyd-fynd ag hi.
Rasys iaith eraill
[golygu | golygu cod]- Gwlad y Basg - Korrika
- Llydaw - Redadeg Archifwyd 2012-05-09 yn y Peiriant Wayback
- Cymru - Ras yr Iaith Archifwyd 2017-09-29 yn y Peiriant Wayback
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan an Rith Archifwyd 2013-02-25 yn y Peiriant Wayback