Prifysgol Genedlaethol Lesotho
Prifysgol Genedlaethol Lesotho yw unig brifysgol gwlad Lesotho yn neheudir Affrica. Lleolir yn nhref Roma sydd tua 34 km i'r de-ddwyrain o Maseru, prifddinas y wlad.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Coleg Prifysgol Gatholig y Pab Pïws XII
[golygu | golygu cod]Yn 1938, penderfynodd Synod Esgobion Catholig De Affrica sefydlu Coleg Catholig. Ar 8 Ebrill 1945 yn Rhufain cyhoeddwyd y penderfyniad i greu Coleg Prifysgol Gatholig Pïws XII a enwyd wedi'r Pab Pïws XII. Fe'i lleolwyd dros dros yn adeilad yr ysgol gynradd yn Roma.
Ym 1946, symudwyd y Coleg i'r adeiladau presennol a adeiladwyd ar tua deg a hanner erw o dir. Yn 1950, cyflwynwyd Congregation o Oblates Mary Immaculate (OMI) i'r Coleg Prifysgol Catholig.[2] myfyrwyr a baratowyd Coleg i gael cymwysterau allanol a ddyfernir gan Brifysgol De Affrica (UNISA).[1]
Prifysgol Basutoland, Gwarchodiaeth Bechuanaland a Gwlad Swaziland (UBBS)
[golygu | golygu cod]Ar 1 Ionawr 1964, trawsnewidiwyd y Coleg i fod yn Brifysgol anenwadol Basutoland, Gwarchodaeth Bechuanaland a Swaziland (University of Batusoland, Bechuanaland Protectorate and Swaziland), ac yn 1966, wedi annibyniaeth y gwledydd o Brydain, a newid enwau'r gwledydd rhydd newydd, yn Brifysgol Botswana, Lesotho a Swaziland (University of Botswana, Lesotho and Swaziland, UBLS). Derbyniodd y brifysgol ei statud ei hun a roddwyd iddi gan Elizabeth II.
Prifysgol Genedlaethol Lesotho
[golygu | golygu cod]Ar 20 Hydref 1975, naw mlynedd wedi ennill annibyniaeth Lesotho, sefydlwyd y prifysgol genedlaethol annibynnol - Prifysgol Genedlaethol Lesotho (National University of Lesotho)[1]. Pasiwyd y penderfyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ddeddf Rhif 13 o 1975. NUL yw olynydd Coleg Prifysgol Pius XII a'r UBLS gan etifeddu ei thir a'u hadeiladau.
Iaith
[golygu | golygu cod]Er gwaethaf yr arwyddais Nete ke Thebe ("Tarian yw'r Gwir") yn yr iaith Sesotho, ymddengys o wefan y Brifysgol fod yr holl ddysgu a gweinyddu swyddogol yn yr iaith Saesneg yn unig a dim yn yr iaith genedlaethol a iaith cartref 85% o frodorion Lesotho. Efallai, fod hynny'n rannol esbonio canlyniadau gwael y brifysgol mewn sawl pwnc.
Cyfadrannau
[golygu | golygu cod]Mae gan y Brifysgol 7 cyfadran:[3]
- Cyfadran Amaethyddiaeth
- Cyfadran Addysg
- Cyfadran y Gwyddorau Iechyd
- Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol
- Cyfadran y Dyniaethau
- Cyfadran y Gyfraith
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cangellorion y Brifysgol
[golygu | golygu cod]- Syr Hugh Stephenson, 1964-1966
- Syr Seretse Khama, KBE, 1967-70
- Brenin Moshoeshoe II, 1971-1974
- Sobhuza II, brenin Gwlad Swasi, 1974-1975
- Brenin Moshoeshoe II, 1976-1990
- Letsie III, brenin Lesotho, 1991-presennol [4]
Perfformiad academaidd
[golygu | golygu cod]Ym Mehefin 2011, adroddodd y Lesotho Times bod hanner y myfyrwyr mewn tri o'r saith gyfadran yn y Brifysgol wedi methu eu haroliadau.[5] Roedd yr "unprecedented failure rate" yng nghyfadrannau'r Gyfraith, Gwyddor Iechyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Llyfrgell
[golygu | golygu cod]Roedd y llyfrgell yn rhan annatod o hen Goleg Pïws XII o ddechrau ei fodolaeth. Adeiladwyd y llyfrgell presennol yn 1964. Ym 1979, pan ddaeth yn Llyfrgell NUL, derbyniodd enw Thomas Mofolo. Yn ogystal â chasgliadau llyfrgell confensiynol, mae'n rhedeg archif, yn casglu dogfennau, ac mae ganddi adran amgueddfa hefyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-11. Cyrchwyd 2013-12-11.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2018-10-04.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-31. Cyrchwyd 2014-03-31.
- ↑ http://www.nul.ls/nul-history/
- ↑ http://www.lestimes.com/half-of-nul-students-fail/