Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Math | prifysgol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Prifysgol oedd wedi ei leoli ar ddwy gampws yn Abertawe, Cymru oedd Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Saesneg: Swansea Metropolitan University). Mae'r prifysgol bellach yn rhan o Prifysgol Cymru y Trindod Dewi Sant.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y Brifysgol fel Athrofa Addysg Uwch Abertawe ym 1992, pan dderbyniodd statws fel Corfforaeth Addysg Uwch annibynnol. Cyn hynny, fe'i adwaenir fel Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, a gafodd ei sefydlu ym mis Medi 1976 wrth i dri coleg uno. Y colegau hynny oedd Coleg Celf Abertawe, Coleg Addysg Abertawe (coleg hyfforddi athrawon) a Choleg Technoleg Abertawe.
Ym mis Ionawr 2008, cyhoeddwyd fod y Cyfrin Gyngor wedi rhoi statws prifysgol i'r sefydliad, gan gytuno ar ei enw, gan ei wneud yn un o brifysgolion mwyaf newydd yng ngwledydd Prydain.
Arferai'r Athrofa fod yn aelod llawn o Brifysgol Cymru ond yn dilyn newidiadau strwythurol yn y Brifysgol ym mis Medi 2007, mae bellach yn sefydliad achrededig. Mae'n ganolfan cymwys ar gyfer rhaglenni BTEC Cenedlaethol Uwch ac NVQ.
Mae cyrsiau astudio Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn cynnwys ystod o gyfleoedd gyrfaol. Nodweddion ei holl gyrsiau yw gallu defnyddio gwybodaeth mewn sefyllfaoedd go-iawn, boed yn yr ystafell ddosbarth, labordy neu'r gweithdy.
Llety myfyrwyr
[golygu | golygu cod]Mae gan y Brifysgol nifer o neuaddau preswyl ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys:
- Townhill (265 ystafell)
- Neuadd Gwyr (69 ystafell)
- Neuadd Dyfed (99 ystafell)
- Neuadd Cenydd (97 ystafell)
- Mount Pleasant (6 ystafell dau wely a 37 ystafell sengl)
Bwriada'r brifysgol newid yr hen lyfrgell i lety myfyrwyr ac mae cynlluniau i adeiladu mwy o lety ger Afon Tawe yn yr Hafod.[2]