Penrhyn Kanin
Math | gorynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ocrwg Ymreolaethol Nenets |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 10,500 km² |
Gerllaw | Môr Barents, Môr Gwyn |
Cyfesurynnau | 67°N 45°E |
Mae Penrhyn Kanin (Rwseg: Канин полуостров) yn benrhyn mawr yn Okrug Hunanlywodraethol Nenets, Rwsia. Lledred: 68° hydred: 45°
Mae wedi'i amgylchynu gan y Môr Gwyn i'r gorllewin a Môr Barents i'r gogledd a'r dwyrain. Shoyna yw un o'r ychydig gymunedau ar y penrhyn.
Ffawna
[golygu | golygu cod]O ran morfilod, morfilod beluga yw'r mwyaf cyffredin a welir. Gwelir hefyd morfilod sberm gwryw yn ogystal ar brydiau.[1]
Ieir bach yr haf/glöynnod byw
[golygu | golygu cod]Mae 29 math o löyn byw yn y twndra goedwigol a 14 rhywogaeth yn y twndra îs-arctig.[2] Mae'r data ar y ffawna a dosbarthiad y rhywogaethau twndra goedwigol Penrhyn Kanin yn gyffredinol yn nodweddiadol o'r parth naturiol hyn. Y rhywogaethau mwyaf niferus yw'r Erebia disa, Oeneis norna, Clossiana freija, Bag napi, a'r Vacciniina optilete. Y rhywogaethau amlycaf yn yr ardaloedd twndra deheuol yw'r Erebia euryale, Erebia pandrose, a Boloria aquilonaris, sy'n cyd-fynd â chanlyniad ymchwil a wnaed yn 1903.[3] Mae niferoedd uchel o E. pandrose yn un o nodweddion penodol rhan ogleddol Penrhyn Kanin ac Ynys Kolguev, gan dynnu sylw at y cysylltiad ym miota'r tiriogaethau hyn â rhanbarthau îs-artig Fennoscandia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://spo.nmfs.noaa.gov/mfr464/mfr46410.pdf
- ↑ Bolotov, I. N. (2012). "The Fauna and Ecology of Butterflies (Lepidoptera, Rhopalocera) of the Kanin Peninsula and Kolguev Island". Entomological Review 92 (3): 296–304. doi:10.1134/S0013873812030062.
- ↑ Poppius, B. (1906). "Beiträge zur Kenntniss der Lepidopteren-Fauna der Halbinsel Kanin". Acta Soc. Fauna Flora Fennica B 28 (3): 1–11.