Orendy
Gwedd
Ystafell neu adeilad lle gellid cadw coed oren a choed ffrwythau eraill yn ystod y gaeaf oedd orendy. Roeddent yn ychwanegiadau ffasiynol i blastai gwledig o'r 17g, 18g a 19g. Yn nodweddiadol roeddent ar ffurf tŷ gwydr neu ystafell wydr fawr iawn. Byddai coed yn cael eu cadw mewn cynwysyddion a fyddai'n cael eu symud allan i'r awyr agored yn ystod misoedd yr haf. Roedd orendy yn symbol o fri a chyfoeth. Byddai perchnogion yn tywys eu gwesteion yno ar deithiau o amgylch yr ardd i edmygu nid yn unig y ffrwythau ond hefyd bensaernïaeth y lle.
Orendai yng Nghymru
[golygu | golygu cod]- Mae orendy (tua 1700) yn rhan o adeilad y stablau yn Nhŷ Tredegar, Coedcernyw, Casnewydd.[1]
- Mae orendy (1668–1705) yn rhan o derasau Castell Powys, ger y Trallwng.[2]
- Roedd orendy gan y pensaer Anthony Keck yn Castell Pen-rhys ar Benrhyn Gŵyr (1775–80).[3]
- Cwblhawyd enghraifft odidog arall gan Keck ym Mharc Gwledig Margam, Castell-nedd Port Talbot (1787–93).[4][5]
- Adeiladwyd enghraifft neo-Gothig hanner-wythonglog yn Neuadd Nercwys, Sir y Fflint, gan Benjamin Gummow.[6]
- Roedd orendy yn rhan o Abaty Singleton, plasty neo-Gothig o'r 19g sy'n bellach rhan o Brifysgol Abertawe.[7]
- Adeladwyd orendy bach yng ngardd Plas Brondanw, Gwynedd, tŷ pensaer Clough Williams-Ellis, tua 1910.[8]
-
Orendy yn Nhŷ Tredegar
-
Castell Powys o'r de, gydag orendy ar y teras gwaelod
-
Orendy ym Mharc Gweldig Margam
-
Orendy yng ngardd Plas Brondanw, Gwynedd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Stable Block including Orangery", British Listed Buildings; adalwyd 30 Tachwedd 2019
- ↑ "Powis Castle, Orangery, Welshpool", Gwefan Coflein; adalwyd 28 Tachwedd 2019
- ↑ "Penrice, Orangery", Gwefan Coflein; adalwyd 28 Tachwedd 2019
- ↑ "Margam Castle, Orangery", Gwefan Coflein; adalwyd 28 Tachwedd 2019
- ↑ "Yr Orendy", Gwefan Parc Gwledig Margam; adalwyd 15 Tachwedd 2019
- ↑ "Nerquis Hall Orangery, Nercwys", Gwefan Coflein; adalwyd 28 Tachwedd 2019
- ↑ "Singleton Park ...", Gwefan Coflein; adalwyd 30 Tachwedd 2019
- ↑ "The Orangery at Plas Brondanw Gardens", British Listed Buildings; adalwyd 30 Tachwedd 2019