Neidio i'r cynnwys

Old Compton Street

Oddi ar Wicipedia
Old Compton Street
Mathstryd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Cysylltir gydaDean Street, Frith Street, Greek Street, Tisbury Court, Wardour Street, Moor Street Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5133°N 0.1313°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Old Compton Street yn stryd sy'n mynd o ddwyrain i orllewin Soho, yn Ninas Westminster, canol Llundain. Erbyn heddiw, mae'n cael ei hadnabod fel canolbwynt cymuned hoyw Llundain, ac mae ganddi nifer o glybiau a bariau hoyw, tai bwyta yn ogystal â theatr boblogaidd y Tywysog Edward.

Enwyd y stryd ar ôl Henry Compton, a gododd arian ar gyfer eglwys leol y plwyf. Enwyd yr eglwys yn Eglwys y Santes Anne ym 1686. Ar ôl i Siarl II o Loegr gynnig gwarchod y Protestaniaid ym 1681, poblogwyd yr ardal yn gyffredinol a'r stryd hon yn benodol gan ffoaduriaid o Ffrainc.

Erbyn diwedd y 18g, roedd gan lai na deg o dai ffenest siop ar eu tu blaen. Yng nghanol yr 19g, defnyddiwyd y mwyafrif o'r tai fel siopau, er bod gweithdai yn ogystal â thafarndai a thai bwyta yno hefyd. Parhaodd y nifer o mewnfudwyr i gynyddu a daeth y stryd yn enwog fel man cyfarfod ar gyfer pobl alltud, yn enwedig ar gyfer y Ffrancod; wedi iddynt gael eu herlid ym Mharis, arferai Rimbaud a Verlaine yfed yma hefyd.

Rhwng 1956 a 1970, lleolwyd Bar Coffi 2 I fan yma. Arferai nifer o gerddorion pop y 1960au chwarae yn y ganolfan gyfyng hon.

Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.