Offeryn statudol
Gwedd
Mewn nifer o wledydd, math o ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu ddeddfwriaeth eilradd ydy offeryn stadudol.
Deyrnas Unedig
[golygu | golygu cod]Offerynnau statudol yw'r prif fodd y caiff deddfwriaethau dirprwyedig neu eilradd eu creu yn y Deyrnas Unedig. Rheolir y broses o greu offerynnau statudol gan Ddeddf Offerynnau Statudol 1946.[1]
Yn sgil datganoli i'r Alban a Chymru yn 1999, trosglwyddwyd llawer o bwer i greu offerynnau stadudol i Lywodraeth yr Alban a Chynulliad CenedlaetholCymru. Bellach ystyrir offerynnau gan Lywodraeth yr Alban yn Offerynnau Statudol Albanaidd.
Yng Ngogledd Iwerddon, trefnir deddfwriaethay dirprwyedig gan reolau statudol, yn hytrach nag offerynnau statudol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Deddf Offerynnau Statudol 1946, section 1