Nerys Hughes
Nerys Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 8 Tachwedd 1941 Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Actores o Gymru yw Nerys Hughes (ganwyd 8 Tachwedd 1941) sy'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar deledu, yn cynnwys y gyfres deledu The Liver Birds ar y BBC.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd hi yn y Rhyl (yn Sir y Fflint ar y pryd, yn Sir Ddinbycherbyn hyn). Cymraeg yw ei mamiaith.[1] Astudiodd ddrama yng Ngholeg Rose Bruford. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rhan fel Sandra Hutchinson yn y gyfres deledu llwyddiannus ar The Liver Birds a ddarlledwyd gan y BBC rhwng 1969 a 1978 gyda adfywiad byr yn 1996. Ei prif gyd-actorion oedd Mollie Sugden a Polly James.
Yn ddiweddarach fel chwaraeodd y prif rhan yn The District Nurse,[2], cyfres a ysgrifennwyd yn arbennig iddi, ac enillodd wobr Actores Deledu y Flwyddyn gan y Variety Club. Ryddhawyd y gyfres ar DVD yn 2006.
Gwnaeth ymddangosiadau byr yn y ffilmiau A Severed Head a Take A Girl Like You, y ddau yn 1970. Yn y theatr, mae wedi perfformio gyda'r Royal Shakespeare Company, yr English Stage Company yn y Royal Court, a Theatre of Comedy.
Roedd Hughes yn un o'r 'chwilotwyr' a deithiodd i'r blanet Arg ym mhedwerydd pennod (sydd nawr ar goll o'r BBC) y gyfres cwis The Adventure Game yn 1981, lle diflannodd wrth chwarae gêm y Vortex. Roedd yn seren gwadd yn y stori esoterig a trosiadol "Kinda" (1982) ar gyfres Doctor Who yn chwarae'r gwyddonydd Todd, gyda Peter Davison, Richard Todd a Simon Rouse. Ymddangosodd ym mhennod "Something Borrowed" oTorchwood fel Brenda Williams. Mae hefyd yn adnabyddus am ei rhan fel Glenda yn The Queen's Nose (1998–2000).
Gwnaeth y band Half Man Half Biscuit ryddhau cân "I Hate Nerys Hughes (From The Heart)" ar eu albwm Back in the D.H.S.S..
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod a Patrick Turley. Cyfarfu'r ddau yn y 1960au pan oedd Patrick yn ddyn camera teledu. Dywedodd Nerys ei fod wedi "achub ei bywyd" wrth ffilmio - gwthiodd hi a'i gamera mewn i ffos er mwyn osgoi car oedd yn rasio atynt.[3]
Gwaith teledu
[golygu | golygu cod]Comedi
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan |
---|---|---|
1966 | The Likely Lads | Valerie |
1969 | The Valley Express | Jenny |
1972 | The Merchant of Venice | Nerissa |
1971–79 1996 |
The Liver Birds Whatever Happened to The Liver Birds |
Sandra Hutchinson |
1982 | Third Time Lucky | Beth Jenkins |
1989 | A Night of Comic Relief 2 | Herself |
Drama
[golygu | golygu cod]Blwydyn | Teitl | Rhan |
---|---|---|
1963 | Dixon of Dock Green | Beryl |
1963 | Z-Cars | Molly Roberts |
1975–76 | How Green Was My Valley | Bronwen Morgan |
1982 | Doctor Who:Kinda | Todd |
1984–87 | The District Nurse | Megan Roberts |
1998 | The Queen's Nose | Glenda |
2008 | Torchwood: Something Borrowed | Brenda Williams[4] |
Ymddangosiadau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan |
---|---|---|
1984 | This Is Your Life | Pwnc |
1989 | Fun with ABC | Cyflwynydd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Daily Post
- ↑ northwales Administrator (28 Rhagfyr 2009). "Rhyl actress Nerys Hughes". northwales.
- ↑ (Saesneg) Kathryn Williams (1 Gorffennaf 2014). Actress Nerys Hughes on being 'ditched' by husband Patrick. WalesOnline.
- ↑ "Torchwood". RadioTimes.