Neidio i'r cynnwys

Me One

Oddi ar Wicipedia
Me One
Ganwyd19 Awst 1970 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, rapiwr, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata

Mae Me One (ganwyd Eric Martin ar 19 Awst 1970) yn gerddor, rapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau Jamaicaidd-Gymreig, a ddaeth i amlygrwydd am ei waith ar gyfer y grŵp cerddorol Technotronic yng Ngwlad Belg.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Martin yng Nghaerdydd, yn fab i rieni Jamaicaidd; ei fam yn athro Saesneg o Kingston a'i dad yn weinidog Eglwys Bentecostaidd o Blwyf y Santes Fair. Addysgwyd Martin yng Nghaerdydd, Llundain a Dinas Efrog Newydd. Mae ganddo ddinasyddiaeth ddeuol Jamaicaidd a Phrydeinig.

Gwaith gyda Technotronic

[golygu | golygu cod]

Roedd Martin (fel MC Eric) yn aelod o grŵp dawns tecno Technotronic, gan ddarparu prif lais ar y sengl boblogaidd "This Beat Is Technotronic" (1990). Ar anterth eu gyrfa buont ar daith gyda Madonna ar ei thaith byd-eang Blond Ambition yn y 1990au.

Gyrfa ddiweddar

[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd albwm cyntaf Martin o dan yr enw Me One ym mis Mai 2000 ar Universal-Island UK. Teitl yr albwm 12 trac oedd As Far as I'm Concerned [1] ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan Guru (o Gang Starr) ar "Do You Know "a Michelle Gayle ar fersiwn 'cover' o drac The Beach Boys "In My Room". Rhyddhawyd yr olaf fel sengl, ynghyd â "Game Plan" ac "Old Fashioned".

Ar wahân i'w waith unigol, mae Martin wedi ysgrifennu gyda (neu ar gyfer) Jeff Beck, Maxi Priest, The Roots, Capleton, Lynden David Hall a'r Sugababes. Yn 2011 arwyddodd gytundeb recordio gyda'r label recordio o Glasgow, Innovation Music.[2]

Yn 2024, derbyniodd Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig yng Ngwobrau Cerddoriaeth Gymreig.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Kang, Millane (19 August 2000). "Keepin' it real around the world". Billboard. t. 40. Cyrchwyd 30 May 2010.
  2. Innovation Music Official site - Artists page: "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-09. Cyrchwyd 2012-03-28.CS1 maint: archived copy as title (link)
  3. "Technotronic's Pump Up the Jam co-writer wins Welsh music award". BBC News (yn Saesneg). 2024-09-13. Cyrchwyd 2024-09-13.