Mary Gawthorpe
Mary Gawthorpe | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ionawr 1881 Leeds |
Bu farw | 12 Mawrth 1973 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, swffragét, undebwr llafur |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Lafur Annibynnol |
Roedd Mary Eleanor Gawthorpe (12 Ionawr 1881 – 12 Mawrth 1973)[1] yn swffraget, sosialydd, undebwr llafur a golygydd.[2]
Yn 1905 ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched. Yn 1906, stopiodd ddysgu a daeth i weithio'n llawn amser fel trefnydd ar gyfer yr Undeb yn Leeds. Daeth Sylvia Pankhurst i Leicster yn 1907 ac ymuno â Alice Hawkins a gyflwynodd y naill i'r llall gan sefydlu presenoldeb yr Undeb yn Leeds.[3]
Yn ddiweddarach ymunodd â Christabel Pankhurst yng Nghymru, lle'r oedd ei chefndir dosbarth gweithiol a'i chysylltiad â'r symudiad llafur o fudd iddi. Mewn cyfarfod yng Nghymru, a drefnwyd gan Samuel Evans oedd yn sefyll etholaeth fel cynrychiolydd Cymraeg yn y Llywodraeth, cwestiynodd Gawthorpe ef yn dwll mewn Cymraeg perffaith.[4] Yn ogystal â chael ei charcharu sawl gwaith dros ei gweithgareddau gwleidyddol, cafodd Gawthorpe hefyd ei churo'n ddrwg, gan ddioddef anafiadau difrifol am heclo Winston Churchill yn 1909.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Guide to the Mary E. Gawthorpe Papers TAM.275". dlib.nyu.edu. Cyrchwyd 8 January 2018.
- ↑ "Oxford Dictionary of National Biography". Cyrchwyd 2008-03-16.
- ↑ Elizabeth Crawford (2 September 2003). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928. Routledge. tt. 281–. ISBN 1-135-43402-6.
- ↑ "The Woman's Tribune: Correspondences"". 1906.
- ↑ "Spartacus Educational". Cyrchwyd 16 March 2008.