Lucy Stone
Lucy Stone | |
---|---|
Ganwyd | 13 Awst 1818 West Brookfield |
Bu farw | 19 Hydref 1893, 18 Hydref 1893 Boston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, golygydd, diddymwr caethwasiaeth, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, llenor |
Tad | Francis Stone, Jr. |
Priod | Henry Browne Blackwell |
Plant | Alice Stone Blackwell |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod |
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Lucy Stone (13 Awst 1818 - 19 Hydref 1893) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, golygydd, ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched (etholfraint) ac yn erbyn caethwasiaeth.[1]
Fe'i ganed yn West Brookfield, Massachusetts a bu farw yn Boston o ganser y stumog. Mynychodd Goleg Oberlin a Choleg Mount Holyoke. Bu'n briod i Henry Browne Blackwell ac roedd Alice Stone Blackwell yn blentyn iddi.[2][3][4][5][6]
Stone oedd y fenyw gyntaf o Massachusetts i ennill gradd coleg, a hynny yn 1847. Siaradodd dros hawliau menywod ac yn erbyn caethwasiaeth ar adeg pan oedd rhagfarn yn erbyn menywod adeg pan ataliwyd nhw rhag siarad yn gyhoeddus. Roedd Stone yn adnabyddus am ddefnyddio ei henw geni ar ôl priodi, yn hytrach na chymryd cyfenw eu gŵr.
Arweiniodd gweithgareddau Stone dros achos hawliau menywod at enillion a newid deddfwriaethol, a hynny yn amgylchedd gwleidyddol anodd y 19g. Helpodd Stone i sefydlu Confensiwn Cenedlaethol Hawliau Menywod cyntaf yn Worcester, Massachusetts.
Siaradodd Stone o flaen nifer o gyrff deddfwriaethol i hyrwyddo deddfau er mwyn rhoi mwy o hawliau i fenywod. Cynorthwyodd hefyd i sefydlu Cynghrair Teyrngarwch Cenedlaethol y Fenyw (Woman's National Loyal League) i helpu i basio'r "Trydydd Gwelliant ar Ddeg" (the Thirteenth Amendment) a thrwy hynny ddileu caethwasiaeth; ar ôl hynny, cyd-sefydlodd American Woman Suffrage Association (AWSA)'.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed ar fferm ei theulu yn Coy's Hill yn West Brookfield, Massachusetts. Hi oedd yr wythfed o naw o blant a anwyd i Hannah Matthews a Francis Stone; cafodd ei magu gyda thri brawd a thair chwaer, a bu i ddau frawd neu chwaer farw cyn iddi gael ei geni. Aelod arall o aelwyd Stone oedd Sarah Barr, "Modryb Sally" i'r plant - chwaer i Francis a oedd yn ddibynnol ar ei brawd.[7]
Dywedodd un tro mai "un ewyllus oedd yn y teulu, ac ewyllus fy nhad oedd hwnnw." Enillodd Hannah Stone incwm bychan trwy werthu wyau a chaws ond gwrthodwyd unrhyw reolaeth iddi dros yr arian hwnnw, weithiau gwrthododd arian iddi brynu pethau yr oedd Francis yn eu hystyried yn ddibwys. Gan gredu bod ganddi hawl i'w henillion ei hun, roedd Hannah weithiau'n dwyn darnau arian o'i bwrs neu'n gwerthu caws yn gyfrinachol.[8]
Gwaith a choleg
[golygu | golygu cod]Yn 16 oed, dechreuodd Stone ddysgu yn ysgolion yr ardal, fel y gwnaeth ei brodyr a'i chwaer, Rhoda. Roedd ei chyflog cychwynnol o $1.00 y dydd yn llawer is na chyflog athrawon gwrywaidd, a phan weithiodd yn lle ei brawd, Bowman, un gaeaf, derbyniodd lai o dâl nag a gafodd ef. Pan wrthdystiodd i bwyllgor yr ysgol ei bod wedi cyflawni'r gwaith yn union fel Bowman, atebodd na allent roi "dim ond tâl merch iddi."[9]
Ar ôl penderfynu cael yr addysg orau posib, cofrestrodd Stone yn Seminar Menywod Mount Holyoke ym 1839, yn 21 oed, ond cafodd ei siomi gymaint yn anoddefgarwch Mary Lyons o unrhyw siarad am newid y sefydliad a hawliau menywod nes iddi dynnu'n ôl ar ôl un tymor yn unig. Ymhen mis roedd wedi cofrestru yn yr Academi Wesleaidd (a newidiodd ei enw'n ddiweddarach i Academi Wilbraham & Monson) a oedd yn llawer mwy at ei dant: "Penderfynwyd gan fwyafrif mawr yn ein cymdeithas lenyddol y diwrnod o'r blaen," sgwennodd at ei brawd , "y dylai merched gymysgu mewn gwleidyddiaeth, mynd i'r Senedd, ac ati!" [10]
Ar ôl cwblhau blwyddyn yn Academi Monson yn ystod haf 1841, dysgodd Stone fod Sefydliad Colegol Oberlin (Oberlin Collegiate Institute) yn Ohio wedi newid i fod y coleg cyntaf drwy'r wlad i dderbyn menywod ac wedi rhoi graddau coleg i dair merch. Cofrestrodd Stone yn Seminar Quaboag yn Warren, lle darllenodd Virgil a Sophocles ac astudio gramadeg Lladin a Groeg i baratoi ar gyfer arholiadau mynediad Oberlin.[11]
Yn ei thrydedd flwyddyn yn Oberlin, cyfeilliodd Stone ag Antoinette Brown, diddymwr a suffragist a ddaeth i Oberlin ym 1845 i astudio i ddod yn weinidog. Byddai Stone a Brown yn priodi dau frawd a gredai, fel nhw, mewn diddymu deddfau a oedd yn caniatau caethwasiaeth, gan ddod yn chwiorydd yng nghyfraith.[12]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1987)[13] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Electronic Oberlin Group. Oberlin: Yesterday, Today, Tomorrow... Lucy Stone (1818-1893). Adalwyd 9 Mai 2009.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Lucy_Stone. https://www.bartleby.com/library/bios/index15.html.
- ↑ Rhyw: Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103 Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 20 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Lucy Stone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lucy Stone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lucy Stone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Lucy Blackwell Stone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Lucy_Stone.
- ↑ Dyddiad marw: "Lucy Stone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Million, 2003, t. 6.
- ↑ Million, 2003, tt. 11, 282 note 19.
- ↑ Kerr, 1992, p. 23; Million, 2003, t. 19.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/lucy-stone/.
- ↑ Kerr, 1992, t. 28.
- ↑ Oberlin College. Electronic Oberlin Group. Oberlin: Yesterday, Today, Tomorrow... Chapter 10. Oberlin Women. Adalwyd 16 Mawrth 2009.
- ↑ https://www.womenofthehall.org/inductee/lucy-stone/.