Leng Ouch
Leng Ouch | |
---|---|
Ganwyd | 1975 |
Dinasyddiaeth | Cambodia |
Galwedigaeth | amgylcheddwr |
Gwobr/au | Gwobr Amgylchedd Goldman |
Mae Leng Ouch (ganwyd 1975) yn ymgyrchydd hinsawdd o Cambodia. Treuliodd ei blentyndod cynnar yn y coedwigoedd yng Nghambodia a daeth yn actifydd yn erbyn torri coed (logio) anghyfreithlon yng nghoedwigoedd y wlad.[1][2] Mae'n fwyaf adnabyddus am recordio-cudd gweithgareddau logio anghyfreithlon yn ei wlad enedigol.[3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Treuliodd Leng Ouch y rhan fwyaf o'i blentyndod yng nghyfnod y Khmer Rouge yn cuddio yn jyngl Cambodia gan ddechrau ar ei addysg ar ôl i'r teulu symud i Phnom Penh ym 1980. Gweithiodd yn galed ac enillodd ysgoloriaeth yn y gyfraith gan ganiatáu iddo ymuno â llawer o sefydliadau hawliau dynol gan ddechrau ei yrfa fel ymgyrchydd.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Sefydlodd Leng Ouch Dasgluoedd Hawliau Dynol Cambodia (CHRTF), sefydliad ar gyfer brwydro yn erbyn datgoedwigo yn Cambodia.[5] Yn ystod y 2000au a 'r 2010au aeth Leng mewn rol cudd i sefyllfaoedd peryglus, yn aml gan dynnu lluniau a chofnodi tystiolaeth o logio anghyfreithlon[6] a arweiniodd at ganslo 23 consesiwn tir a datguddio gwaith y cwmniau logio mawr.[7] Yn aml, defnyddiai guddwisgoedd i'w gynorthwyo yn ei waith. Dros y blynyddoedd, datgelodd Leng miloedd o droseddau ac atafaelwyd offer pren a logio oddi ar gwmniau a weithredant yn anghyfreithlon.[8] Mae Leng wedi wynebu peryglon mawr yn ei waith ac arestiwyd ef ac ymgyrchwyr eraill sawl gwaith.[9][10]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Dyfarnwyd Gwobr Amgylcheddol Goldman i Leng yn 2016 am ei waith yn datgelu llygredd a logio anghyfreithlon yn Cambodia. [11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Leng Ouch". Goldman Environmental Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ Ives, Mike (2016-04-22). "Fighting to Save Forests in Cambodia, an Activist Puts Himself at Risk". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "Leng Ouch - 2017 Asia Game Changers". Asia Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "Leng Ouch". Goldman Environmental Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "Leng Ouch". Pulitzer Center (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "'Even though I know my life is at risk, I still try to save the forest'". the Guardian (yn Saesneg). 2016-04-18. Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "Conservation Hero: Leng Ouch". One Earth. Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "'Even though I know my life is at risk, I still try to save the forest'". the Guardian (yn Saesneg). 2016-04-18. Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "Goldman Prize-winning Cambodian activist arrested, released in Cambodia". Mongabay Environmental News (yn Saesneg). 2020-03-24. Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "Cambodian environmental activists reportedly arrested". Mongabay Environmental News (yn Saesneg). 2021-02-05. Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ Cole, Laura. "Leng Ouch: investigative reporter and activist - Geographical Magazine". geographical.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-25. Cyrchwyd 2021-04-20.