Neidio i'r cynnwys

Kostís Palamás

Oddi ar Wicipedia
Kostís Palamás
Ganwyd13 Ionawr 1859 Edit this on Wikidata
Patras Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata
Athen Edit this on Wikidata
Man preswylPatras, Missolonghi, Athen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, beirniad llenyddol, bardd, dramodydd, llenor Edit this on Wikidata
SwyddPresident of the Academy of Athens, Aelod o Academi Athens Edit this on Wikidata
MudiadNew Athenian School Edit this on Wikidata
PlantLeandros Palamas Edit this on Wikidata
LlinachQ16327934 Edit this on Wikidata
llofnod
Y Beirdd (1919), paentiad gan Georgios Roilos sy'n portreadu rhai o feirdd yr Ysgol Athenaidd Newydd. O'r chwith i'r dde: Georgios Stratigis, Georgios Drosinis, Ioannis Polemis, Kostís Palamás, Georgios Souris, ac Aristomenis Provelengios.

Bardd Groegaidd oedd Kostís Palamás (Groeg (iaith): Κωστής Παλαμάς; 13 Ionawr 185927 Chwefror 1943)[1] oedd yn un o sefydlwyr yr Ysgol Athenaidd Newydd, neu Genhedlaeth 1880. Roedd ei gasgliadau o gerddi yn mynegi dioddef a dyhead y Groegiaid trwy eiriau telynegol ond pybyr oedd yn osgoi'r arddull Ramantaidd draddodiadol. Ysgrifennodd hefyd y ddrama Trisevgene (1903), straeon byrion, a gweithiau beirniadol a arloesodd beirniadaeth lenyddol fodern yn yr iaith Roeg. Adnabyddir Palamás yn rhyngwladol am gyfansoddi geiriau'r Emyn Olympaidd.

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]
  • Tragoudia tes Patridos mou ("Caneuon Fy Ngwlad"; 1886)
  • Iamboi kai Anapaestoi ("Ŵyn ac Anapaistau"; 1897)
  • Asalefte Zoe ("Bywyd Disymud"; 1904)
  • Dodecalogos tou Gyftou ("Deuddeg Gerdd y Sipsi"; 1907)
  • I flogera tou Vasilia ("Ffliwt y Brenin"; 1910)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Kostís Palamás. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Medi 2013.
Baner Gwlad GroegEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Roegwr neu Roeges. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato..