John Lennon
John Lennon | |
---|---|
Ffugenw | Dr. Winston O’Boogie |
Ganwyd | John Winston Lennon 9 Hydref 1940 Lerpwl, Liverpool Maternity Hospital |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1980 o anaf balistig Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Lerpwl, Dinas Efrog Newydd, Mendips, Menlove Avenue |
Label recordio | Apple Records, Atco Records, Capitol Records, Parlophone Records, EMI, Geffen Records, Polydor Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd recordiau, llenor, actor, canwr-gyfansoddwr, gitarydd, cynhyrchydd ffilm, bardd, cyfansoddwr, actor ffilm, pianydd, canwr, arlunydd, cyfarwyddwr ffilm, person cyhoeddus, rhyddieithwr, ymgyrchydd heddwch, gweithredydd gwleidyddol, artist recordio |
Adnabyddus am | Imagine |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc y felan, cerddoriaeth arbrofol, cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, roc celf, roc seicedelig, roc a rôl, beat music, cerddoriaeth roc caled, roc arbrofol |
Math o lais | bariton |
Tad | Alfred Lennon |
Mam | Julia Lennon |
Priod | Cynthia Lennon, Yoko Ono |
Partner | May Pang |
Plant | Julian Lennon, John Ono Lennon, John Lennon II, Sean Lennon |
Perthnasau | Mimi Smith |
Gwobr/au | MBE, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Rock and Roll Hall of Fame, Gwobr yr Academi am y Sgôr Wreiddiol Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Gwefan | http://www.johnlennon.com/ |
llofnod | |
Cerddor, canwr, cyfansoddwr, awdur ac ymgyrchydd heddwch Seisnig oedd John Winston Ono Lennon, MBE (ganwyd John Winston Lennon) (9 Hydref, 1940 – 8 Rhagfyr, 1980). Daeth i ymlygrwydd fel un o aelodau'r band "The Beatles". Gyda Paul McCartney, ffurfiodd Lennon un o bartneriaethau cyfansoddi caneuon mwyaf llwyddiannus a dylanwadol yr 20g gan "ysgrifennu peth o'r gerddoriaeth mwyaf poblogaidd yn hanes roc a rol".[1] Caiff ei ystyried fel yr ail gyfansoddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes siart sengl y Deyrnas Unedig ar ôl McCartney.[2] Cafodd ei eni yn Lerpwl. Roedd ef o dras Wyddelig (Lennon, o Mac Leannain efallai). Cafodd ei ladd yn Efrog Newydd.
Arddangosodd Lennon ei natur wrthryfelgar a'i ffraethineb yn ei gerddoriaeth, ei ffilmiau, ei lyfrau ac mewn cyfweliadau a chynhadleddau i'r wasg. Roedd yn ddadleuol fel ymgyrchydd heddwch ac artist gweledol. Ar ôl The Beatles, cafodd Lennon yrfa unigol lewyrchus gydag albymau clodwiw megis "John Lennon/Plastic Ono Band" ac Imagine a'i ganeuon eiconig fel "Give Peace a Chance" ac "Imagine". Pan "ymddeolodd" er mwyn magu ei fab Sean, dychwelodd Lennon gydag albwm newydd, Double Fantasy, ond cafodd Lennon ei lofruddio llai na mis wedi i'r albwm gael ei rhyddhau. Aeth yr albwm i ymlaen i ennill Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn ym 1981.
Yn 2002, mewn arolwg barn y BBC o'r 100 o Brydeinwyr Gorau, rhoddwyd Lennon yn yr wythfed safle. Yn 2004, rhoddodd cylchgrawn Rolling Stone Lennon ar rif 38 ar eu rhestr "The Immortals: The Fifty Greatest Artists of All Time" (Rhoddwyd The Beatles ar rif un). Yn yr un cylchgrawn yn 2008, cafodd ei ystyried y pumed canwr gorau erioed. Ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei gyflwyno i'r "Songwriters Hall of Fame" ym 1987 ac i'r Rock and Roll Hall of Fame ym 1994.
Gwragedd
[golygu | golygu cod]Plant
[golygu | golygu cod]- Julian Lennon (ganwyd 8 Ebrill 1963)
- Sean Lennon (ganwyd 9 Hydref 1975)
Disgograffiaeth
[golygu | golygu cod]Gyda'r Beatles
[golygu | golygu cod]- Please Please Me (1963)
- With the Beatles (1963)
- Beatles for Sale (1964)
- Rubber Soul (1965)
- Revolver (1966)
- Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band (1967)
- The Beatles (1968)
- Abbey Road (1969)
- Let it be (1970)
Gwaith Unigol
[golygu | golygu cod]- Imagine
- Mind Games
- Walls and Bridges (1974)
Gyda Yoko Ono
[golygu | golygu cod]- Double Fantasy
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ bbc.co.uk/dna/h2g2 "The Lennon-McCartney Songwriting Partnership" Cyfieithad o wefan bbc.co.uk, 04-11-05. Adalwyd ar 14-12-2006
- ↑ Top 100 Songwriters. Adalwyd 09-10-2009