Neidio i'r cynnwys

John Devonald

Oddi ar Wicipedia
John Devonald
Ganwyd13 Mai 1863 Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 1936 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Roedd John Devonald (13 Mai 186325 Medi 1936) yn gerddor ac yn arweinydd partïon canu Cymreig.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Devonald yn Aberdâr yn blentyn i Caleb Morris Devonald, gyrrwr peiriant locomotif a Mary (née Thomas) ei wraig. Bu farw Caleb Devonald o detanws wedi i'w beiriant rhedeg dros ei goes ym 1869 gan adael ei wraig a'i dri phlentyn yn amddifad. Magwyd John, ar ôl marwolaeth ei dad gan ei fodryb Margaret a'i gŵr Isaac George, gweithiwr haearn, Aberdâr.

Hyfforddwyd Devonald i fod yn ofaint. Fe'i penodwyd yn arweinydd y gân r gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Abercarn ym 1885 [2]. Ym 1887 symudodd i fod yn arweinydd y gân ac arweinydd côr Capel Cymraeg Bryste cyn iddo ddychwelyd i Aberdâr i gadw tafarn y Marquis of Bute. Wedi ildio trwydded y dafarn bu'n gweithio wedyn mewn amryw swyddi yn y diwydiant glo.[3]

Cerddor

[golygu | golygu cod]

Yn dod o deulu cerddorol, bu'n llwyddiannus mewn cystadlaethau canu o'i ieuenctid. Daeth yn aelod o Gôr Undebol Aberdâr pan oedd yn 11 oed. Cafodd cryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, daeth yn ail yng nghystadleuaeth yr unawd bas yn Eisteddfod Caerdydd 1883 [4] ac  enillodd ar ganu penillion yn eisteddfodau cenedlaethol 1895, 1897 [5] 1901 [6] 1903 [7] 1905 [8] a 1907.[9] Ym 1895 bu hefyd yn perfformio un o brif rannau Opera Joseph Parry, Blodwen.[10]. Fe fu yn gyfrannwr rheolaidd a phoblogaidd mewn cyngherddau ac eisteddfodau lleol yn ardal lofaol y de a gweddill Cymru am nifer o flynyddoedd. (Er mae'n anodd bod yn hollol sicr o rai adroddiadau'r cyfnod os mae ef, neu geraint iddo, John Devonald, prif faswr ac arweinydd Côr Meibion Brenhinol Treorci, oedd seren y sioe).

Yn ogystal â chanu ei hun bu Devonald hefyd yn arwain partïon canu. Roedd yn aelod ac arweinydd yr Aberdare Welsh Quartette ac yn arweinydd y côr madrigal Y Cymric am 15 mlynedd.[1]

Rhwng 1930 a'i farwolaeth bu ganddo golofn reolaidd yng nghylchgrawn Y Cerddor ‘Nodion o Ferthyr, bu hefyd yn cyfrannu cofiannau cerddorion i'r cylchgrawn.

Ym 1891 priododd Devonald ag Annie Evans, Merthyr cawsant fab a thair merch, bu farw pob un o'r merched yn eu plentyndod a bu farw Brinley, eu mab yn Boulogne, Ffrainc ym mis Ebrill 1918, un o golledigion y Rhyfel Byd Cyntaf.[11]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw ym Merthyr yn 73 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Aberfan.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "DEVONALD, JOHN (1863 - 1936), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-12.
  2. "ABERCARN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1887-02-10. Cyrchwyd 2020-10-12.
  3. "BLODWEN AT FERNDALE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-11-15. Cyrchwyd 2020-10-12.
  4. "WEDNESDAY'S PROCEEDINGS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1883-08-11. Cyrchwyd 2020-10-12.
  5. "MORNING MEETING - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1897-08-07. Cyrchwyd 2020-10-12.
  6. "National Eisteddfod - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-08-07. Cyrchwyd 2020-10-12.
  7. "CROWNING THE BARD - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-08-05. Cyrchwyd 2020-10-12.
  8. "DYDD MAWRTH - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1905-08-10. Cyrchwyd 2020-10-12.
  9. "EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ABERTAWE - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1907-08-30. Cyrchwyd 2020-10-12.[dolen farw]
  10. "BLODWEN AT FERNDALE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-11-15. Cyrchwyd 2020-10-12.
  11. "Casualty Details, CWGC: David Brinley Devonald". www.cwgc.org. Cyrchwyd 2020-10-12.