Ilarion, Archesgob Kyiv
Ilarion, Archesgob Kyiv | |
---|---|
Eicon o Sant Ilarion. | |
Ganwyd | c. 990 |
Bu farw | c. 1055 |
Galwedigaeth | offeiriad, llenor |
Blodeuodd | 11 g |
Swydd | metropolitan, Metropolitan of Kiev and all Rus' |
Adnabyddus am | Sermon on Law and Grace |
Dydd gŵyl | 11 Hydref |
Clerigwr ac awdur o Rws Kyiv oedd Ilarion neu Hilarion (Rwseg: Иларион, Wcreineg: Іларіон, Belarwseg: Іларыён) a wasanaethodd yn Archesgob Kyiv o 1051 i 1054. Efe oedd y Slafiad cyntaf, yn hytrach na Groegwr, i ddal y swydd honno, ac efe hefyd oedd yr awdur cyntaf i ysgrifennu yn yr iaith Hen Slafoneg Eglwysig.
Ni wyddys dyddiadau na mannau ei enedigaeth a marwolaeth. Mae ei fywgraffiad yn seiliedig ar groniclau canoloesol y Rws, yn bennaf Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen. Dywed taw offeiriad o Eglwys yr Apostolion Sanctaidd yn Berestovo, ar gyrion Kyiv, ydoedd, a chloddiodd gell i'w hunan er mwyn gweddïo ar fryn ger Afon Dnieper, ac yno y byddai Sant Antwn yn sefydlu Ogof-Fynachlog Kyiv.[1]
Ilarion oedd yr ail o Archesgobion Kyiv, ar ôl y Groegwr Theopemptos (Wcreineg: Feopempt) a wasanaethodd o 1039 i 1051. Penodwyd Ilarion gan Iaroslav Ddoeth, Uchel Dywysog Kyiv, a fe'i cadarnhawyd gan gyngor o esgobion y Rws. Yn draddodiadol, dywed i Ilarion gymryd y swydd heb gefnogaeth Michael I Cerularius, Patriarch Caergystennin, ond mae ambell ysgolhaig yn credu nid yw hynny'n wir, ac mae'n debyg i'r ddwy offeiriadaeth ddod i gytundeb o ryw fath.[1][2] Fe'i olynwyd yn Archesgob Kyiv gan Roegwr arall, Efrem, erbyn 1055. Dim ond un Slafiad arall a fyddai'n dal yr archesgobaeth trwy gydol hanes Rws Kyiv.
Mae pregethau Ilarion ymhlith yr esiamplau amlycaf, a chynharaf, o lên Slafig. Ei waith enwocaf yw'r "Bregeth ar Gyfraith a Gras" (ysgrifennwyd cyn 1052), molawd i'r Sant Volodymyr, Uchel Dywysog Kyiv a sefydlogodd yr Eglwys Uniongred yn grefydd y wladwriaeth. Mae ysgrifeniadau Ilarion yn dangos gwybodaeth eang o batristeg a diffyniadaeth y Groegiaid.[2] Priodolir iddo dri gwaith arall: gweddi, cyffes ffydd, a chasgliad byr o gyfarwyddiadau i offeiriaid.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Lawrence N. Langer, Historical Dictionary of Medieval Russia (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2002), t. 69.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Hilarion of Kiev. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Ionawr 2023.
- ↑ (Saesneg) "Ilarion, Metropolitan", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 21 Ionawr 2023.