Harold Lowe
Harold Lowe | |
---|---|
Ganwyd | 21 Tachwedd 1882 Llanrhos |
Bu farw | 12 Mai 1944 Degannwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | morwr |
Roedd y Comander Harold Godfrey Lowe RD RNR (21 Tachwedd 1882 – 12 Mai 1944) yn Bumed Swyddog ar fwrdd yr RMS Titanic ar adeg ei suddo ym 1912.[1]
Blynyddoedd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Harold Lowe yn Eglwys Rhos, ger Conwy ym 1882 y pedwerydd o wyth o blant a anwyd i George a Harriet Lowe. Bwriad y tad oedd i Harold cael ei brentisio i ddyn busnes llwyddiannus yn Lerpwl ond roedd Harold yn benderfynol o fynd i'r môr. Yn 14, rhedodd i ffwrdd o'i gartref yn y Bermo lle'r oedd wedi mynychu'r ysgol ac ymunodd â'r Llynges Fasnachol, yn gwasanaethu ar hyd Arfordir Gorllewin Affrica. Dechreuodd Lowe fel bachgen ar fwrdd sgwneri arfordirol Cymru wrth weithio i ennill ei ardystiadau. Ym 1906, llwyddodd yn yr ardystiadau i ddyfod yn ail fêt. Ym 1908, fe enillodd dystysgrif mêt cyntaf.[2]
Wedi ennill tystysgrif Meistr ymunodd Lowe a chwmni White Star ym 1911. Gwasanaethodd fel trydydd swyddog ar longau'r Belgic a'r Tropic cyn cael ei drosglwyddo i'r Titanic fel y pumed swyddog ym 1912. Er gwaethaf ei flynyddoedd niferus ar y môr, mordaith y Titanic oedd y tro cyntaf iddo wneud taith trawsatlantig.
Ar fwrdd y Titanic
[golygu | golygu cod]Rhagbaratoi
[golygu | golygu cod]Fel swyddogion iau eraill y llong, adroddodd Lowe i swyddfeydd White Star, Lerpwl, am naw o gloch y bore ar 26 Mawrth 1912, cyn teithio i Belfast y diwrnod canlynol er mwyn dod yn rhan o staff y Titanic. Ar y diwrnod hwylio (10 Ebrill), bu Lowe yn cynorthwyo (ymhlith pethau eraill) i ostwng dau o'r badau achub er mwyn bodloni'r Bwrdd Masnach fod y Titanic yn bodloni'r rheoliadau diogelwch.[3].
Y suddo
[golygu | golygu cod]Ar 14 Ebrill 1912, noson y suddo, cafodd Lowe ei rhyddhau am 8.00 pm gan y Chweched Swyddog Moody ac yn cysgu pan darodd y llong mynydd iâ am 11.40 o'r gloch. Parhaodd i gysgu drwy'r gwrthdrawiad gan ddeffro tua hanner awr ar ôl y digwyddiad.[4].
Wedi deffro a chael ei hysbysu o'r sefyllfa gwisgodd gafaelodd yn ei ddryll ac aeth ati yn syth i weithio. Ei dasg gyntaf oedd llenwi a gollwng bad achub rhif 5 i'r môr, wedi gwneud hynny aeth ef a'r swyddog Moody i lenwi badau rhif 12 i 16 ar ochr port y llong. Gan nad oedd Swyddog gyda'r grŵp hwn o fadau awgrymodd Moody mae da o beth byddai i Lowe mynd ar un o'r badau er mwyn derbyn cyfrifoldeb dros eu diogelwch ar y môr. Erbyn i fad rhif 14 cael ei lansio roedd y sefyllfa ar ddec y prif lestr yn troi'n banig wrth i'r rhan fwyaf o'r teithwyr sylwi bod y llong ar fin darnio, a bu'n rhaid i Lowe tanio tair ergyd o'i gŵn[5] i'w rhwystro rhag gorlwytho'r bad a lladd ei holl deithwyr.[6]
Achub bywydau
[golygu | golygu cod]Ar ôl cyrraedd y dŵr, gorchmynnodd Lowe i'w bad achub i gael ei rwyfo tua 150 llath (140m) i ffwrdd o'r Titanic. Pan suddodd y llong tua 2:20, dechreuodd Lowe i gasglu nifer o gychod achub yng nghyd. Roedd yn dymuno dychwelyd i godi goroeswyr ond roedd ofnau o gael eu llethu gan ormodedd o bobl. Fe ail ddosbarthodd y goroeswyr yn y grŵp o fadau achub oedd wedi casglu ynghyd er mwyn sicrhau bod o leiaf un o'r badau yn wag i chwilio am oroeswyr ychwanegol i'w hachub o ddŵr y môr, ei fad ef oedd un o ddau yn unig a fentrodd i ail chwilio am oroeswyr, a'r unig un i godi'r hwyliau oedd ar bob bad achub er mwyn cyflymu'r gwaith o gyrraedd at bobl oedd ar fin trengi.
Cafodd Lowe a'i grŵp o fadau achub eu codi'r bore wedyn gan y RMS Carpathia.
Yr ymchwiliadau
[golygu | golygu cod]Glaniodd goroeswyr y Titanic ar Bier 54 yn Efrog Newydd ar 18 Ebrill. Galwyd Lowe yn fuan i dystio yn yr ymchwiliad yn America i mewn i'r suddo. Byrddiodd ar yr Adriatic ar 2 Mai i ddychwelyd i wledydd Prydain, a chafodd ei alw i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad Prydeinig. Bu cwyno bod tystiolaeth Lowe i'r ymchwiliad Americanaidd yn wamal a sarhaus er enghraifft pan ofynnwyd iddo ; O ba beth y gwnaed mynydd rhew ei ateb oedd rhew am wn i Syr cafodd ei feirniadu hefyd am fod yn hiliol a bu'n rhaid iddo ymddiheuro ddwywaith am ddefnyddio'r term Eidalwr fel mwys am lwfrgi.
Yn 2012 gwnaed traws ysgrifau o'r holl dystiolaeth a roddwyd gerbron ymchwiliad y Senedd yn yr UDA ac ymchwiliad Comisiynydd Llongddrylliadau Prydain a'u gosod ar y we. Mae tystiolaeth Lowe yn dechrau ar y pumed diwrnod o'r ymchwiliad Americanaidd ac ar ddiwrnod 13 o'r ymchwiliad yn Llundain.[7]
Bywyd wedi'r Titanic
[golygu | golygu cod]Wedi iddo ddychwelyd i'r Bermo mynychodd 1,300 o bobl dderbyniad dinesig a gynhaliwyd i'w anrhydeddu yn y Pavilion Picture House (safle clwb nos y Sandancer bellach). Cyflwynwyd oriawr aur iddo yn dwyn arysgrif Cyflwynwyd i Harold Godfrey Lowe, 5ed swyddog R.M.S. Titanic gan ei ffrindiau yn Abermaw ac mewn mannau eraill i gydnabod a gwerthfawrogi ei wasanaeth dewr ar ddarnio'r Titanic 15 Ebrill 1912.
Ym mis Medi 1913, priododd ag Ellen Marion Whitehouse, a bu iddynt ddau o blant, Florence Josephine a Harold William. Gwasanaethodd yn y Royal Naval Reserve yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan wasanaethu yn Vladivostok ar adeg Chwyldro a Rhyfel Cartref Rwsia; cafodd ei ddyrchafu i reng Is-gapten, RNR. Ar ôl y rhyfel dychwelodd i wasanaethu gyda llongau rhyngwladol y llynges fasnachol a chwmni White Star, gan ymddeol ym 1931 a symyd i Ddeganwy gyda'i deulu. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gwasanaethu fel Warden Cyrchoedd Awyr hyd i'w iechyd dorri gan ei orfodi i ddefnyddio cadair olwyn.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Harold Lowe o bwysedd gwaed uchel ar 12 Mai 1944 yn 61 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Llandrillo-yn-rhos[8].
Gosodwyd plac o lechen er cof am Lowe ar furiau Tŷ'r Harbwrfeistr yn y Bermo yn 2012 gydag ysgrif yn dweud Er cof am arwr lleol y 5ed swyddog Harold Godfrey Lowe. Adawodd Abermaw yn 14 oed i fynd i'r môr. Bu ganddo ran arwrol yn achub rhai a oroesodd wedi suddo'r RMS Titanic ar 15 Ebrill 1912[9]. Ceir plac glas er cof amdano ar furiau ei gartref olaf yn Neganwy hefyd[10].
Portreadau
[golygu | golygu cod]Mae Lowe yn cael ei bortreadu gan yr actorion
- Ioan Gruffudd yn ffilm 1997 Titanic
- Kevan Smith yn y gyfres teledu Americanaidd o 1996 Titanic
- Ifan Meredith yng Nghyfres drama ITV 2012 Titanic[11]
Ysgrifennwyd cofiant i Lowe Titanic Valour: The Life of Fith Officer Harold Lowe gan Inger Shell yn 2011 [12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Famous Welsh Harold Lowe: Titanic hero from Eglwys Rhos, Caernarfonshire, North Wales adalwyd 23 Mai, 2016
- ↑ Fifth Officer Harold Geoffrey Lowe adalwyd 23 Mai 2016
- ↑ United States Senate Inquiry Day 5 Testimony of Harold G. Lowe, cont (2)
- ↑ United States Senate Inquiry Day 5 Testimony of Harold G. Lowe, cont (3)
- ↑ HOLDS BACK MEN AT PISTOL POINT Worcester Evening Gazette ref: #2878, adalwyd 26th Mai 2016
- ↑ Eaton, John P.; Haas, Charles A. (1987). Titanic: Destination Disaster: The Legends and the Reality. Wellingborough, UK: Patrick Stephens. ISBN 978-0-85059-868-1.
- ↑ Titanic Enquiry Project adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ BBC Lleol Lluniau Llandrillo-yn-Rhos adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ Darllediad ITV Welsh hero of Titanic remembered 100 years on adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ BBC Titanic hero Harold Lowe: Blue plaque unveiled at Deganwy home adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ Actor Ifan Meredith plays the real-life Welsh hero at the heart of the Titanic saga Wales Online adalwyd 26 Mai 2016
- ↑ Hysbyseb ar Amazon