Gwgon ap Meurig
Gwedd
Gwgon ap Meurig | |
---|---|
Ganwyd | 808 Teyrnas Ceredigion |
Bu farw | 872 Penrhyn Gŵyr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Seisyllwg |
Cysylltir gyda | Gwgon Gleddyfrudd |
Tad | Meurig ap Dyfnwal |
Gwgon ap Meurig oedd brenin olaf Teyrnas Ceredigion. Ychydig iawn o wybodaeth bendant sydd ar gael amdano.
Cyfeirir ato fel Guocaun map Mouric yn y ddogfen Hen Gymraeg a adnabyddir fel Achresau Harley (adran XXVI). Credir y cafodd y ddogfen honno ei llunio yn nheyrnas Deheubarth.
Priododd ei chwaer Angharad y brenin Rhodri Mawr o Wynedd.
Yn ôl yr Annales Cambriae, bu farw Gwgon drwy foddi yn 871.[1]
Mae'n bosibl fod yr arwr traddodiadol Gwgon Gleddyfrudd i'w uniaethu â Gwgon ap Meurig, ond ymddengys yn fwy tebygol ei fod yn hynafiad iddo (os cymeriad hanesyddol ydyw mewn gwirionedd).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Gwgon ap Meurig. Family Search. Adalwyd ar 4 Mai 2012.