Gwasg filwrol
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Gwasg milwrol)
Amrywiad o'r ymarfer hyfforddi gyda phwysau "gwasg uwchben" yw'r gwasg filwrol.
Mae'r wasg filwrol yn targedu cyhyrau'r deltoid yn yr ysgwyddau yn ogystal â'r cyhyryn triphen. Yn ogystal â hyn, mae'n ymarfer y cyhyrau craidd a'r coesau, wrth i'r codi pwysau ddefnyddio'r cyhyrau hyn er mwyn sefydlogi ei hun.
Dechreua'r codiad wrth i'r codwr sefyll a'i sodlau yn cyffwrdd â'i gilydd a'r barbel ar y deltoid blaen. Yna codir y barbel uwch y pen drwy wasgu cledrau'r dwylo yn erbyn ochr waelod y barbel.
Gellir gwneud yr ymarfer naill ai'n sefyll neu wrth eistedd.