Gwas neidr mudol
Gwas neidr mudol | |
---|---|
Gwryw | |
Benyw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Aeshnidae |
Genws: | Aeshna |
Rhywogaeth: | A. mixta |
Enw deuenwol | |
Aeshna mixta (Latreille, 1805) |
Gwas neidr bychan o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr mudol (enw gwrywaidd; llu. gweision neidr mudol; Lladin: Aeshna mixta; Saesneg: migrant hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae tiriogaeth yr A. mixta yn ymestyn o ogledd Affrica i dde a chanol Ewrop hyd at rhabarthau'r Baltig.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o weision neidr mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser i ffwrdd o ddŵr, ond mae'n dychwelyd ato i baru, yn enwedig at ddŵr araf ei lif. Mae ar ei adain rhwng Gorffennaf a diwedd Hydref. Yn aml, maent yn dod at ei gilydd, a gwelir cwmwl ohonynt yn hedfan ar adegau.
-
Gwryw, gyda marciau nodweddiadol
-
Benyw, gyda marciau nodweddiadol
-
Gwryw
-
Gwryw ar ei adain
-
Cyplysu / paru
-
Cyplysu / paru
-
Y fenyw yn dodwy
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Ar ei adain, mae'n ymddangos yn eitha tywyll ei liw ac yn debyg i'r Ymerawdwr, gydag abdomen glas. Ond y gwas neidr tebycaf iddo yw A. affinis, yn enwedig pan maent yn hedfan wrth ei gilydd. Mae'n debyg i weddill y genws aeshna, oddigerth i siâp 'Tî golff' ar ail gylchran ei abdomen (sef S2).
-
Benyw, gyda marciau nodweddiadol
-
Gwryw
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- "Gomphus vulgatissimus". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 28 Mai 2011. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help)