Gwahanglwyf
Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd heintus bacterol cychwynnol, clefyd mycobacteraidd heintus, clefyd y llygad, niwropatheg amgantol, testicular disease, upper respiratory tract disease, neglected tropical disease, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Afiechyd a achosir gan y bacteriwm Mycobacterium leprae yw'r gwahanglwyf. Darganfuwyd y bacteriwm gan feddyg o Norwy, Armauer Hansen, yn 1873.
Gellir trosglwyddo'r gwahanglwyf o un person i'r llall, yn aml trwy besychu neu disian. Gall y bacteriwm fyw yn y corff am gyfnod hir, weithiau am flynyddoedd, heb fod unrhyw arwydd o'r afiechyd. Mae'n effeithio ar ran allanol y corff, y croen yn arbennig, ac os na cheir triniaeth mae'n ymledu i ddinistrio'r nerfau, fel nad oes teimlad mewn rhannau o'r corff. Yn y pen draw, gall y claf golli rhannau o'r corff megis bysedd neu'r trwyn.
Ofnid yr afiechyd yn fawr yn y Canol Oesoedd ac yn ddiweddarach, a chedwid y cleifion ar wahân i weddill y boblogaeth. Weithiau, fe'u cedwid ar ynys. Erbyn hyn, mae triniaeth effeithiol ar gael, ond mae'r gwahanglwyf yn parhau yn broblem mewn rhai rhannau o'r Trydydd Byd. Ceir y nifer fwyaf o gleifion yn India a Brasil.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Rod Edmond, Leprosy and Empire: A Medical and Cultural History (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2006)